Capel Uchaf 2

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i: llywio, chwilio

Pentrefan (hamlet) yn y rhan uchaf o Glynnog Fawr yw Capel Uchaf, a llawer o dyddynnod ar wasgar yn yr ardal, megis Tan y Bwlch, Tan y Clawdd, Sinai a Bron yr Erw i enwi ond ychydig ohonynt. Enwyd y bentrefan ar ôl y Capel lleol, sef Capel Uchaf (MC) a adeiladwyd yn 1761,ond cafodd ei ail-adeiladu ddwywaith, sef yn 1811 ac yn 1870. Ond fe'i caewyd yn ystod Chwefror 2001. Yna fuan ar ôl hynny, fe ddymchwelwyd yr adeilad, ond mae'r fynwent yn parhau i gael ei defnyddio hyd heddiw.

I'r de o Gapel Uchaf mae ffarm Maesog a fu yn dŷ i reciwstaniaid Pabyddol (y rhai a wrthodai fynychu gwasanaethau Eglwys Loegr yn ôl gofynion Deddf Gwlad Cymru a Lloegr o’r 16g hyd at y 18g) yn ystod cyfnod y Diwygiad Protestannaidd. Parhai ardal Clynnog Fawr i fod yn gadarnle Babyddol. Roedd gwr o'r enw Sant John Jones wedi ei ethol yn Sant yn yr ardal, a'i frawd William yn bennaeth ar yr Urdd Babyddol a hefyd yn bennaeth cyntaf ar y Coleg Saesneg yn Rhufain. Roedd Morys Clynnog hefyd yn ŵr adnabyddus, wedi graddio yn Rhydychen, a phan sefydlwyd y Coleg Saesneg yn Rhufain yn 1578, fe’i dewiswyd yn rheithor yno. Ond bu raid iddo ymddeol o'i swydd oherwydd bod myfyrwyr y coleg yn credu ei fod yn ffafrio'r Cymry. Arhososdd teulu Maesog yn Babyddion pybyr, a defnyddiwyd y tŷ fel canolfan i gynnal offeren gan reciwstaniaid lleol.

Gerllaw mynwent Capel Uchaf mae rhes o furddunod a gynhwysai ddwy ystafell, ac wedi’u hadeiladu o gerrig llanw ac ar sylfeini o gerrig mawrio. Mae rhain yn Adeiladau Rhestredig Graddfa ll, (Map Arolwg Ordnans SH431498). Bythynnod ‘croglofft’ traddodiadol oedd y rhain, ond yn anghyffredin yn yr ardal oherwydd eu bod mewn rhes. Roedd gan y tri bwthyn gorn simdde ar yr ochr uchaf, ond roedd gan bwthyn isaf o’r tri gorn simdde ar y taclen isaf hefyd.

I’W BARHAU

Eginyn.png Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma