Carreg fellt Pontlyfni

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i: llywio, chwilio

Mae Pontlyfni yn enwog ym myd seryddiaeth am yr hyn a elwir yn carreg fellt Pontlyfni a syrthiodd ym mis Ebrill 1931 i'r ddaear ar dir fferm Coch-y-bug wedi sŵn aruthrol dros ardal eang. Dyma beth mae'r cylchgrawn Y Gwyddonydd yn ei ddweud am y lle y glaniodd y garreg fellt:

"Disgynnodd bedwar cam o'r lle yr oedd gŵr y fferm, y diweddar John Lloyd Jones a'i fab John Aneuryn Jones, yn sefyll, ac fe suddodd droedfedd mewn daear galed. Pan dyn-nwyd ef allan o'r twll yr oedd yn gynnes ac o liw llwyd-las."[1]

Bu cryn helbul wedyn hefyd wrth i'r Amgueddfa Brydeinig geisio prynu'r garreg fellt gan y perchennog newydd, Mr John R Jones o ardal Llanrhystud - gwrthododd yntau'i werthu. Ym 1977 cyflwynodd y garreg i'r amgueddfa. Sonnir am y garreg fellt fel "The Pontllyfni meteorite" yn y papurau seryddol - ond dan y sillafiad amgen 'Pontlyfni' yn aml y'i rhestrir. Dim ond dwy garreg fellt sydd erioed wedi taro'r ddaear yng Nghymru i sicrwydd: y naill ym Mhontlyfni a'r llall tua bymtheg milltir i ffwrdd ochr bella crib Nantlle, ym Meddgelert ym 1949.[2][3]

Eginyn.png Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ei datblygu.


Cyfeiriadau[golygu]

  1. Y Gwyddonydd
  2. Gwefan Bryn Jones
  3. Gwybodaeth gan Wicipedia