Capel Brynrhos (MC), Y Groeslon

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i: llywio, chwilio


Dosbarth Ysgol Sul, Brynrhos, tua 1890. Yr athro: Robert Jones, Tal-y-llyn. Yn sefyll yn y cefn, o'r chwith: Mary Ann Jones, Rhandir; Miss Grey; ?;? Yn eistedd ar law chwith yr athro: Jane Williams, Tyddyn Meinsier; Elizabeth Roberts, Uwchlaw'r Rhos.
Te parti Ysgol Sul Brynrhos, tua 1897

Roedd Capel Brynrhos yn gapel a wasanaethai ran uchaf pentref Y Groeslon.

Capel Bryn'rodyn (MC), Y Groeslon oedd y fam gapel mewn un ystyr, gan fod yr achos hwnnw wedi cychwyn ysgol Sul ym 1877, gan gwrdd yn adeilad Ysgol Penfforddelen, lle cafwyd cymaint o 140 o aelodau. Roedd poblogaeth topiau'r Groeslon yn awyddus i weld capel newydd yn cael ei adeiladu yn sgil y llwyddiant hwn, er i'r aelodau ym Mryn'roedyn, oedd yn rhagweld hanner yr aelodaeth yn eu gadael, yn wrthwynebus. Nid oedd Brynrhos yn gapel sblit fel petai, yn codi allan o ffrae, ond fe'i gychwynnwyd mewn awyrgylch o anghydweld a barhaodd yn lleol am genedlaethau. Rhoddwyd y Cyfarfod Misol sel bendith yn y diwedd, ac fe brynwyd llain o dir tyddyn Lleiniau am £68, a chodwyd y capel gan Owen Owens, Rhostryfan, ac Owen O. Morris, Tyddyn Meinsier. Y gost derfynnol oedd ychydig dros £1000. Fe'i agowyd ar y Groglith, 1880. Erbyn diwedd y flwyddyn roedd 97 o aelodau yno, a 70 o blant, a chyfrifwyd 193 o wrandawyr, sef rhai a fynychai gwasanaethau er nad oeddent yn aelodau. Erbyn 1900 yr oedd 164 o aelodau, ac fe brynodd ddarn o dir ar draws y ffordd i godi festri a thŷ capel.[1]

Fe'i agorwyd ym 1880, ac ym 1900 agorwyd festri ar draws y ffordd iddo. Cyfansoddodd y Prifardd Tom Huws (yn wreiddiol o'r Groeslon) gerdd i ddathlu ei ganmlwyddiant ym 1980.[2] Yn y diwedd, gwerthwyd y capel (a drowyd yn dŷ), gan addasu'r festri'n gapel hynod cyfforddus a chlyd. Fe'i gaewyd fis Gorffennaf 2018, gyda'r aelodau'n symud i gartref ysbrydol newydd, sef Capel y Groes (MC), Pen-y-groes. Mae'r enw'n barhau (2019) yn Cymdeithas Lenyddol Brynrhos, a arferai gwrdd bob bythefnos trwy'r gaeaf yn y festri (wedyn y capel) nes i'r capel gau ym 2018, pan symudwyd y cyfarfodydd i Neuadd Goffa'r Groeslon. Mae plac i goffáu meibion Brynrhos a farwodd yn y rhyfel mawr wedi ei adleoli i ffrynt y neuadd.[3]

Tua 1999, ysgrifennodd Eluned Jones, gynt o Dyddyn Meinsier, ei hatgofion o'r pentref a'r capel yn y 1920au a 30au, ac fe ddyfynnir ohonynt isod:

"Cof bach sydd gennyf am y Parch Arfon Jones yn weinidog ym Mrynrhos, aeth i'r America. Roedd ganddo dri o blant, Dilys Megan (‘run oed â fi) a Gwilym. Parch D.O. Tudwal Davies ddaeth yn olynydd iddo, ac amser hynny fe unwyd gyda Bryn'rodyn. Dyn tal, hamddenol, rhadlon braf. Y Blaenoriaid oedd Griffith Jones Angorfa, John Owen Bala Villa, R.E. Owen Arwelfa, G. T. Williams Tyddyn Meinsier, R. W. Williams Bryn Gwenallt (y ddau olaf oedd arweinydd y gan) William Jones Isallt, John Hobley Griffith Llain Gro, J. T. Jones Meirionfa, Wm. Pritchard Pen Gamfa, cof bach am Robert Thomas Hafod Boeth, a'i dad Daniel Thomas Hafod Boeth a fyddai bob amser yn eistedd mewn cadair freichiau ar bwys y pulpud.

"Tudur Jones Bryn Gwenallt a J. R. Williams Bryn Refail fyddai yn cyfeilio a John Gwilym Jones weithiau.

