Chwarel Dorothea

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i: llywio, chwilio

Chwarel lechi oedd Chwarel Dorothea yn Nhal-y-sarn, (SH 499532).

Roedd y chwarel hon yn un o'r safleoedd mwyaf llwyddiannus yng Ngwynedd yn ei chyfnod. Dorothea oedd un o'r prif gyflogwyr yn Nyffryn Nantlle hefyd, a gellir deall ei phwysigrwydd ym mywyd bro Tal-y-sarn ar un cyfnod.

Agorwyd y chwarel ar lethr a arweiniai at Lyn Nantlle, ac roedd ar dir a berthynai i ystad Pant Du a oedd ym meddiant teulu'r Garnons. Gelwir y chwarel yn ei dyddiau cynnar yn Cloddfa Turner, pan gymerodd William Turner, Parcia, Caernarfon a'i fab-yng-nghyfraith, John Morgan, feddiant o'r lle tua 1829. Newidiwyd enw'r chwarel i Dorothea yn fuan ar ôl cyfnod Turner a Morgan, ac enwir y lle ar ôl gwraig Richard Garnons. Daeth prydles Garnons i ben ym 1848, a chymerodd nifer o chwarelwyr unigol a phobl leol eraill gyfranddaliadau yn y chwarel Ymysg y rhain oedd John Jones, Tal-y-sarn a fu am sbel yn reolwr ar y chwarel. Ond er ei fod ef a'i bartneriaid yn deall y graig dechreuodd y fasnach lechi ddirywio yn gyffredinol. Gostyngwyd cyflogau a daeth yntau dan lach y gweithwyr. Aeth pethau yn waeth arno pan gyhuddwyd ef o fod yn annheg drwy ddiswyddo ei weithwyr gorau. Cyfiawnhai yntau hyn am ei fod yn ceisio sicrhau gwaith i'r chwarelwyr tlotaf, oedd efallai yn llai o grefftwyr. Gwerthwyd y cyfranddaliadau hynny ym 1853 i John Williams a ddaeth yn y man i gael digon fel y gallai rheoli'r cwmni. Bu teulu Willims yny sefyllfa honno hyd nes i'r chwarel gau.

Roedd y chwarel yn un o'r ddwy fwyaf yn y dyffryn ac yr odd ganddi bedwar twll anferth agoredY ddau dwll cyntaf a agorwyd yma oedd yr Hen Dwll a Twll y Weirglodd, a gwnnaed hynny pan oedd y chwarel o dan reolaeth Thomas Turner ac Owen Parry o Ben-y-groes.

Roedd y chwarel yn cynhyrchu rhwng 5,000 a 6,000 tunnell o lechi yn nyddiau cynnar John Williams, ac yn cyflogi o gwmpas 200 o ddynion a bechgyn ifanc yr ardal. Yn ei hanterth, ym 1882, cynhyrchwyd 16,598 tunnell gan 533 o ddynion. Prynwyd Chwarel Pen-y-bryn ym 1894; Chwarel 'South Dorothea' ym 1921 a Chwarel Gallt-y-fedw ym 1933. Allforiwyd yr holl gynnyrch ar hyd Rheilffordd Nantlle, ar y dechrau i borthladd Caernarfon, ac ar ôl adeiladu Cangen Nantlle o'r lein fawr, anfonwyd llawer mewn tryciau yn syth i gwsmeriaid ym Mhrydain.

Roedd Dorothea yn weithredol tan 1970, pan oedd rhaid ei chau yn dilyn cwymp yn y galw am lechi ar gyfer tai. Roedd bwriad i'w throi'n atyniad twristaidd ar yr un linellau a chwareli mawr Blaenau Ffestiniog, ond ni wireddiwydy cynlluniau. Mae holl gofnodion mawl y chwarel wedi eu diogelu ac maent i'w gweld yn Archifdy Caernarfon. Mae'r catalog ar gael ar lein: [1].

Oherwydd ei chwant am dir newyd (roedd Chwarel Cilgwyn i'r gogledd a'r afon i'r de, ym 1899 aethpwyd ati gan y chwarel i wyro Afon Llyfnwy a llenwi llawer ar y llyn isaf, sef Llyn Nantlle Isaf, er mwynennill mwy o dir arllwyso a chloddio.

Eginyn.png Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Ffynhonellau[golygu]

Tomos, Dewi Chwareli Dyffryn Nantlle (Llyfrau Llafar Gwlad, 2007) Jean Lindsay, A History of the North Wales Slate Industry’’, (Newton Abbot, 1974), tt. 318-9.