Clynnog (trefgordd)

Oddi ar Cof y Cwmwd
Jump to navigation Jump to search

Roedd Clynnog yn enw ar un o drefgorddi cwmwd Uwchgwyrfai. Yn fras, roedd yn gorwedd i'r de o drefgorddi Pennarth a Bryncynan, ac i'r gogledd-orllewin o drefgordd Cwm. Roedd yna ddaliadau o dir caeth a rhydd o fewn ei ffiniau, ac awdurdodau sefydliad eglwysig Sant Beuno yng Nghlynnog oedd yn rheoli'r drefgordd, yn hytrach na swyddogion y Tywysog - er, yn nes ymlaen o leiaf, rhaid oedd cyflwyno peth ardreth i'r arglwydd lleyg a mynychu llysoedd ei swyddogion.

Yn 1352 fe wnaed arolwg o drethi, taliadau a gwasanaethau oedd yn ddyledus gan denantiaid a rhydd-ddeiliaid y cwmwd i'r arglwydd (sef, erbyn hynny, tywysog Seisnig Cymru. Cyfeirir at yr arolwg hwnnw fel Stent 1352, ac fe'i argraffwyd yn y Lladin wreiddiol ym 1838.[1] Isod gwelir cyfieithiad rhydd o'r manylion am drefgordd Clynnog. Mae esboniad o rai termau technegol a ddefnyddir yn y cyfieithiad ac am fwy o fanylion am y Stent ei hun, gweler yma.

CLYNNOG
Mae hon yn drefgordd rydd ac fe’i delir o dan Sant Beuno. Ac mae Madog ap Einion ap Phylip, Dafydd ap Adda ap Eneas ac eraill yw’r tenantiaid ohoni. Ac nid ydynt yn gwneud dim taliadau i’r arglwydd Dywysog yn flynyddol ond mae ganddynt ddyletswydd mynychu Melin Eithinog yr arglwydd. Ac mae ganddynt ddyletswydd mynychu llysoedd Sir a Hwndrwd yr arglwydd. Ac [maent yn talu] 10 swllt o ebediw, gobrestyn ac amobr a.y.b. Ac maent yn mynd gyda’r Arglwydd Dywysog i’w ryfeloedd. Ac y mae yn y drefgordd hon dwy fufedd o dir siêd a ddaeth oddi wrth Cocyn Annon. Ac am y tir hwn sydd newydd gychwyn cael ei amaethu fe delir adeg y Pasg a Gŵyl Sant Mihangel mewn taliadau cyfartal 2s. y flwyddyn.
Cyfanswm blynyddol: 2s.
Ac yn y drefgordd hon mae hanner bufedd o dir siêd a ddaeth oddi wrth Cyfnerth Fychan. Ac am y tir hwn sydd newydd gychwyn cael ei amaethu fe delir am y tir newydd hwnnw adeg y Pasg a Gŵyl Sant Mihangel mewn taliadau cyfartal 4c. y flwyddyn.
Cyfanswm blynyddol: 4c.
Ac yn y drefgordd hon mae bufedd o dir siêd a ddaeth oddi wrth Gwynellgu. Ac am y tir hwn sydd newydd gychwyn cael ei amaethu fe delir adeg y Pasg a Gŵyl Sant Mihangel mewn taliadau cyfartal 2s. y flwyddyn.
Cyfanswm blynyddol: 2s.
Ac yn y drefgordd hon mae hanner bufedd o dir siêd a ddaeth oddi wrth Gwion Fychan ap Wion. Ac am y tir hwn sydd newydd gychwyn cael ei amaethu fe delir am y tir newydd hwnnw ar y wyliau uchod mewn taliadau cyfartal 6c. y flwyddyn.
Cyfanswm blynyddol: 6c.
Ac yn y drefgordd hon mae hanner bufedd o dir siêd a ddaeth oddi wrth Ieuan Ddu ap Cadog. Ac am y tir hwn sydd newydd gychwyn cael ei amaethu fe delir am y tir newydd hwnnw ar y ddwy ŵyl uchod mewn taliadau cyfartal 3c. y flwyddyn.
Cyfanswm blynyddol: 3c.
Ac mae’r tir siêd hwnnw’n aros yn nwylo’r Arglwydd. Mae o ei hun yn ei oruchwylio. Ac mae gan denantiaid y drefgordd hon daeogion yn yr un drefgordd sydd yn talu eu cyfran o ddirwyon y tyrnau mawr. Ac maent yn talu Cylch Rhaglaw a Chylch Stalwyn . Ac mae ganddynt ddyletswydd mynychu Melin Eithinog yr arglwydd. Ac maent yn ymbresenoli o flaen y Siryf ddwywaith y flwyddyn yn ei ddau dwrn mawr. Ac os telir camlwrw  yn llys yr Hwndrwd neu’r tyrnau [y gwneir hynny]. Yr Arglwydd Dywysog sydd yn derbyn y taliadau camlwrw. Ac mae’r taeogion hyn yn darparu bwyd a diod ar gyfer heliwr y tir ymylol a gweilchyddion yn yr un modd â thaeogion Pennarth. Ac mae un ddôl ger Bryncynan sydd yn talu ardreth o 40c. bob blwyddyn adeg gŵyl y Sant Mihangel.
Cyfanswm blynyddol: 40c.
Ac y mae yn y drefgordd hon tri firgat o dir a ddaeth oddi wrth Gronw ap Madog Droyngreth, tenant Sant Beuno na thalai ddim bob blwyddyn ac a oedd wedi ei geni y tu allan i briodas. Ac fe delir ardreth +adeg Gŵyl y Pasg a Gŵyl Sant Mihangel trwy weithred J.de Delves 3c.
Cyfanswm blynyddol: 3c.

Cyfanswm blynyddol: 8s. 8c.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Registrum Vulgariter Nuncupatum "The Record of Caernarvon" ê Codice Ms. Harleiano 696. (Llundain, 1838)