Capel Nebo (MC)

Oddi ar Cof y Cwmwd
Jump to navigation Jump to search

Codwyd Capel Nebo i wasanaethu trigolion ardal wasgaredig Mynydd Llanllyfni oedd am arddel dull a chredo'r Presbyteriaid Calfinaidd ym 1826. Cyn hynny, am ryw 20 mlynedd bu'r ffyddloniaid yn cadw ysgol Sul mewn amryw o ffermdai'r fro. Hyd 1843, parhodd y capel yn swyddogol fel ysgoldy yn perthyn i achos Capel Salem (MC), Llanllyfni ond y flwyddyn honno sefydlwyd eglwys Nebo fel achos Calfinaidd ar wahân. Erbyn canol y 19g, roedd y pentref a dyfodd o amgylch y capel wedi cael ei enwi'n Nebo. Codwyd capel newydd ym 1860, ei ailadeiladu a'i helaethu ym 1874 ac fe'i helaethwyd ymhellach ym 1878.

Cafwyd yr enw'n wreiddiol o'r Beibl. Mynydd Nebo oedd y mynydd (sydd erbyn hyn yng ngwlad Iorddonen) lle cafodd Moses weld gwlad yr addewid o'i gopa. Dichon mai oherwydd yr olygfeydd eang a geir o Fynydd Llanllyfni y dewiswyd yr enw.

Isod gweler addasiad a thalfyriad o anerchiad ysgrifennydd y capel ar achlysur ei ganmlwyddiant ym 1926[1]:

Yr ysgol Sul gychwynnol[golygu]

Dywed hanes wrthym mai yn y flwyddyn 1809 y cychwynnwyd ysgol Sul cyntaf yr ardal mewn lle o’r enw Tyn y Fron. Nid oes gennym fawr o hanes am yr ysgol yno. Symudwyd oddi yno i dy un o’r enw Catrin Salmon, yn agos i Rhwngddwyafon. Cynyddodd yr ysgol yn y lle hwn, ac fe’i cynhaliwyd mewn tri thŷ. Yr oedd yr ysgol hon yn enwog mewn dysgu’r Beibl. Y rhai oedd yn gofalu am yr ysgol , Robert Evans Cil-llidiart, Hugh Hughes y Caerau, a John Pritchard Tirionpelyn. Bu'r tri hyn yn flaenoriaid yn Llanllyfni yn 1821.
Pan adeiladwyd Capel Nasareth gan yr Annibynnwyr, fe symudwyd yr ysgol yno, [ond] elai rhai o’r Methodistiaid i ysgol [Sul] Llanllyfni. Yn y cyfnod hwn sefydlwyd ysgol uwch i fyny yn yr ardal, sef ym Maesneuadd. Symudwyd oddi yno i le o’r enw Pencraig, lle y trigai un o’r enw John Michael; gofelid am yr ysgol ganddo ef a Griffith Williams Taleithin. Hen lanc gweithgar a duwiol oedd Griffith Williams, un a brofwyd yn ddychryn i annuwioldeb. Symudwyd drachefn o Bencraig i Taldrwst, lle'r oedd un o’r enw Thomas Edwards yn byw. Gofelid am yr ysgol ganddo ef a William Roberts, Buarthyfoty, a William Roberts Cae’rengan.
Yr oedd teimlad o anesmwythodd ym mhlith yr hen dadau o eisiau ysgoldy, ac i’r amcan hwnnw prynwyd tir gan Hugh Roberts Ismael, Glan y Gors, am bum gini.

