Cilgwyn

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i: llywio, chwilio

Pentrefan neu gasgliad o dai yw'r Cilgwyn, ar lethr ddeheuol Mynydd Cilgwyn. Saif yn ucheldir plwyf Llandwrog. Nid oes unrhyw gyfleusterau bellach yn y man, ac eithrio blwch teleffon, ond arferai fod capel yma, sef Capel Cilgwyn (A), sydd bellach yn dŷ annedd, wedi cyfnod yn gapel i urdd o Uniongrediaid a'u pencadlys yn hen Capel Pisgah (BN), Carmel.

Roedd Chwarel Cilgwyn ymysg y cloddfeydd cynharaf yn yr ardal, yn cychwyn tua canol y 18g os nad gynt, ac roedd twll anferthol y chwarel yn nodwedd sylweddol ar y llethr o dan y pentref nes i'r cyngor ei fabwysiadu fel safle tirlenwi tua 1970. Am ryw 30 mlynedd, Cilgwyn felly oedd prif 'tomen' sbwriel yr ardal, ond mae'r lle wedi adfer erbyn hyn.

Tan ddiwedd y 20g, rhedai bysiau o Gaernarfon trwy Y Groeslon a phentref Carmel i Gilgwyn.

Eginyn.png Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ei datblygu.