Clynnog Fawr

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i: llywio, chwilio
A view of Clynnog-Vawr near Carnarvon.jpeg

Clynnog Fawr yw plwyf mwyaf Uwchgwyrfai o ran arwynebedd. Enw llawn y plwyf yw "Clynnog Fawr yn Arfon". Ystyr "Clynnog" yw man lle mae coed celyn yn tyfu. Yn wir, ceir enghreifftiau o'r enw Y Gelynnog mewn dogfennau cynnar.

Yn ogystal â phentref Clynnog Fawr ei hun,ble mae'r eglwys ac nid nepell o'r môr, mae'r plwyf yn cynnwys y pentrefi neu'r treflannau canlynol: Capel Uchaf, Tai'n Lôn, Pontlyfni, Brynaerau, Aberdesach ac, ym mhenucha'r plwyf, Pant-glas, yn ogystal ag ardal fwy gwasgaredig Bwlchderwin.

Mae'n debygol y defnyddir yr ansoddair 'mawr' ar ôl yr enw i'w wahanaethu oddi wrth Glynnog Fechan ym mhlwyf Llangeinwen, sir Fôn, lle oedd gan y sefydliad crefyddol (neu 'glas') a sefydlwyd gan Beuno diroedd - neu efallai oherwydd pwysigrwydd y man i'r Eglwys, ac oherwydd maint yr eglwys ei hun.

Ffiniau a thirwedd[golygu]

Mae i'r de o blwyfi Llandwrog a Llanllyfni (gan godi dros Fynydd Graig Goch hyd at gopa Craig Cwm Dulyn), ac i'r gogledd o blwyf Llanaelhaearn, yn ogystal â ffinio ar nifer o blwyfi Eifionydd, hefyd ar ei ffin ddeheuol.

Yr oedd y plwyf yn rhan o Undeb Gwarcheidwaid Caernarfon at ddibenion Deddf y Tlodion o 1837 ymlaen.

Yr eglwys a'i sant[golygu]

Credir i Beuno Sant sefydlu 'clas' neu fynachlog agored yn unol ag arferion yr eglwys Geltaidd, a hynny yn ystod y 7g, o bosibl rhwng 620 a 633. Dyma un o brif gyrchfannau i bererinion ar eu taith i Ynys Enlli, a daeth cyfoeth yn sgil yr ymwelwyr defosiynol - dichon mai hen flwch derw a elwir yn gyff Beuno sydd yn dal yn yr eglwys oedd y blwch offrwm a ddefnyddid i hel cyfraniadau'r pererinion. Gyda chyfoeth o'r fath, codwyd eglwys newydd ar safle hen eglwys Beuno rhwng 1480 a 1500 - ond ar ôl diddymu'r mynachlogydd a sefydliadau pererindota yn y 1530au, dim ond fel eglwys y plwyf y defnyddid - ac y defnyddir - yr adeilad.

Mae'r eglwys wedi ei chysegru yn enw Beuno Sant, ei sylfaenydd tybiedig, sydd â sant sydd yn gysylltiedig a sawl eglwys arall yng Nghymru, gan gynnwys eglwysi Carnguwch a Phistyll sy'n ffinio ar Uwchgwyrfai, ac eglwys Aberffraw ar draws Bae Caernarfon o Glynnog Fawr ymysg eraill.

Nid nepell o'r eglwys ceir Ffynnon Beuno, ychydig i'r de ar ochr yr hen lôn bost cyn cyrraedd Maes Glas.

Roedd ysgol yng Nghapel Beuno (Eglwys y Bedd) yn 1811.

Tai a phobl nodedig[golygu]

Prif dŷ'r plwyf yn yr amser a fu,efallai, oedd Lleuar-fawr. Roedd Mynachdy Gwyn ym mhen ucha'r plwyf, cartref teulu Meredydd neu Feredith hefyd yn fangre o ddylanwad.

Ymysg y rhai a hanai o'r plwyf neu a drigai ynddo oedd:

Y pentref[golygu]

Safai'r pentref o bobtu'r lôn bost rhwng Caernarfon a Phwllheli - ond, erbyn hyn, mae ffordd osgoi wedi mynd â'r traffig o ganol y pentref. Arferai fod yn gyrchfan bwysig, nid yn unig oherwydd y cysylltiadau â Beuno, ond hefyd gan mai dyma'r pentref oedd yr agosaf at hanner y ffordd rhwng Caernarfon a Phwllheli, ac roedd galw am dafarnau a gwesty coets fawr yma. Fodd bynnag, aeth llawer o'r busnes i gyfeiriad y rheilffyrdd, pan agorodd honno i Bwllheli (trwy Afon-wen) ym 1867. Ys dywed W. R. Ambrose: "Er pan agorwyd Rheilffordd Sir Gaerynarfon y mae pentref Clynnog wedi myned yn un o'r cilfachau mwyaf tawel a neillduedig o fewn y wlad."[1]

Bu nifer o dafarnau a siopau a gweithdai crefftwyr, yn cynnwys gefail, yma dros y blynyddoedd, ond caewyd y gwesty olaf, Y Beuno, yn nechrau'r 2010au a'i osod yn lle gwyliau hunan ddarpar. Roedd swyddfa'r post a oedd hefyd yn siop wedi cau erbyn hynny, ond mae siop arall wedi agor yn y garej ar gyrion y pentref. Ar un cyfnod caed llyfrgell bentrefol nad oedd yn perthyn i lyfrgell y sir yn yr Ysgoldy ble mae Canolfan Hanes Uwchgwyrfai wedi ei sefydlu - yn hen Ysgol Ragbaratoawl Clynnog, sef ysgol y Methodistiaid Calfinaidd a gychwynnodd ddarpar weinidogion ar eu gyrfa o astudio am y weinidogaeth. Fe'i caewyd ym 1929 a'i throsglwyddo i'r Rhyl.

Agorwyd Neuadd y Pentref, Clynnog Fawr yn Ebrill 1957.

Prif nodweddion y pentref yw'r Eglwys, ffynnon Beuno a Chromlech Bachwen.

Digwyddiadau[golygu]

Hydref 5 1652: Cosbi William Rowland am halogi'r Saboth. Ei drosedd oedd gyrru gyrr o wartheg o Landwrog i Bwllheli. Fe'i dirwywyd i 10 swllt.

Mehefin 25 1976: Torri ceubren y pentref ger Tyrpaig. Yn ôl traddodiad byddai'r pentref farw pe gwneid hyn. Lluniau i ddilyn a rhagor o hanes.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. W.R. Ambrose, Nant Nantlle, (1872), t.96.