Capel Tabernacl (A), Rhostryfan

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i: llywio, chwilio

Safai Capel Tabernacl ychydig latheni o'r sgwar yn Rhostryfan ar lôn Rhos-isaf. Erbyn hyn, mae tŷ ar y safle ac ar dalcen y tŷ hwnnw mae hen garreg gydag enw'r capel a'r dyddiad 1866 arni, yngyhyd â'r wybodaeth mai capel Congregationalist oedd o.

Ceir hanes am gychwyniad yr achos gan haneswyr cynnar yr enwad, T. Rees a J. Thomas[1]

"Mae yn ymddangos mai Mr. Roberts, Caernarfon, oedd y cyntaf o'r Annibynwyr a bregethodd yn yr ardal yma gyda'r bwriad o gychwyn achos yn y lle. Bu yn pregethu yn Bryn Horeb, ac yn Nghoedybrain. Yn y flwyddyn 1864, dechreuwyd pregethu yn rheolaidd, a chynnal ysgol Sabbothol yn nhŷ Humphiey Jones; ac ar yr 21ain o Ragfyr, y flwyddyn honno daeth Mr. Roberts yma i ffurfio eglwys ac i weinyddu cymundeb. Pedwar-ar-ddeg oedd rhif yr egwys ar ei ffurfiad, naw o frodyr a phump o chwiorydd; ac aelodau gan mwyaf o'r Foel a rhai o'r Bontnewydd a Gosen. Prynwyd tir at adeiladu capel, a chostiodd y tir a'r cape! dros £276. Agorwyd ef yn y flwyddyn 1866, a gweinyddwyd ar yr achlysur gan y Meistri D. Roberts ac E. Evans, Caernarfon; W. Ambrose, Porthmadog, ac R. Thomas, Bangor. Mae yma yn awr o gylch deugain o aelodau ac y mae y lle mewn cysylltiad â'r Foel."


Eginyn.png Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ei datblygu.


Cyfeiriadau[golygu]

  1. T. Rees, Abertawe a J. Thomas, Lerpwl, Hanes Eglwysi Annibynol Cymru, Cyf.3, (Lerpwl, 1873) t.234,