Chwarel Tyddyn Hywel

Oddi ar Cof y Cwmwd
Jump to navigation Jump to search
Cei Tyddyn Hywel, cyn y newid i gludo'r cerrig ar raffau uwchben yn y 1920au

Roedd Chwarel Tyddyn Hywel, nid nepell o bentref Gurn Goch, yn gweithio mor gynnar â 1877 os nad cyn hynny, pan oedd yn cael ei galw’n Chwarel Aberafon. Nid yw mapiau Ordnans cynnar, fodd bynnag, yn dangos unrhyw waith mawr yno cyn 1901, pan aeth Cwmni Ithfaen Sir Gaernarfon ati i ddatblygu’r chwarel. Newidiodd pethau’n sylweddol ym 1903-4 pryd cymerwyd y gwaith drosodd gan gwmni mwy, Grace a Robson, a newidiodd enw’r cwmni hwnnw i Gwmni Ithfaen Enderby a Stoney Stanton Cyf. ym 1909. Mae'r swyddfa a adeiladwyd gan Gwmni Ithfaen Enderby ym 1914 yn dal ar ei thraed ar ochr uchaf y ffordd fawr (A499) o dan Chwarel Tyddyn Hywel. Mae mewn cyflwr da at ei gilydd ac mae enw'r cwmni a dyddiad ei hadeiladu i'w gweld yn glir uwchben y drws.

Cymerodd is-gwmni y chwarel drosodd tua 1918, dan yr enw Cwmni Ithfaen (Cymreig) Enderby Cyf. Daeth y cwmni hwnnw i ben yn ei dro, ac o 1930 hyd 1934, Thomas W Ward Cyf. oedd yn rhedeg y chwarel. Bu cyfnodau yn y 1920au a 1930au pan fu’r chwarel yn segur, ym 1927 a 1931. Caewyd y chwarel yn llwyr ym 1934. Dywedir mai’r rheswm pennaf am hyn ar adeg pan oedd galw cynyddol am falurion ithfaen i wynebu ffyrdd oedd y drafferth o gadw’r chwarelwyr rhag gadael am gyflogau uwch yn Chwarel yr Eifl. Roedd costau cludo’r cerrig hefyd yn uwch.

Cymharol fach oedd y gweithlu ar hyd yr amser : 17 ym 1901; 76 ym 1913; 38 ym 1922 a 28 ym 1934.

Prif nodwedd y chwarel a chwareli cyfagos Tan-y-graig - a weithiwyd ar y cyd gyda Tyddyn Hywel o tua 1905 ymlaen - oedd y system gymhleth o incleins, tramffyrdd a rhaffau cludo rhwng y chwarel a’r cei neu lanfa. I ddechrau, o tua 1885 ymlaen, roedd pethau’n ddigon syml: tramffordd 2 droedfedd o led rhwng y cledrau o’r chwarel i lawr inclein i ardal storio cynnyrch y chwarel, ac o’r fan honno wedyn o dan y ffordd fawr, cyn mynd i lawr inclein arall at y lanfa.

Tua 1900, unwyd cledrau yn y chwarel efo system tramffordd chwarel Tan-y-graig trwy adeiladu cangen o inclein Tyddyn Hywel ar draws ochr y mynydd. Gyda’r cynnydd yn y gwaith, archebwyd injan stêm ym 1900 gan gwmni Bagnall er mwyn iddi dynnu’r wagenni ar hyd y darn gwastad rhwng y ddwy inclein, a hynny’n fwy hwylus na’r hen drefn gyda cheffylau. Yn y pen draw, fodd bynnag, symudwyd yr injan i chwarel Enderby yn Swydd Caerlŷr, a gosodwyd system gwifrau cludo o'r fan lle roedd cerrig yn cael eu storio i lawr at lanfa newydd. [1] Mae llwybr y dramffordd o'r chwarel at y swyddfa, ynghyd â llwybr y dramffordd o Chwarel Tan-y-graig a oedd yn cysylltu â hi yn dal i’w gweld yn amlwg. Yn ogystal ar y ffordd fechan o dan y briffordd sy'n mynd drwy ardal Tyddyn Hywel, mae rheiliau bach y dramffordd at y cei wedi dod i'r amlwg wrth y fynedfa i lawr at Bryn-yr-eryr gan fod y lôn wedi gwisgo'n dwll yno - gwelir mai 2 droedfedd sydd rhyngddynt.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. J.I.C. Boyd, ‘’Narrow Gauge Railways in North Caernarvonshire’’, Cyf. 1 (West) (Oakwood, 1981), tt.264-7; Gwefan Ipernity, [1], cyrchwyd 1.6.2022