Chwarel Blaen-y-cae

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i: llywio, chwilio

Chwarel lechi oedd Chwarel Blaen-y-Cae ger Chwarel Dorothea a Chwarel y Fron ger Nantlle.

Chwarel fechan oedd y chwarel hon, ac agorwyd hi o gwmpas 1830. Cariwyd llechi'r chwarel hon ar flondin arbennig, ac ar inclein chwarel Cilgwyn i Dal-y-sarn. O gwmpas 40 o ddynion oedd yn gweithio yno pan yr oedd ar ei phrysuraf, a chynhyrchodd 800 tunnell yn flynyddol yn y cyfnod hwn.[1]

Cafodd ei huno ym 1905 gyda chwarel Tal-y-sarn ac aeth perchennog nifer o chwareli eraill, Thomas Robinson, (perchennog Chwarel Tan'rallt, Cloddfa'r Coed a Chwarel Braichmelyn hefyd. Dywedir iddi gau cyn yn y 1930au, ac mae Jean Lindsay yn dyfynnu'r dyddiad 1909 ar ôl iddi gael ei phrynu (ond nid ei gweithio) gan gwmni Chwarel Dorothea.[2].

Eginyn.png Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ei datblygu.


Ffynhonnell[golygu]

  1. Tomos, Dewi Chwareli Dyffryn Nantlle (Llyfrau Llafar Gwlad, 2007)
  2. Jean Lindsay, A History of the North Wales Slate Industry, (Newton Abbot, 1974), t.310.