Chwarel Fein-goch

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i: llywio, chwilio

Chwarel Fein-goch oedd un o dyllau Chwarel Cilgwyn yn y diwedd, ond mi gychwynnodd fel chwarel lechi ar wahân, wedi ei rhedeg gan nifer o bartneriaid, sef John Price, Thomas Jones, John Evans a Richard Roberts a gafodd brydles i chwarelydda ar dir y Goron tua 1800. Erbyn 1810 roeddent yn defnyddio tramffordd i gludo ysbwriel cloddio i'r domen, y rheilffordd gyntaf y clywir amdani yn Nyffryn Nantlle. Roedd y twll yn dal i gynhyrchu, mae'n debyg - a barnu oddi wrth fapiau'r Ordnans - hyd ddiwedd y ganrif.[1]

Eginyn.png Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ei datblygu.


Cyfeiriadau[golygu]

.
  1. GH Williams, Sŵn y trên sy'n taranu, (Caernarfon, 2018).