Capel Rhosgadfan (MC)

Oddi ar Cof y Cwmwd
Jump to navigation Jump to search

Codwyd Capel Rhosgadfan (MC) ym 1876, fel cangen o capel Horeb, Rhostryfan. Cyn yr 1860au rhaid oedd i Fethodistiaid Rhosgadfan gerdded y milltir i lawr yr allt i Gapel Horeb i fynychu oedfaon. Yr oedd ysgol Sul wedi bod yn cael ei chynnal, fodd bynnag, ers tua 1840, yn nhŷ Cae'r Gris, gyda dau o flaenoriaid Capel Rhostryfan oedd yn byw yn lleol yn gofalu amdani.

Ym 1861, codwyd ysgoldy, at ddiben cynnal ysgol Sul yn unig, gyda lle i 100 o bobl ond yn fuan dechreuwyd cynnal pregethu ar bnawniau Sul. Ym 1876 fodd bynnag, aed ati i godi capel i'r pentref, ar draul o £850, ac fe'i agorwyd Ebrill 1877. Cytunodd y Parch. T. Gwynedd Roberts, gweinidog Horeb, i ofalu am Rosgadfan hefyd, a'r un flwyddyn fe sefydlwyd yr eglwys fel eglwys annibynnol ar Horeb ym Medi 1877. Roedd y Methodistiaid wedi bod yn teinlo'r angen am gapel ers tro, gan fod y pentref yn tyfu a'r teuluoedd oedd yn newydd i'r fro yn tueddu mynd i gapel yr Annibynwyr, sef Capel Hermon (A), Moeltryfan, a oedd yn nes atynt. Fodd bynnag, ymunodd 66 o hen aelodau Horeb â'r eglwys newydd, ac erbyn diwedd 1877 roedd yn 78 o aelodau, 177 o wrandawyr ac 138 o aelodau gan yr ysgol Syl. Roedd 250 o eisteddleoedd yn y capel newydd.

Rhoddodd y Parch Gwynedd Roberts y gorau i'r ofalaeth ym 1894, ac ym 1896, daeth y Parch J.O. Williams yn ei le fel gweinidog, er byr oedd ei dymor, gan iddo farw Awst 1898. Brodor o'r Capel Uchaf, Clynnog Fawr ydoedd, ac wedi bod yn wan ei iechyd erioed.

Erbyn 1900 roedd yr aelodaeth wedi codi i 126[1], a ffynnodd yr eglwys am flynyddoedd, er bod Hermon, Moeltryfan oedd capel mwyaf yr ardal o ran aelodaeth. Mae o wedi cau ers blynyddoedd, a bellach mae wedi ei werthu.

Eginyn.png Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau[golygu]

  1. W. Hobley, Hanes Methodistiaeth Arfon, Cyf.I, Dosbarth Clynnog (Caernarfon, 1910), tt.231, 328-333