Chwedl Llwyn y Ne

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i: llywio, chwilio

Chwedl yw hanes Llwyn y Ne, ger Clynnog-fawr.

Yn ôl adroddiad W. R. Ambrose, enw ar lethr uwchlaw Clynnog yw Llwyn y Ne. Roedd aderyn arbennig yn byw mewn llwyn ar y llethr hon, ac roedd ganddi’r gallu i ganu alawon swynol dros ben. Mor swynol oedd ei chan, fel bod gweithwyr i Beuno Sant yn cael ei hudo tra roeddynt yn adeiladu ei Eglwys, ac yn arafu eu gwaith. Yn ôl y stori, roedd Beuno wedi gweddïo am i’r aderyn fynd oddi yno i rywle arall, er mwyn i’r gwaith gario ymlaen.

Ffynhonnell[golygu]

Ambrose, W. R. Hynafiaethau, Cofiannau a Hanes Presennol Nant Nantlle (Penygroes, 1872)Eginyn.png Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ei datblygu.