Capel Saron (A)

Oddi ar Cof y Cwmwd
Jump to navigation Jump to search

Mae Capel Saron yn sefyll yn rhan isaf plwyf Llanwnda, ac mae'r pentref sydd wedi tyfu o'i gwmpas wedi mabwysiadu'r enw Saron. Mae'r capel yn perthyn i'r Annibynwyr.

Cychwynnwyd yr achos gan William Hughes, Brynbeddau, ffermwr sylweddol yn y plwyf, a gafodd ysgogiad crefyddol wrth wrando ar bregethu yng Nghapel Caernarfon rywbryd ar ôl 1790. Dechreuodd yr arferiad o gynnal cyfarfodydd pregethu yn y Graigwyllt, plwyf Llanfaglan, ac o dipyn i beth fe dyfodd cynulleidfa yno, ond bu raid iddynt symud wedi i'r tirfeddianwyr gelyniaethus lleol fynnu bod y rhai a oedd yn mynd yno'n malu cloddiau ac ati, a chafwyd pregethu ar dir comin yn y plwyf hwnnw am ryw bum mlynedd wedyn. Cafodd alwad rywbryd i gynnal gwylnos mewn tŷ hen wraig a oedd newydd farw ar dir y Pengwern ac, o hynny ymlaen, cynhaliodd gyfarfodydd ym mhlwyf Llanwnda, mewn tŷ a'r enw Tros-y-lôn, a logwyd at y pwrpas gan ffermwr fferm y Bont-faen. Tyfodd y niferoedd yno, cychwynnwyd ysgol Sul, a chynhaliwyd cyfarfodydd gweddïo a phregethu.

Wedi i rai blynyddoedd fynd heibio, teimlwyd fod angen adeilad mwy a sicrhawyd prydles ar gornel o dir comin Rhosysgawen lle codwyd capel tua 1812, ac wedyn, dŷ gweinidog. Mae'n ymddangos o'r map degwm fod y capel ar draws y ffordd i safle'r capel presennol, ond yn berchen ar pedwar cae lle saif y capel presennol a hyd at drofa Felinwnda. Prydles oedd gan y capel gan ddynes o'r enw Anna Evans, a William Hughes yn swyddogol oedd y tenant.[1] Symudodd William Hughes yno tua 1827, gan roi ffermio heibio a gweithio fel gweinidog anffurfiol yr achos. Ar ôl i William Hughes fynd yn hen, ac yn unol ag arferiad yr Annibynwyr cynnar, fe'i hurddwyd yn weinidog swyddogol ond aeth rhywbeth o'i le gyda'i berthynas â'r eglwys yr oedd wedi ei sefydlu. Dywedir iddo symud yn ei henaint yn ôl i'r Bontnewydd lle daeth yn aelod, ond yn sicr roedd o a'i deulu'n dal i fyw yn y tŷ yn Saron ym 1841, y drws nesaf os nad dan yr un to, â'i olynydd, Griffith Thomas.[2] Dichon mai ei ddawn i efengylu a sefydlu achos, ond ei fethiant i fugeilio'n effeithiol, oedd y tu ôl i'r gwahanu.

Am rai blynyddoedd yn y 1830au roedd y capel yn ddi-weinidog, nes rhoi galwad i Griffith Thomas o Rydlydan, dyn ifanc tua 28 oed, ym 1839. Bu yno, yn weithiwr caled ar ran yr eglwys, nes symud i Lanrug ym 1852. Ar ôl bod heb weinidog am rai blynyddoedd, ymunodd gyda chapel annibynwyr y Bontnewydd i roi galwad i Robert Hughes, Rhosmeirch. Wedi iddo ymadael, rhoddwyd galwad wedyn i Lewis Williams, Llanarmon, fel gweinidog.

Roedd yr hen gapel wedi mynd yn anaddas erbyn y 1860au, ac fe godwyd y capel presennol ym 1862yn unol â chynlluniau'r pensaer Thomas Thomas, Glandŵr, Abertawe. Cafodd gwaith moderneiddio ei wneud ym 1889 a 1901[3]. Lleolir y capel ar Ffordd Pant, Saron. Gant a hanner o flynyddoedd yn ddiweddarach, mae'r capel yn dal yn agored, un o ddim ond pedwar achos yr Annibynwyr yn Uwchgwyrfai sy'n dal ar agor erbyn hyn.[4]

Eginyn.png Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau[golygu]

  1. LLGC Map Degwm plwyf Llanwnda
  2. Cyfrifiad plwyf Llanwnda, 1841
  3. Cofnod o Gapel Saron ar wefan y Comisiwn Brenhinol
  4. Seiliwyd yr erthygl hon ar lyfr T.Rees a J. Thomas, Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru (Lerpwl, 1873), tt.246-8