Capel Horeb (MC), Rhostryfan

Oddi ar Cof y Cwmwd
Jump to navigation Jump to search

Mae achos y Methodistiaid Calfinaidd ynHoreb, Rhostryfan yn hŷn o dipyn na'r capel ei hun (a chwalwyd tua 20 mlynedd yn ôl, er i'r festri barhau fel cartref i'r eglwys. Saif ar sgwâr neu groesffordd yng nghanol pentref Rhostryfan.

Yr ysgol gychwynnol[golygu]

Sonnir am bregethu yn yr ardal cryn dipyn cyn ddiwedd yr 18g yn yr awyr agored, a phregethid oddi ar ben carreg yn ymyl y lôn isaf i dreflan Rhos-isaf, yn ôl Robert Jones, Rhoslan. Dywedir fod bynnag fod tua 20 o drigolion y Rhos yn aelodau ym Bryn'rodynerbyn tua diwedd y 18g, gan gynnwys William Griffith ac Elinor Morris, cwpl priod oedd yn byw yng Nghefn-pederau. Tua 1804, cychwynnwyd "ysgol Sul" mewn bwthyn o'r enw "Y Muriau" ar dir Wernlas-wen, cyn symud i Dŷ'n Weirgloidd, o'r fan honno i Cae'r Odyn ac wedyn i Benlan uchaf. Ym 1816, cafwyd cyfle i rentu Tŷ Uchaf at ddibenion cynnal ysgol Sul, ac eithiau seiat. Fe gynhelid y rhain yr un adeg â'r moddion ym Mryn'rodyn. Ar yr adeg gynnar hon, nid oedd gan yr achos weinidog ond roedd y Parch. William Hughes, Bryn beddau, Llanwnda ac wedyn o Gapel Saron, gweinidog gyda'r Annibynwyr yn gefn mawr i'r achos ifanc.

Y capel cyntaf[golygu]

Codwyd y capel cyntaf ym 1821, yn 23' wrth 17' y tu fewn o ran maint. Roedd llofft fechan ar un dalcen, gyda grisiau o'r tu allan yn arwain ati. Un sedd oedd o gwmpas y waliau, a gweddill yr eisteddleoedd yn feinciau a osodwyd ar lawr pridd. Rhoddwyd yr enw Horeb arno. Pregethwyd yno am y tro cyntaf tua diwedd 1821, gan Robert Owen, Y Rhyl. Roedd 30 o aelodau ar y cychwyn.

Yn fuan sefydlwyd cyfarfod pregethu adeg y Pasg bob blwyddyn. Nodir cyfarfod 1833 fel un arbennig, gyda John Jones, Tal-y-sarn yn un o'r tri phregethwr, ynghyd â Griffith Jones, Tregarth a Cadwladr Owen. Sefydlwyd Cymdeithas Gymedroldeb a Chymdeithas Ddirwest hefyd, gyda hanner aelodau'r achos yn ymuno - sef 15. Dechrau arddel dirwest yn eang yn yr ardal oedd hyn, i'r graddau na chafwyd yr un dafarn yn y fro hyd heddiw (oddigerth Clwb Mountain Rangers yn Rhosgadfan yn weddo,ddiweddar). Rhaid oedd i lymeitwyr gerdded i lawr i Dafarn y Mount Pleasant nid nepell o eglwys y plwyf am ddiod!

Roedd diwygiad wedi taro'r ardaloedd o gwmpas ym 1830-32 ac er ei fod yn araf i gydio yn Horeb, o dipyn i beth fe gynyddodd yr aelodaeth nes bod y capel gwreiddiol yn mynd yn rhy fach.

Yr ail gapel[golygu]

Ym 1837-8 adeiladwyd yr ail gapel ar darn o'r tir comin gerllaw'r hen gapel, a hynny am £7. Trowyd yr hen gapel yn dŷ capel, yn cynnwys stabl hefyd yn un pen. Roedd y capel ei hun yn fawr am y cyfnod, gydag eisteddleoedd i 300. Roedd y mesuriadau y tu mewn yn 42' wrth 36'. Gwahoddwyd John Elias o Fôn i agor y capel yn swyddogol, ac nid yn annisgwyl roedd y capel yn llawn. Cynyddodd yr aelodaeth yn sylweddol wedi codi'r capel newydd ac ym 1846/7 fe'i gofrestrwyd fel man lle gellid gweinyddu priodasau. Tua'r un adeg dechreuwyd defnyddiuo tir y capel yn fan claddu. Y cyntaf i'w gladdu yno oedd Ann Williams, Cae Ymryson yn 75 oed, aelod ers 47 o flynyddoedd.

Ym 1848, atygweiriwyd y capel, gan osod nenfwd ynddo. Hefyd fe roddwyd cloc yno, ond yn ôl yr hanes, nid oedd byth yn cadw'r amser cywir! Erbyn 1855-6, roedd angen mwy o le eto, a chwalwyd un ochr o'r capel, gan godi'r ochr ryw 15 troedfedd a ffurfio talcen newydd; canlyniad hyn oedd creu 150 ychwaneg o eisteddleoedd. Yn ol pob sôn, anodd ar ol yr ehangu hwn oedd adnabod yr adeilad fel capel!

