Capel Gosen (MC), Trefor

Oddi ar Cof y Cwmwd
Jump to navigation Jump to search

Mae Capel Gosen (MC) yn gapel ynghanol pentref Trefor. Agorwyd y capel cyntaf ar y safle ym 1862, gyda chapel llawer helaethach yn cael ei adeiladu yno ym 1875. Caewyd y capel yn 2006 ac mae'n cael ei droi'n dŷ neu fflatiau ar hyn o bryd.

Dechrau'r achos[golygu]

Yn yr erthygl yn Cof y Cwmwd ar Achos Methodistaidd Hen Derfyn, soniwyd fel y deilliodd eglwys Gosen, Trefor i raddau helaeth o'r achos cynnar hwnnw ac o'r oedfaon achlysurol a gynhelid ar aelwyd ffermdy Llwynraethnen, cartref Evan Pierce, a oedd yn un o flaenoriaid achos Hen Derfyn. (Mae ffermdy Llwynraethnen yn adeilad o ddiwedd yr ail ganrif ar bymtheg neu ddechrau'r ddeunawfed ganrif a bu tafarn yno ar un adeg.) Roedd capel Cwmcoryn uwchlaw Llanaelhaearn hefyd wedi ei agor ym 1811 ac agorwyd capel Seion Gurn Goch ym 1826. Yn y dyddiau cyn bodolaeth pentref Trefor i'r mannau hynny yr ai Methodistiaid rhannau isaf plwyf Llanaelhaearn i addoli.

Fodd bynnag, ym 1856 codwyd y tai cyntaf ym mhentref newydd Trefor ac erbyn y 1860au roedd y boblogaeth yn cynyddu'n gyflym wrth i chwarel y Cwmni Ithfaen Cymreig ddatblygu yn y Gorllwyn. Ym 1861 ysgogwyd Evan Evans, Llwynraethnen (ŵyr yr Evan Pierce uchod) a Griffith Jones, Cae Cribyn, Llithfaen i annog codi capel i'r Methodistiaid yn y pentref newydd. Cafwyd ymateb brwdfrydig iawn a phrynwyd darn bach o dir Llwynraethnen gan y perchennog, Humphrey Owen, Rhuddgaer, Sir Fôn am bum punt - ond dychwelwyd yr arian gan y gwerthwr. Adeiladwyd y capel cyntaf ym 1862 ar gost o rhwng £300 a £350 a llwyddwyd i gadw'r costau i lawr drwy i'r chwarelwyr drin a naddu'r cerrig a gwneud llawer o'r gwaith adeiladu yn eu horiau hamdden prin. Roedd llawer o'r aelodau cyntaf wedi dod dan ddylanwad diwygiad mawr 1859 ac yn ewyllysgar iawn i weithio dros yr achos. Etholwyd Evan Evans a Griffith Jones yn flaenoriaid cyntaf yr achos. Dim ond dwy flynedd yn ddiweddarach, ym 1864, bu farw Griffith Jones yn ddyn ifanc 40 oed, a chyfeirir at eglwys Gosen yn yr englyn o waith Dewi Arfon sydd ar ei garreg fedd ym mynwent eglwys Carnguwch.

     Hawddgar hoff ydoedd Gruffydd - swyddog Iôr
           Rhoes wedd gu ar grefydd,
        A thra bo Gosen ysblennydd
        Ar ei sail, ei gofadail fydd. 

Cafodd Evan Evans ar y llaw arall oes lawer hwy; symudodd i fyw i Ryd-y-clafdy ym 1907 a bu farw ym 1924 yn 92 oed.


Cynnydd yr achos a'i weinidogion[golygu]

Gyda'r cynnydd cyflym ym mhoblogaeth Trefor cwta bymtheg mlynedd fu oes y capel cyntaf. Ym 1875 aed ati i godi capel deulawr llawer mwy ar yr un safle, ynghyd â thŷ capel cysylltieig - ychwanegwyd festri sylweddol ym 1897. Unwaith eto bu'r chwarelwyr a oedd yn aelodau yn cynorthwyo gyda'r gwaith trin cerrig ac adeiladu. Costiodd y capel newydd £1,400 ac ni chliriwyd y ddyled tan 1910. Cynhaliwyd cyfarfodydd agoriadol y capel newydd ar 22 a 23 Mawrth 1876, gyda 24 yn ymaelodi o'r newydd yn y cyfarfodydd hyn.

Ym 1912 penderfynwyd adeiladu tŷ gweinidog ar yr allt allan o Drefor i gyfeiriad Llanaelhaearn ac erbyn y flwyddyn ddilynol roedd Goleufryn wedi'i gwblhau. Fodd bynnag, er i'r achos yng Ngosen barhau am tua chanrif a hanner, dim ond yn fylchog iawn y cafwyd gweinidog arno. Byr eithriadol fu arhosiad y gweinidog cyntaf, Caleb Williams o Gydweli; daeth i Drefor ym 1911 gan adael am gapel Bwlan ddwy flynedd yn ddiweddarach. Ni ddaeth unrhyw un yn ei le tan 1934, pan sefydlwyd T.J. Edwards, brodor o Gapel Hendre, Sir Gaerfyrddin, yn weinidog. Gadawodd yntau am Fetws-y-Coed ymhen pum mlynedd.

Wedi'r rhyfel cafwyd cyfnod mwy sefydlog gydag Emyr Roberts yn treulio degawd ffrwythlon wrth y llyw o 1947 tan 1957, pryd y gadawodd am Y Rhyl. Fe'i holynwyd yntau ym 1960 gan Hartwell Lloyd Morgan a arhosodd tan 1965, pryd y symudodd i Lanfair Caereinion lle bu farw'n ddyn cymharol ifanc. Gweinidog olaf Gosen oedd Goronwy Prys Owen, a symudodd i ofalaeth Gosen, Y Babell a Chwmcoryn ym 1969. Colled fawr fu ei ymadawiad i ofalu am eglwys Heol y Dŵr, Caerfyrddin ymhen tua saith mlynedd.

Dirywiad a chau[golygu]

Erbyn blynyddoedd olaf yr ugeinfed ganrif roedd yr achos, fel llawer arall, yn edwino gyda'r gynulleidfa'n heneiddio a phrinhau. Hefyd roedd cyflwr y capel yn dirywio gyda chostau sylweddol i'w adfer. Yn dilyn arolwg, barnwyd nad oedd yn ddiogel i'w ddefnyddio mwyach a chaewyd y capel yn 2006. Fodd bynnag, parhaodd yr achos i gyfarfod am rai blynyddoedd wedyn yn eglwys Annibynnol Maesyneuadd yn y pentref. Pan ddaethpwyd â'r trefniant hwnnw i ben ymaelododd y rhelyw o gyn-aelodau Gosen ym Maesyneuadd.


Cyfeiriadau[golygu]

Seiliwyd yr uchod i raddau helaeth ar y llyfryn Canmlwyddiant y Methodistiaid Calfinaidd yn Gosen, Trefor, 1862-1962 ac ar wybodaeth bersonol.