Chwarel y Braich

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i: llywio, chwilio

Chwarel lechi ar lethrau deheuol Moel Tryfan oedd Chwarel y Braich, ger y Fron.

Agorwyd hi yn y ddeunawfed ganrif, ac yn 1827 arbrofwyd ag ynni gwynt yno er mwyn pwmpio yn chwarel yr Hen Fraich (a ddaeth yn Braich-rhydd). Roedd dan reolaeth Charles Curling o 1856 hyd 1868, pan aildrefnwyd parseli tir ar dir y Goron ar Foel Tryfan a chymerodd Hugh Beaver Roberts (twrnai o Fangor, ac un o gyfarwyddwyr Rheilffyrdd Cul Gogledd Cymru a fyddai, maes o law, yn gwasanaethu Chwarel y Braich yn anuniongyrchol)[1] reolaeth dros y lle, gan fasnachu dan enw Cwmni Chwarel Llechi Braich. Arhosai'r prif asiant ers dyddiau Curling, Thomas Turner, nes i hwnnw fawr ym 1873.

Cafodd ei datblygu yn yr 1870au, gan grynhoi gweithgaredd mewn un twll mawr gyda thair lefel a defnyddiwyd stêm i weithio'r peiriannau ac i bwmpio ar yr incleins. Am gyfnod byr cyn 1876, Owen Griffith Owen (Alafon) y bardd oedd y prif glerc, cyn iddo fynd i'r weinidogaeth. Am rai blynyddoedd hyd tua 1882, roedd gan y chwarel hon gysylltiad tramffordd â phrif lein Tramffordd John Robinson er mwyn gyrru ei llechi i ffwrdd ar hyd Rheilffordd Nantlle. Wedi hynny, defnyddid Tramffordd y Fron. Ar ol y cyfnod hwnnw, defnyddid nifer o injans stêm ar dramffyrdd o fewn y chwarel.[2] Roedd y chwarel ar ei hanterth yn 1882 pan gynhyrchwyd 2,600 tunnell yno, a chyflogwyd 124 o ddynion yno, ond bu dirywiad cyflym, yn rhannol oherwydd cyflwr y fasnach lechi ac yn rhannol oherwydd problemau daearegol a wnaeth y llechen yn anodd i'w gweithio, ac yn amrywiol o ran lliw gyda llawer o smotiau o liw gwahanol trwyddi. Ar yr adeg hon, gweithiwyd y chwarel ar y cŷd â Chwarel Coedmadog ond aeth honno hefyd trwy gyfnod anodd oherwydd llifogydd ac ati. Am ddegawd hyd 1900 amrywiai'r gweithlu rhwng 40 a 70, er bod y chwarel ers 1890 wedi bod yn rhan o chwareli John Robinson. Yn ystod streic y Penrhyn, dan fab John Robinson, Tom, cynyddoedd y gweithlu i 80 a mwy, gyda chynnyrch oddeutu 1700 tunnel y flwyddyn. Ym 1904, unodd Tom Robinson ei ddidordebau chwarelyddol yn Chwarel Tal-y-sarn, Braich, Cloddfa'r Coed a Chwarel Tan'rallt mewn un cwmni, Cwmni Chwareli Llechi Tal-y-sarn Cyf.

Ym 1908, ffurfiwyd cwmni newydd, Cwmni Chwareli Llechi Braich newydd, Cyf. ond er buddsoddi mewn offer modern a chychwyn yn obeithiol, cafwyd cwymp fawr yn y chwaerel, gan guddio rhai o'r ponciau ar waelod y twll. Roedd wedi cau erbyn diwedd 1911, er roedd gwaith ysbeidiol yno hyd y 1930au.[3] Wedyn aeth tir y chwarel dan reolaeth cwmni a gafodd hawl dros y mynydd i gyd, ac ym 1930 ffurfiwyd Cwmni Chwaleri Llechi Sir Gaernarfon y Goron, Cyf. (Caernarvonshire Crown Slate Quarries Ltd.) ond ni wnaed unrhyw ymdrech i ailagor y Braich. Bu cryn waith ar adfer llechi o'r tipiau a'u trin, ac aeth y gwaith hwnnw ymlaen o dro i dro hyd mor ddiweddar â 1963.[4]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Wici Festipedia [1], cyrchwyd 7.11.2018
  2. Gwynfor Pierce Jones ac Alun John Richards, Cwm Gwyrfai, (Llanrwst, 2004), t.238
  3. Tomos, Dewi Chwareli Dyffryn Nantlle (Llyfrau Llafar Gwlad, 2007)
  4. Gwynfor Pierce Jones ac Alun John Richards, Cwm Gwyrfai, (Llanrwst, 2004), tt.226-37.