Roedd yna ddiwygiad eang yng ghymru yn ystod 1859 ond araf oedd o i gydio yn Rhostryfan tan Diolchgarwch 1860. Gellir barnu ei effaith trwy ystyried mai 182 oedd aelodaeth y capel ym 1858, ond erbyn 1860, cododd i 263.

Yr ysgol ddyddiol[golygu]

Cyn bod sôn am ysgol ddyddiol a ariennid yn gyhoeddus ceisiodd y capel wneud rhywfaint o ddarpariaeth ar gyfer y gymdogaeth. Cynhelid ysgol yn llofft tŷ capel Horeb gan ddyn o'r enw Ellis Thomas yn nechrau'r 1840au, ac yn ogystal â'r tâl a dderbyniai gan y rhieni, cyfrannai'r capel hefyd at ei chynnal. Fe ymadawodd tua 1846 â'r tŷ capel fodd bynnag, ac aeth rhai o'r plant i'r ysgol eglwysig yn y Bontnewydd tra aeth eraill i ysgol a gynhelid ym Melin Forgan ger Capel Bryn'rodyn. W. Prichard o Fodwrdda, Aberdaron a ddaeth yn ei le.

Ym 1849, penderfynodd y capel y dylid ceisio sefydlu ysgol mwy effeithiol, a chafwyd gwasanaeth Benjamin Rogers fel ysgolfeistr, a ddaeth o Abergele i Rostryfan. Am rai blynyddoedd cynhelid yr ysgol yn y capel nes adeiladu ysgoldy newydd ym 1855, gyda lle ar gyfer 100 o blant. Ariannwyd yr adeilad yn llwyr gan y capel heb grant, gan nad oedd yn cydymffurfio, ysywaeth, â gofynion yr awdurdodau. Ymadawodd Rogers ymhen y flwyddyn, a daeth John Roberts yn ei le fel ysgolfeistr o Lanllechid; yntau wedyn yn gadael ym 1857, a chyflogwyd Griffith Jones o Feifod, Sir Drefaldwyn, yn ei le am gyflog o £20 y flwyddyn. Arhosodd yno tan 1860, ac yr oedd hefyd yn ddefnyddiol i'r capel fel pregethwr. Fe'i ddilynwyd gan Owen Griffith o Fôn, ac wedyn yn eu tro, Thomas Jones o'r Celyn Uchaf, Llanddeiniolen, John Hughes (Idanfryn) a John J. Roberts. Erbyn 1869, cymerodd y gweinidog newydd at y swydd o ysgolfeistr hefyd hyd nes agor Ysgol Brytanaidd Rhostryfan yn niwedd 1870.

Y trydydd capel[golygu]

Ym 1866 yr adeiladwyd y trydydd capel, gyda John Thomas, Penceunant yn gynllunydd ac adeiladwr, a hynny ar gost o £1600. Mesuroidd yr adeilad newydd 63' wrth 54' y tu mewn.

Roedd yr achos heb gael gweinidog neu "fugail" cyn hynny, ond ym mis Ionawr 1869, sefydlwyd y Parch. T. Gwynedd Roberts fel bugail ac ysgolfeistr (hyd nes i'r ysgol Brytanaidd agor ym 1870). Ar ôl agor Capel Rhosgadfan (MC) ym 1876, roedd yn weinidog ar y ddau gapel. Roedd ei weinidogaeth yn hir a llwyddiannus: symudodd i Gaernarfon ym 1894 gan ymaelodi ym Moriah, ar ôl gwasanaethu am 25 o flynyddoedd. Gellir barnu ei lwyddiant o'r ffaith mai 264 oedd rhif yr aelodau rhwng Rhostryfan a Rhosgadfan; erbyn 1894, roedd 264 o aelodau yn Rhostryfan yn unig, a 103 arall yn Rhosgadfan. Fe'i ddilynwyd gan y Parch. William Williams, a symudodd i'r capel o Ddinas Mawddwy. Parhaodd y capel yn llewyrchus, gyda 345 o aelodau ym 1900.

Yn ystod y rhan fwyaf o hananer cyntaf yr 20g., W. Gilbert Williams oedd yr ysgrifennydd, a sicrhaodd fod cofnodion y capel o 1856 hyd 1954 wedi eu cadw'n ddiogel yn Archifdy Caernarfon.[1]

Parhaodd y capel i sefyll tan y 1990au, pan y'i chwalwyd, gan ddefnyddio'r festri helaeth yn ei le. Mae'r achos yn dal i fynd heddiw (2020).[2]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Archifdy Caernarfon, Paprurau W.Gilbert Williams, passim
  2. Prif ffynhonell yr erthygl hon yw W. Hobley, Hanes Methodistiaeth Arfon, Cyf.I, Dosbarth Clynnog (Caernarfon, 1910), tt.212-237. Un o brif ffynonellau Hobley am yr hanes oedd traethawd gan y Parch. William Williams, Dechreuad a Chynnydd yr Achos yn Horeb, Rhostryfan, Parurau W. Gilbert Williams, X/WGW/12/1