Capel Salem (W), Tŷ'nlôn

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i: llywio, chwilio

Mae Capel Salem yn un o achosion Wesleaidd cynharaf yng Ngogledd Cymru, gan fod cymdeithas o Wesleiaid wedi ei ffurfio ym mhlwyf Llandwrog tua 1810. Mae Capel Salem ei hun yn dyddio o 1856, ac fe'i adeiladwyd yn nhreflan Tŷ'nlôn a oedd, hyd yn oed y pryd hynny oddi ar y briffordd. Ceir llawer o gyfeiriadau at "Gapel Llandwrog" ymysg cofnodion cylchdaith y Wesleiaid; mae'r rhain yn cyfeirio at Gapel Tŷ'nlôn, yn hytrach na'r capel arall a sefydlwyd o fewn ffiniau'r plwyf, sef Capel Moriah (W), Tal-y-sarn.

Cafwyd prydles o ran o gae o'r enw Cae Llwm am 99 mlynedd ym 1855 oddi wrth John Parry, y gŵr bonheddig a oedd yn berchen ar ystad fechan Collfryn Mawr, am rent o £2.4.0c y fl. Yr ymddiriedolwyr a oedd i ddal y brydles (a chodi'r capel) oedd Thomas Edwards ac Edward Edwards, y ddau o Dŷ Hen; Owen Jones, Cae Glas; Richard Edwards, Plas; John Thomas, "Tyddyn Cupher" [Tyddyn Seiper]; John Roberts, Maen Coch; a Robert Roberts, Tan y Cefn, plwyf Llanwnda, ffermwyr; a William Roberts, Gwernafalau, ffermwr; John Humphreys, The Cottage, [Glynllifon], garddwr; a William Roberts o'r Lodge, garddwr, plwyf Llandwrog.[1] Ym 1856 codwyd y capel a hynny ar y safle bresennol. Fe'i addaswyd ym 1873 yn unol â chynlluniau Richard Davies o Fangor. Fe'i ail-adeiladwyd ymhellach ym 1908.[2]

Yng nghefn y capel y mae stabl a godwyd yn ddiweddarach ar gyfer ceffyl a ddeuai â phregethwr ar ei gefn i bregethu, ond dywedir na chafodd ond un ceffyl ei stablo yno erioed gan ei bod wedi codi ar derfyn oes y ceffyl pan oedd trenau a moduron yn dechrau cymryd lle'r ceffyl.

Tua 1908, pan brydleswyd ychwaneg o dir wrth ochr y capel oddi wrth Ystad Glynllifon, enwyd y canlynol fel ymddiriedolwyr y capel - sydd yn rhoi argraff o ddalgylch a natur yr aelodaeth y pryd hynny: William Roberts, Nursery Cottage, Glynllifon garddwr; Edward Roberts, Gwernafalau, ffarmwr; William Williams, The Lodge, Glynllifon, saer, plwyf Llandwrog: Griffith Griffith Jones, Ceunant, plwyf Llanrug, chwarelwr; Lewis Jones, Penygraig, Tal-y-sarn, labrwr; John William Roberts, Nursery Cottage, athro cerdd; John Jones, Tŷ hen, plwyf Llanwnda, labrwr; William Roberts, Cefn Coch, Llanwnda, pointsmon (ar reilffordd); John Williams, Rhostryfan, ffarmwr; Meyrick Jones, Dolgau, Llandwrog, saer maen: Griffith Evans, Pentre, Llanwnda, ffarmwr; Robert Hughes, Cartrefle, Y Groeslon, swyddog cymorthdaliadau; Robert Jones, Tŷ'nlôn, saer maen; Richard Williams, Fair View, Llanwnda, gof; Arthur John Parry, Pant y Rhedyn, Llanwnda, peiriannydd; Alfred Thorman, Y Groeslon, gof; Llewelyn Parry, Pant y Rhedyn, athro ysgol; William Edward Wakefield, Maencoch, Llanwnda, asiant yswiriant; John Cadwaladr Thomas, Tanycefn, Llanwnda, labrwr; John Williams, Tŷ'nlôn, labrwr; Peter William Jones, Tŷ Capel, Tŷ'nlôn, chwarelwr; John Hugh Williams, Bay View, Llanwnda, saer; a Robert Roberts, Belan, Llandwrog, gofalwr.[3]

Cynhaliwyd gwasanaeth dathlu 150 mlynedd o'r adeilad presennol yn 2006 yn ystod Cyfarfod Pregethu blynyddol y capel, pan bregethodd y Parch. Gwyn C. Thomas, Tal-y-sarn, gweinidog Wesle Pwllheli ar y pryd.[4] Roedd y cyfarfod pregethu yma'n hen draddodiad a barhaodd yma'n bur hwyr, tan oddeutu 2012, ar ddydd Iau yn ystod mis Mehefin. Arferai gynnwys pedwar pregeth, un ar nos Fercher a thair yn ystod ddydd Iau, gyda dau bregethwr gwâdd (y ddau bron yn ddi-ffael yn Wesleiaid) yn rhannu'r dyletswyddau. Bu'n arferol cael cynulleidfa o gapeli'r ardal ac o eglwysi Wesleiaidd eraill Arfon, a hyd y 21g bu'n arferol cael dros 50 yn y gynulleidfa.

Pan oedd system cylchdeithiau cryf mewn grym, rhan o Gylchdaith Caernarfon oedd Capel Salem.

Bu'r capel yn dal ar agor hyd haf 2018 gyda gwasanaeth bob pnawn Sul ond aeth yr aelodaeth mor isel fel nad oedd modd cyfiawnhau cynnal gwasanaethau ar ôl hynny. Tan oddeutu 1980 roedd dau wasanaeth bob dydd Sul, a chynhaliwyd ysgol Sul am gyfnod yn y 1980au cynnar, ar ôl bwlch o 10 mlynedd a mwy. Dyma oedd achos olaf Wesleaid Uwchgwyrfai i gau.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Archifdy Caernarfon XD2/7488
  2. Coflein, http://coflein.gov.uk/cy/site/6922/details/salem-welsh-wesleyan-methodist-chapel-tynlon , adalwyd 03.08.2018
  3. Archifdy Caernarfon XD2/6687
  4. Y Gwyliedydd, rhif 142 (Awst-Medi 2006)