Chwarel Hafod-y-wern

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i: llywio, chwilio

Roedd Chwarel Hafod-y-wern yn un o chwareli llechi mwyaf Dyffryn Gwyrfai, ac fe safai ar ochr Uwchgwyrfai i'r dyffryn, ar draws y tir gwastad ar lan yr afon.[1] (SH 530571) gyferbyn ag eglwys Betws Garmon. Dyma hefyd chwarel hynaf y rhan hon o'r dyffryn, ac fe gynhyrchai lechi glasborffor o ansawdd weddol. Mae'r cofnod cyntaf am y safle'n dyddio i 1784, pan waneth Ystâd Brynodol roi trwydded i dri dyn, William Jackson o'r Borth, Bangor, John Cowdall o Dreborth richard Griffith a gadwaiTafarn y Boot yng Nghaernarfon. nid oedd y gwaith yn llwyddiannus ac fe roddwyd heibio i chwarelu ar ôl blwyddyn. Wedyn, ceisiodd Cwmni Llechi Cilgwyn a Chefn Du eu lwc ym 1805 ond darfu'r cloddio eto ym 1807. Am yr hannaer can mlynedd nesaf, ceisiodd nifer o unigolion a phartneriaethau (lleol a rhai diarth) gloddio, ond heb fawr o lewyrch.

Ym 1860 sefydlwyd Cwmni Cyfyngedig Llechi Hafodywern, gyda chyfalaf o Lundain. Erbyn 1862, roedd 250 o ddynion wrthi yn y chwarel, er ni chynhyrchwyd ond 950 tunnell, ond erbyn 1866 roedd y cwmni wedi mynd i'r wal.

Roedd yn un o chwareli a berthynnai i Gwmni Llechi'r Goron Moel Tryfan (Moel Tryfan Crown Slate Co. Ltd.) a ffurfiwyd ym 1873 ond fe'i caewyd ym 1888 - erbyn 1885 nid oedd ond 35 o chwarelwyr yn cael eu cyflogi. Gwerthwyd y chwarel i Gomisiynwyr Ystadau'r Goron ym 1888 am £8740.

Ym 1897, cymerodd Thomas Parry, Y Felinheli, brydles ar y chwarel, yn enw cwmni Victoria Slate Quarries Co. a thrwy ddegawd gyntaf y 20g bu 30-50 o ddynion yn gweithio yno. Yr adeg honno, galwyd y chwarel yn Chwarel Victoria. Roedd yn anarferol o ran chwareli'r ardal oherwydd gwnaed twnnel i gyrraedd peth o'r llechi gwyrdd gorau. Ar ol cau adeg y rhyfel byd cyntaf, cafwyd peth gweithgarwch yno yn y 1920au gan ddynion lleol ar raddfa fechan, ac mopr ddiweddar â'r 1960au, cafwyd y tipiau eu hail-gloddio am lechi.[2]

Mae llawer o olion y chwarel ar ochr Uwchgwyrfai i'w gweld o briffordd trwy'r dyffryn.

Roedd gan y chwarel tramffordd neu seidin weddol hir o iard Gorsaf reilffordd Betws Garmon a ddefnyddid i anfon y llechi i lawr Rheilffyrdd Cul Gogledd Cymru a agorwyd ym 1877.[3]


Cyfeiriadau[golygu]

  1. Jean Lindsay, A History of the North Wales Slate Industry, (Newton Abbot, 1974), t. 322-3.
  2. Gwynfor Pierce Jones ac Alun John Richards, Cwm Gwyrfai, (Llanrwst, 2004), tt.35-50.
  3. J.I.C. Boyd, Narrow Gauge Railways in South Caernarvonshire, Cyf. 1, (Oakwood Press) 1988, t.194