Chwarel y Fron

Oddi ar Cof y Cwmwd
(Ailgyfeiriad oddi wrth Chwarel Fron y Tychan)
Neidio i: llywio, chwilio

Chwarel lechi oedd Chwarel y Fron ger Mynydd Mawr, y Fron. Roedd yn rhannol ar ochr y bryn ac yn hanner mewn twll. Yn y dyddiau cynnar fe'i galwyd yn Chwarel Fron y Tychan).[1]

Agorwyd hi o bosibl yn y 18g., ac erbyn 1813, roedd yn rhan o eiddo Cwmni Cilgwyn - er i Dr Lindsay ddweud mai tua 1830 y'i agorwyd. Ar ôl cyfnod o segurdod, fe'i hail-agorwyd ym 1860; erbyn 1872 roedd y cynnyrch blynyddol wedi cyrraedd 1500 tunnell. Cyn hynny, ym 1868, roedd Chwarel y Fron a Chwarel Braich-rhydd wedi dod yn un.[2] Ym 1882, fe ddatblygwyd hi'n arw pan unwyd hi â chwarel yr Hen Fraich, pan oedd 62 o ddynionyn cael eu cyflogi. gan gynhyrchu dros 1,000 tunnell y flwyddyn. Yn dilyn dirywiad yn yr ugeinfed ganrif, parhaodd i weithredu dan O.J. Hughes a'i fab; ym 1937 7 o ddynion oedd yn gweithio yno, a pharhaodd ar agor ar raddfa fechan hyd y 1950au.[3][4]

Tan 1881, anfonwyd y llechi i lawr inclein Tramffordd John Robinson i gyrraedd Rheilffordd Nantlle. Wedyn, defnyddiwyd Tramffordd y Fron i anfon cynnyrch i lawr Inclein Bryngwyn i gyrraedd Cangen Bryngwyn o gwmni Rheilffyrdd Cul Gogledd Cymru.[5]

Eginyn.png Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ei datblygu.


Cyfeiriadau[golygu]

[6]
  1. Gwynfor Pierce Jones ac Alun John Richards, Cwm Gwyrfai, (Llanrwst, 2004), t..239
  2. Gwynfor Pierce Jones ac Alun John Richards, Cwm Gwyrfai, (Llanrwst, 2004), tt.218, 239
  3. Tomos, Dewi Chwareli Dyffryn Nantlle (Llyfrau Llafar Gwlad, 2007)
  4. Jean Lindsay, A History of the North Wales Slate Industry’’, (Newton Abbot, 1974), t. 319.
  5. Jean Lindsay, A History of the North Wales Slate Industry’’, (Newton Abbot, 1974), t. 319.
  6. Ysgrifennwch droednodyn fan hyn