Chwarel Pen-y-bryn

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i: llywio, chwilio

Chwarel lechi oedd chwarel Pen-y-bryn, rhwng Cilgwyn, Dorothea a Nantlle.

Mae'r chwarel hon yn cael ei hystyried fel un o'r chwareli hynaf yn yr ardal, gan ei bod wedi ei hagor yn y 1770au. Yn y safle yma mae nifer o dyllau cloddio sydd wedi eu henwi ar ôl y criwiau bychain oedd yn gweithio ynddynt. Dyma rai o'r enwau: Cae Cilgwyn, Cloddfa Dafydd a Twll Ismaeliaid. Roedd incléin i lawr at Reilffordd Nantlle yn rhan o'r chwarel hon hefyd.

Prynwyd y chwarel hon ym 1836 gan gwmni Kennaway & Co., gan gyfuno Pen-y-bryn a Moel Tryfan (o dan yr un arweinyddiaeth) gyda Chloddfa'r Lôn a Thwll Balast. Roedd y rhwydwaith hwn o'r chwareli bychain yn llwyddiannus iawn rhwng y 1840au a'r 1880au. Erbyn 1882, roeddynt yn cyflogi oddeutu 240 o ddynion ac yn cyhynrchu 5,000 tunnell yn flynyddol. Yn y cyfnod yma roeddynt yn defnyddio pedwar twll, incléin a dwy olwyn ddŵr a weithiwyd gyda stêm, a hefyd wedi gosod tramffordd fewnol.

Cafodd y chwarel ei chau 1887, ac yn ei ail-agor yn 1892 ar ôl i gwmni Chwarel Dorothea ei phrynu. Caewyd y chwarel ym 1932 yn dilyn cwymp mawr yn y diwydiant.[1][2]

Eginyn.png Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ei datblygu.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Tomos, Dewi Chwareli Dyffryn Nantlle (Llyfrau Llafar Gwlad, 2007)
  2. Jean Lindsay, A History of the North Wales Slate Industry ‘’, (Newton Abbot, 1974), t. 328.