Claddfa Gron Glynllifon

Oddi ar Cof y Cwmwd
Jump to navigation Jump to search

Mae Claddfa Gron Glynllifon yn un o nodweddion Parc Glynllifon. Daeth yn arferiad gan lawer o deuluoedd uchelwrol at ddiwedd y ddeunawfed ganrif ac yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg i godi adeiladau trawiadol o fewn parc eu hystâd yn gladdfa i'r teulu, yn hytrach na chael eu claddu yn yr eglwys blwyf leol. Gwelir adeiladau o'r fath o fewn ffiniau parc Y Faenol ger Bangor ac yng Ngardd Bodnant yn Nyffryn Conwy i enwi dim ond dau, ac roedd gan deulu Wynniaid Glynllifon eu claddfa hefyd.

Mae claddfa Glynllifon yn adeilad carreg crwn, 60 troedfedd mewn diamedr a chyda waliau 15 troedfedd o drwch ac mae'n adeilad rhestredig Gradd II. O fewn yr adeilad ceir grisiau troellog sy'n mynd i fyny i'r ddau lawr uchaf ac i do carreg gwastad yr adeilad, lle mae mân goed wedi gwreiddio erbyn hyn. Mae'n adeilad oeraidd a bygythiol yr olwg arno ac yn debycach i gaer nag i gladdfa mewn gwirionedd. O fewn yr adeilad, sy'n eithriadol dywyll, mae ystafelloedd lle bwriedid rhoi eirch y teulu i orffwys. Nid yw'r adeilad yn agored i'r cyhoedd, a phe ceid mynediad iddo mae angen cymryd gofal mawr oherwydd y grisiau cul a'r tywyllwch, ac yn arbennig ar ben yr adeilad (sydd tua 60 troedfedd o uchder) gan nad oes unrhyw reiliau o amgylch ymyl y to gwastad.

Saif ar godiad tir coediog yn rhan dde-ddwyreiniol y parc (Parc Glynllifon - NRPN 86377), tua hanner milltir o'r plas ei hun. Thomas John Wynn, 2il Arglwydd Newborough a ddechreuodd ar y gwaith o adeiladu'r gladdfa ym 1826 ac roedd heb ei orffen pan fu ef farw'n ddyn ifanc ym 1832. Fe wnaeth ei frawd Spencer Buckley Wynn a'i holynodd barhau â'r gwaith, ond pan aeth Plas Glynllifon ar dân ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach, rhoddodd Spencer Wynn derfyn ar adeiladu'r gladdfa gan ei fod angen yr arian i godi plasty newydd (a llawer mwy) yn lle'r un a ddinistriwyd. Ni chafodd y capel y bwriedid ei gael ar ail lawr y gladdfa ei adeiladu o gwbl ac ni ddefnyddiwyd yr adeilad erioed fel claddfa i'r teulu. Yn hytrach, claddwyd rhai o deulu Glynllifon a Boduan mewn claddgelloedd teuluol yn eglwysi Llandwrog a Boduan, tra claddwyd Spencer Wynn mewn bedd ysblennydd ar Ynys Enlli, oherwydd ei hoffter mawr o'r ynys honno, a oedd, adeg ei farw ym 1888, yn rhan o'i ystâd. [1]


Cyfeiriadau[golygu]

  1. Seiliwyd peth o'r uchod ar wybodaeth o wefan Coflein (lle ceir map o'r safle hefyd); gwybodaeth bersonol yn dilyn ymweliad rai blynyddoedd yn ôl.