Chwarel Tal-y-sarn

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i: llywio, chwilio

Chwarel lechi oedd Chwarel Tal-y-sarn, ger pentref Talysarn heddiw. (SH 495534). O 1828 ymlaen defnyddid Rheilffordd Nantlle i gludo ei chynnyrch.

Roedd y chwarel hon ar wahân i Dorothea ar un cyfnod, a chredir iddi fod yn un o chwareli hynaf Dyffryn Nantlle. Roedd cant o chwarelwyr yn gyflogedig yno yn 1790, ac roeddynt yn cynhyrchu o leiaf 1,000 tunnell y flwyddyn. Roedd gŵr o'r enw John Evans a'i bartneriaid wedi cael les ar dri thwll ar dir fferm Tal-y-sarn ym 1802, cyn bodolaeth y pentref sy'n sefyll heddiw. Enwyd y cwmni a ffurfiwyd yn "Gwmni Llechi Talysarn" (Talysarn Slate Company).

Erbyn y 1830au, roedd techneg 'water balance' yn cael ei ddefnyddio yno, ac erbyn y 1840au roedd cynnyrch y chwarel o gwmpas 6,000 tunnell y flwyddyn. O tua 1846 tan 1857, George Bowness oedd yr asiant, nes iddo droi ei law at amaethu. Cafodd helyntion pan cododd ffrae ynglŷn â pherchnogaeth llechi ar y Cei yng Nghaernarfon; er nad oedd o wedi sbarduno pethau, mae'n debyg, aeth chwarelwyr y chwarel i lawr i'r Cei a rhaid oedd darllen y Ddeddf Derfysg.[1]

Roedd gostyngiad mawr yn fuan ar ôl hyn, ond erbyn y 1870au roedd pethau yn dechrau gwella yno, ac ym 1873 daeth nifer o dyllau chwarel at ei gilydd i ffurfio Cwmni Cyfyngedig Chwarel Lechi Tal-y-sarn; Roedd y cwmni hefyd yn gweithio Chwarel y Fron. Yn ôl Dewi Tomos, roedd tua 500 o ddynion yn gweithio yno o gwmpas 1880 a chafwyd injan stêm ac incléin yn y chwarel - arwydd addawol o'i lewyrch erbyn diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Roedd John Robinson yn berchennog erbyn 1882, a chyflogwyd tua 400 o ddynion yn y chwarel yn ei gyfnod ef, gan droi allan 8210 tunnell o lechi mewn blwyddyn.

Cofrestrwyd y cwmni'n ffurfiol ym 1904, pan oedd mab John Robinson, Thomas, wrth y llyw, a chafwyd yr hawl i gymryd Chwarel Fraich, Cloddfa'r Coed a Chwarel Tan'rallt drosodd.[2]

Diriywyd cynhyrchiant yno o gwmpas cyfnod y Rhyfel Byd Cyntaf, a chaewyd hi yn 1926 - er hyn, cymerwyd hi drosodd gan Chwarel Dorothea yn y 1930au, ac roedd gwaith ar raddfa lai yno hyd 1945.[3][4]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. North Wales Chronicle, 17.1.1857
  2. Gwynfor Pierce Jones ac Alun John Richards, Cwm Gwyrfai, (Llanrwst, 2004), t.232
  3. Tomos, Dewi Chwareli Dyffryn Nantlle (Llyfrau Llafar Gwlad, 2007)
  4. Jean Lindsay, A History of the North Wales Slate Industry,(Newton Abbot, 1974), t. 331.