Chwedl Garth Dorwen

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i: llywio, chwilio

Hen chwedl yw stori Garth Dorwen, sy'n perthyn i fferm Garth Dorwen, rhwng Y Groeslon a Phen-y-groes.

Yn ôl y stori, roedd dynes oedrannus yn byw yn Garth Dorwen ar un cyfnod ac yr oedd fydwraig fedrus. Digwyddodd iddi gyflogi morwyn o Gaernarfon o'r enw Eilian, ac amdani hi yn bennaf y mae'r chwedl - ceir cae o'r enw Cae Eilian hyd heddiw yno, ac enwir 'Weirglodd y Forwyn' ar ei hôl.

Roedd Eilian wedi mynd i nyddu yng ngolau'r lloer un noswaith, ac o'r noson honno wedyn ni ddaru neb ei gweld fyth eto.

Ymhen amser wedyn, daeth gŵr bonheddig i ddrws Garth Dorwen i ofyn help yr hen ddynes at ei wraig. Aeth hithau gydag ef, a chyrhaeddodd blasty enfawr ac yno buodd yn helpu gwraig y gŵr bonheddig hwnnw. Ar ôl i'r babi gyrraedd, aeth at y tân i'w drin, a daeth y gŵr botel o eli arbennig i iro llygaid y babi. Rhybuddiodd y gŵr nad oedd y ddynes i gyffwrdd â'i llygaid ei hun gyda'r eli, ond er hyn digwyddodd iddi grafu ei llygad ar hap. Yn sydyn, roedd yr hen ddynes yn medru gweld delwedd wahanol drwy'r llygad honno - a gwelodd eneth ifanc yn gorwedd ar lwyth o frigau a cherrig, a sylweddolodd mai ei morwyn, Eilian yr oedd.

Aeth amser heibio, a digwyddodd yr hen ddynes fod yn Ffair Gaernarfon pan welodd y gŵr bonheddig eto. Gofynnodd iddo, "Sut mae Eilian?", ac atebodd yntau fod popeth yn iawn. Gofynnodd iddi, "gyda pha lygaid y gwelwch chi fi?", a phan bwyntiodd hi at un o'i llygaid dyma'r gŵr yn tynnu'r llygad allan gyda llafrwynen.

Eginyn.png Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ei datblygu.


Ffynhonnell[golygu]

Rhys, John Celtic Folklore (Cyfrol 1, cyhoeddwyd gan Wasg Prifysgol Caergrawnt 2015) tud. 212-213