Codi'r capel cyntaf[golygu]

Yn 1826 Adeiladwyd Ysgoldy. William Williams Tynyfron oedd yr adeiladydd; gofelid am y gwaith gan Owen Evans Coed cae du, ac Evan Roberts Dolywenith. Llawr pridd a meinciau oedd i’r capel cyntaf oddi mewn. Wedi gorffen y capel daeth y rhai oedd ar wasgar yn gytûn i’r un lle, sef rhai‘r Taldrwst, rhai o Nazareth,a rhai o Lanllyfni.
Mae’n debyg yn ôl yr hanes mai John Williams, Llecheiddior a bregethodd gyntaf yn y capel newydd ar brynhawn Sul Ionawr 1827. Ymhen ysbaid ar ôl cael pregeth ar y Sul fe geid cyfarfod Eglwysig ar brydiau dan arweiniad un neu ddau o flaenoriaid Llanllyfni.
1828
 Rhif yr Ysgol yn 28ain
1835
Trefnwyd Mynydd Llanllyfni yn daith gyda Thalysarn

Sefydlu eglwys ar wahân[golygu]

1842
Awydd Ysgoldy’r Mynydd i sefydlu Eglwys. Gwrthwynebiad yn Llanllyfni gan fod y ddyled yno yn £700.00
1843
Sefydlu Eglwys yn Nebo. A gosodwyd y ddyled o £60.00 oedd yn aros ar yr ysgoldy i’w thalu gan yr Eglwys yma. Rhif yr Eglwys ar ei sefydliad 36. Cawn restr hefyd yn y llyfr Hobley o’r rhai a ymadawodd o Lanllyfni i ffurfio Eglwys yn Nebo, sef 47 o enwau: Meibion 22 Merched 25.
1844
Dewiswyd Richard Roberts Bodychain a Richard Griffiths Penyryrfa yn flaenoriaid. Dyma’r blaenoriaid cyntaf yn Eglwys Nebo.

Codi capel newydd, helaethu hwnnw wedyn, ac atgyweirio[golygu]

1860
Caniatâd oddi wrth y Cyfarfod Misol wedi brwydr fawr, i adeiladu Capel newydd ( yn mesur 13 llath wrth 8 llath). Dyled eisoes ar yr hen Gapel yn £50.00. Wedi codi'r Capel newydd y ddyled yn £340.00 Yn cael ei agor Mehefin 25 ain 1861. 
1862
Cafodd yr Eglwys ei Bugail cyntaf y Parch William Jones, yr un pryd ac y daeth i Lanllyfni. Y pregethwr cyntaf a godwyd yma ydoedd John Jones, Bryntrallwm, gŵr ieuanc a llawer o hynodrwydd ynddo. Yr oedd gydag Eben Fardd yn yr ysgol pan fu farw yn 22ain oed Ionawr 7fed.
1870
 Dechreuodd y Parch Robert Thomas ar ei waith [yn Nebo] fel Bugail. Yn yr un flwyddyn y dechreuodd y Parch William Ll. Griffith, Llanbedr, bregethu.
1873
[Yn ystod] y flwyddyn hon helaethwyd y Capel. Yr oedd y ddyled eisoes yn £207.00 ac yn niwedd 1874 yr oedd y ddyled yn £980.00.
1878
Gorfu atgywiro y Capel o fewn pedair blynedd ar ôl helaethu fu arno yn 1874 [ac yr oedd] hyn yn brofedigaeth fawr i’r Eglwys . Y ddyled yn 1877 yn £669.00, yn 1879 yn £1,539.00. Rhif yr Eglwys yn 165.

Blynyddoedd llewyrchus yr achos[golygu]

