Cerddoriaeth yn Nyffryn Nantlle

Oddi ar Cof y Cwmwd
Jump to navigation Jump to search

Mae hon yn erthygl fer sydd yn crynhoi rhai o brif elfennau traddodiad Cerddoriaeth yn Nyffryn Nantlle. Gweler erthyglau unigol ar y gwahanol gorau a chantorion sydd wedi eu nodi mewn print glas.

Fel y digwyddodd mewn rhannau eraill o Gymru, yr hyn a ysgogodd gymaint o weithgaredd corawl oedd mudiad y tonic sol-ffa a'r dosbarthiadau sol-ffa a gynhelid gan aml i gapel. Dyn dŵad i Ddyffryn Nantlle oedd Hugh Owen, (1832-1897). Sefydlodd fusnes crydd yn Nhal-y-sarn, ond treuliodd lawer o'i amser yn teithio cyn belled â dinasoedd Lloegr gyda'r Tal-y-sarn Glee Society. Ym 1871 daeth ei gôr cymysg yn gyntaf yn Eisteddfod Porthmadog. Dilynodd ei fab, Richard Griffith Owen (Pencerdd Llyfnwy) (1869-1930), yn ôl traed ei dad fel cerddor, er iddo arbenigo mwy na'i dad ym maes trefnu cerddoriaeth. Roedd traddodiad offerynnol cryf yn Nyffryn Nantlle hefyd a gwnaeth Pencerdd Llyfnwy waith sylweddol yn y maes yma.

Ym 1894 cystadlodd Côr Meibion Dyffryn Nantlle a Chôr Plant Tal-y-sarn yn Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon. Ym 1902, dechreuodd J. Owen Jones fel arweinydd y Côr Meibion. Bu llawer o gorau eraill yn y dyffryn, ac erys y Côr Meibion a Lleisiau Mignedd hyd heddiw yn fyw iawn.

Athro ffiseg yn Ysgol Brynrefail oedd C.H. Leonard ac ar ddechrau'r 1930au fe'i perswadiwyd i ffurfio parti o ddwsin o leisiau. Dyna fu'r symbyliad y tu ôl i ailsefydlu Côr Meibion Dyffryn Nantlle o'r newydd, a daeth y côr i amlygrwydd mawr ar y radio gyda rhaglenni megis Noson Lawen. Mae'r Côr yn dal mewn bodolaeth heddiw, yn fwyaf diweddar dan faton Mrs Eurgain Eames.

Ni ddylid diystyru traddodiad hir ac anrhydeddus bandiau pres ac arian y dyffryn. Er i fandiau unigol godi a diflannu, mae Seindorf Dyffryn Nantlle wedi parhau hyd heddiw. Gellir enwi Band Baladeulyn, Band Carmel, Band Ceidwadwyr Pen-y-groes, Band Deulyn, Band Dolydd, Band Gwirfoddolwyr Pen-y-groes, Band Llandwrog, Band Moeltryfan, Band Nebo, Seindorf Arian Cadfan, Seindorf Deulyn, Seindorf Dulyn a Seindorf Pen-y-ffridd ymysg bandiau'r dyffryn.

Dylid crybwyll hefyd y traddodiad cerdd dant yn y dyffryn. Bu Y Brodyr Francis, sef Griffith William Francis (1876-19 ) ac Owen William Francis (1879-1936) yn darlledu cerdd dant ar Radio Athlone cyn bod sôn am orsaf y BBC ym Mangor. Ni ddylid anghofio ychwaith am Llyfni Huws, telynor ac arloeswr gyda'r cerdd dant ym mlynyddoedd cynnar yr 20g.[1]

Mae'r dyffryn wedi cynhyrchu neu groesawu nifer o gerddorion pur lwyddiannus a dylanwadol, gan gynnwys sawl enillydd y Rhuban Glas, megis Maldwyn Parry ac Iwan Wyn Parry, a'r cyfansoddwr Robat Arwyn. Y ddau fwyaf llwyddiannus ar lefel ryngwladol efallai oedd Mary King Sarah ac, yn ein dyddiau ni, Syr Bryn Terfel.

Daw nifer o gantorion poblogaidd y dulliau cyfoes o ganu o'r dyffryn hefyd, yn eu mysg Bryn Fôn a Iona Boggie, cantores y ddeuawd canu gwlad Iona ac Andy. Bu nifer o grwpiau pop hefyd oedd â'u gwreiddiau yn y dyffryn, megis Brethyn Cartref a Topper.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Sylfaen yr erthygl hon yw paragraffau ar wefan Llechwefan [1], cyrchwyd 2.1.2021