Chwarel Cilgwyn

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i: llywio, chwilio

Chwarel lechi a lethrau Mynydd Cilgwyn, Dyffryn Nantlle oedd y lle hwn. Mae’n bosib iddo mai dyma oedd y chwarel hynaf yng Nghymru, ac wedi cael ei gweithio yn nyddiau'r Rhufeiniaid, ac yn y Canol Oesoedd.

Dyddiau cynnar[golygu]

Chwarel Cilgwyn yn 2006

Erbyn1745, roedd nifer y dyllau chwarel bychan ar lethrau Mynydd Cilgwyn, oedd yn dir y Goron. Rhoddwyd prydles y tiroedd rhain yn nwylo ysgweier Glynllifon an gyfnod 0 31 o flynyddoedd, John Wynn. Ceisiodd ddal ei brydles ar y tiroedd am gyfnod hir, ond yn 1776 collodd ei gyfle, Nid oedd fawr o reolaeth ar waith chwarelyddol 'answyddogol' oedd yn mynd ymlaen, gyda llawer o chwarelwyr-dyddynwyr yn gweithio'r mynydd ar eu liwt eu hunain.Erbyn 1791 roedd y brydles yn cael ei osod gan y Goron i unrhyw bobl a fyddai’n barod i weithio’r chwareli eu hunain. Roedd cydweithfa’r tyllau rhain yn nwylo’r chwareli am gyfnod, a chredir iddynt gyfarfod mewn tafarndai ledled yr ardal i drafod y gwaith a thrafod cytundebau ac ati – rhywbeth unigryw iawn o’r cyfnod. Roedd enwau amryw ar y tyllau rhain, megis ‘Gloddfa Glytiau’, ‘Twll Morus Ifans’, ‘Cloddfa Bach’, ‘Cloddfa Ddwfr’ a ‘Limerick’.

Erbyn 1800, roedd grŵp o dirfeddianwyr lleol wedi cymryd mantais ar gyfle i redeg y chwareli bychain rhain fel un menter. Sefydlwyd ‘Cwmni Chwarelau Cilgwyn’ yn 1800, gyda les ar y chwarel o’r Goron. O ganlyniad hyn, roedd llawer o wrthdaro rhwng y gweithiwyr a’r rheolwyr newydd. Roedd llawer o’r dynion hyn a oedd wedi rhedeg eu tyllau eu hunain ynghynt, bellach yn gorfod is-gontractio i’r meistri rhain, cholli llawer o’u helw. Roedd rhai grwpiau o’r gweithiwyr yn mynd yn erbyn y rhybuddion i gadw allan o’r chwareli, ac yn tresmasu i gario ymlaen gyda’r gwaith.

Erbyn tua 1810, roedd trefn yn dechrau ffurfio yn y chwarel ac roedd yn un o brif fannau o gyflogaeth i ddynion yr ardal.

1850 ymlaen[golygu]

Erbyn ail hanner y ganrif, roedd hanesion y tresmasu wedi distewi ac roedd y chwarel ar ei phrysuraf. Roedd yn cynhyrchu allbwn o 7430 tunnell o lechi yn 1882, ac yn cyflogi o gwmpas 300 o ddynion. Cyfrannodd ddatblygiad y system rheilffordd newydd lawer at lwyddiant yn chwarel hefyd, gan gynyddu’r galw am lechi Dyffryn Nantlle. Parhaodd i fod yn fan hanfodol o bwysig yn yr ardal, ond erbyn 1956 ddaru’r chwarel gau oherwydd y gostyngiad mewn galw.

Defnydd wedyn[golygu]

Yn y 1960au dechreuwyd defnyddio'r tyllau mawr fel arllwysfeydd ar gyfer ysbwriel yr ardal, ond erbyn troad y ganrif roedd y ddau dwll cyntaf yn llawn, a sylweddolwyd mai peth anghyfeillgar i'r amgylchedd oedd gwaredu ar ysbwriel yn y fath fodd. Gorchuddwyd y tipiau â phridd. Erbyn hyn, a'r ysbwriel tanddaearol yn dal i bydru a gollwng nwyon, mae'r nwyon yn cael eu dal at bwrpas cynhyrchu ynni.

Eginyn.png Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ei datblygu.


Ffynonellau[golygu]

Tomos, Dewi Chwareli Dyffryn Nantlle (Llafar Gwlad, 2007)

Jean Lindsay, A History of the North Wales Slate Industry, (Newton Abbot, 1974), t. 314.

Egin ar hanes y Chwarel ar Wicipedia

Cofnod o’r lle hwn ar wefan y Comisiwn Brenhinol