1893
 Yr eglwys yn rhoi galwad i’r Parch J.M. Jones i’w bugeilio.
1898
 Nebo a Saron ([Tal-y-sarn]) yn ymwahanu fel taith Sabbothol.
1900
Rhif yr aelodau y flwyddyn hon yn 187. Swm y ddyled ar ddiwedd y flwyddyn yn £410.8.3. 
1901
Yr oedd y set fawr yn Nebo yn fawr mewn mwy nag un ystyr y pryd hwn. Yr oedd ynddi gewri o ddynion yn swyddogion. Yr oedd eu dylanwad adre ac oddi adre. Yr oedd y cyfarfod misol yn gwybod amdanynt. Yr oeddynt yn flaenoriaid mewn gwirionedd. Yr oedd yma saith ohonynt: David Griffith, Post Office; Hugh Williams, Glanygors; William Roberts, Tyddyn hen; Griffith William Jones, Post Office Nasareth; Evan Jones, Brynperson; John Hughes, Brynffynnon; TA Griffith, Post Office.
Yr oedd caniadaeth y cysegr yn bur uchel yn y cyfnod hwn. Dyma'r adeg [y cafwyd] offeryn perthynol i’r Eglwys, pryd y gwasanaethwyd arni gan Mr. Morris R. Roberts, Tyddyn hen a Morris R. Roberts, Ty'n y ffridd. 
1903
Rhif yr Eglwys yn 200. Erbyn diwedd y flwyddyn yn 210. Y ddyled yn £174.15.09. Gwerth y Gymdeithas di-log yn £639.11. Yr oedd yr Eglwys y flwyddyn hon wedi ei llanw a sêl brwdfrydig iawn, a phenderfynwyd dwyn gwelliantau ynglŷn â’r adeiladau a dewiswyd pwyllgor i’r amcanion. Yr oedd yr amgylchiadau yn bur ffafriol. Holl gasgliadau yr Eglwys yn ganmoliadwy iawn. Penderfynwyd tynnu i lawr yr hen Tŷ Capel, [gan] adeiladu ystafell y Festri, a thŷ Capel newydd, ac adgyweirio'r Capel. Gosodwyd y gwaith i Robert A. Williams o Ben-y-groes a chafwyd adeiladau gwych a theilwng. Tra roedd y gwaith yn mynd ymlaen cynhaliwyd y gwasanaethau yn yr Ysgoldy.
1904
 Wedi gorffen yr adeiladau newydd yr oedd y ddyled Rhagfyr 1904 yn £954.2.8, tra oedd yn llaw y trysorydd Mr. David Griffith £105.4.4.
 Blwyddyn rhyfedd iawn ydoedd hon, blwyddyn "Diwygiad Mawr 1904". Nos Iau, Rhagfyr. 22 ain, noson Seiat yn Nebo y torrodd y diwygiad allan yn yr ardal hon. Cynhaliwyd Seiat fel arfer a dim byd neilltuol i’w deimlo, ond wedyn cafwyd cyfarfod gweddi, ac yn hwnnw cafwyd tywalltiad helaeth o’r Ysbryd Glân.
1905
Codi'r Parch Evan Lloyd Jones yn bregethwr. Yr oedd wedi dechrau fel athro yn Ysgol elfennol Nebo, ond clywodd yn y Diwygiad lais yn ei alw i wasanaeth uwch ac ufuddhaodd yntau. 
1922
Y Parch R. W. Roberts B.A.B.D. yn dechrau ar ei waith fel bugail.
Bu i’r Eglwys yn ystod y can mlynedd bedwar o weinidogion, codwyd saith o bregethwyr yn yr eglwys, a bu saith ar hugain o flaenoriaid yn gwasanaethu yn ystod y cyfnod.
Edwin O. Roberts, Ysgrifennydd. (Talfyrrwyd).

Hanes diweddarach[golygu]

Gyda'r edwino cyffredinol ar achosion crefyddol a ddechreuodd gyda dadrithiad llawer yn sgîl hanesion arswydus y Rhyfel Byd Cyntaf, ac a gyflymodd ar hyd y ganrif, gwaniodd yr achos. Ffactor arall, efallai, oedd y mewnlifiad o rai di-Gymraeg a fantesiodd ar brisiau isel y tai sâl yn yr ardal. Fe'i gaewyd cyn 1998. Erbyn hynny roedd y capel wedi cael ei droi'n dŷ annedd.[2]

Eginyn.png Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Mae'r erthygl wedi ei thalfyrru o draethawd lawn Edwin O. Roberts, ysgrifennydd y capel, ar achlysur dathlu canmlwyddiant codi'r capel cyntaf, sydd i'w gweld ar Wefan Dyffryn Nantlle, [1]
  2. Gwefan Coflein [2], cyrchwyd 16.3.2020