Castell Cidwm

Oddi ar Cof y Cwmwd
Jump to navigation Jump to search

Mae rhai wedi honni fod Castell Cidwm yn ryw fath ar amddiffynfa hynafol. Mae'n sefyll ger ochr ddwyreiniol Craig Cwmbychan uwchben Llyn Cwellyn. Fodd bynnag, mae archaeolegwyr mwy cyfoes yn gwadu'r ffaith ei fod yn heneb a wnaed gan ddyn, gan ddweud ei fod yn nodwedd naturiol, er gwaethaf y ffaith fod mapiau Ordnans yn rhoi enw Castell Cidwm mewn llythrennau arbennig i ddangos heneb o ryw fath.[1] Mae'n graig serth ac uchel, a'r dybiaeth oedd bod castell wedi arfer bod ar ei phen a fyddai'n amdiffyn Yr Wyddfa rhag ymosodiad.[2]

Mae chwedl yn perthyn i'r graig, sef mai yma y trigai Cidwm, cawr oedd yn elyniaethus i Gwstennin, mab Helen Luyddog. Wrth i Helen arwain byddin i Feirionnydd ar hyd y dyffryn, roedd ei mab Cwstennin ymysg y rhai olaf yn y fintai, ac fe saethodd Cidwm Gwstennin gyda bwa saeth. Fe gladdwyd corff Cwstennin, yn ôl y chwedl, mewn man a elwid yn Fedd y Mab ger y llyn.[3]

Mae'r plasty bychan a elwir yn Gastell Cidwm wedi bod yn westy tan yn bur ddiweddar a bwriad perchennog newydd yr adeilad, y miliwnydd o Ddinbych Lawrence Jones, yw ei droi'n westy o safon uchel.[4] Nid yw'r tŷ hwn yn Uwchgwyrfai, fodd bynnag, gan ei fod yn sefyll yr ochr draw i Afon Gwyrfai wrth fala Llyn Cwellyn, ac felly yng nghwmd Isgwyrfai.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Comisiwn Henebion Cymru, ‘’Caernarvonshire’’, Cyf.2: Central (Llundain, 1960), t.533
  2. George Nicholson, The Cambrian Traveller's Guide, (Stourport, 1808), colofn 92
  3. W. Bingley, North Wales: Including Its Scenery, Antiquities, Customs, and Some Sketches of Its Natural History, (Llundain, 1804), t.361
  4. Daily Post, 29.11.2016