"Byddai'r capel yn llawn ar nos Sul a chynulliad da yn y bore, Ysgol Sul yn y pnawn, pregeth bore a nos. Yn y Festri fyddai Ysgol Sul y plant, 5-6 dosbarth nes ein bod yn 14 oed a chael ein derbyn yn Aelodau, a chael mynd i'r Capel. Jane Williams Bryngorwel fyddai hefo plant bach dosbarth A. B. C. ar gadeiriau wrth y tân, May Williams (Jones), Llys Gwynedd, oedd un athrawes, a mam, a William Williams, Tan llyn, Ceri Rees Bryngwenallt, Maggie Tanllyn Bach, Jennie Eames Belan View, John Williams Cae Cregin. Megan (Arfon Jones, cyn iddi fynd i America) a finnau oedd yn un dosbarth. Roedd 6 neu 7 dosbarth yn y Capel. John Owen Bala Villa oedd athro fy mam. Roedd gan fy Nhad ddosbarth o ddynion, Hugh Williams Tanbryn, Dafydd Bryngorwel a rhyw 3 neu 4 arall a Robat Thomas (R.T.) pan fyddai yn bwrw. Yn Bwlan oedd o yn aelod ond deuai i Frynrhos os byddai y tywydd yn rhy arw i fynd i Bwlan. Dosbarth gan Robert Roberts Tŷ Helyg. Griffith Jones Angorfa, oedd athro fy nau frawd. Dosbarth arall gan J.T. Jones. Richard Jones Awelfor oedd athro dosbarth fy chwaer. Yn fy arddegau bu Ifor Hughes yn athro. Os byddai athro yn absen nol byddai rhywun arall yn dod atom.

"Ar ôl bob Gwasanaeth byddai'r dynion yn un criw, yn pwyso ar wal y Festri i gael sgwrs a smoc.

"Nos Lun byddai'r Gymdeithas Lenyddol, difyr iawn, papur gan rywun neu’i gilydd, ar hwn a llall. 'Toedd quiz ddim mewn bod amser hynny; swper yn y Festri ar ddiwedd tymor.                                                                                                                                                                                                              

"Nos Fawrth, Band of Hope, cystadlaethau, spelling bee, darllen darn heb ei atalnodi, codi seiniau ar y glust o'r Modulator. Wiliam Owen Brynteg, a ddaeth yn flaenor yn ddiweddarach, ac amryw eraill a J. R. Williams Brynrefail. Ef hefyd oedd yn arwain y Côr Plant, a'r practis ar nos Iau. Marciau fyddem yn ei gael am ennill a gwobr ar ddiwedd y tymor."Byddai Eisteddfod Brynrhos Mawrth 24 a 25 bob blwyddyn. Y plant ar y 24 ac yn agored i'r byd ar y 25.  Amser prysur iawn yn ymarfer parti cyd adrodd, canu, côr a chystadlu unigol.                                                                

"Nos Fercher, seiat, a gorfod dysgu testun pregeth a phennau bore a nos y Sul cynt, a byddai’r Gweinidog neu un o'r Blaenoriaid yn dod i wrando arnom fesul un. Os na fyddai pregeth wedi bod y Sul, byddai raid dysgu adnod newydd p'run bynnag. Byddai wedyn yn mynd i'r llawr a gofyn i'r gynulleidfa am eu profiad (sych iawn), neu rywbeth o'r Cyfarfod Misol. "Roedd dwy chwaer, Jane a Mary Jones Minffordd, yn selog iawn. Y ddwy yn cymeryd rhan yn gyhoeddus. Jane yn fain ac yn dal , a Mary yn lwmpan gron. Roedd Jane Jones yn drwm ei chlyw, a phan fyddai rhywun yn cyhoeddi, byddai Jane yn gofyn I Mary Jones “be mae o'n ddeud”, a fyddai neb yn clywed dim. Fe wylltiodd Mary un tro a dweud “Pam na roi di Oliver oil yn dy glustia” Roeddynt yn selog iawn ymhob Oedfa, Gymdeithas, Seiat a Chyfarfod Gweddi. Byddai Jane yn gwneud hetiau iddi hi a Mary, fyddai Ascot ddim ynddi!! Roeddent yn wirioneddol dlawd. Dim ond y [taliadau gan awdurdodau’r] plwyf oedd i'w gael amser hynny, gwerth rhyw 5 swllt o neges oeddent yn ei gael. Roedd ganddynt ardd reit fawr a rhyw ychydig o ieir. Byddai Jane Jones yn gwnïo hefo llaw, crysau gwlanen gartref, a throedio a gwau sanau i ddynion i ymestyn dipyn ar yr arian. Hi hefyd fyddai yn mynd allan i weithio pan gai waith, i gorddi neu olchi, neu hyd yn oed gweithio allan yn y caeau. Cai biseraid o laeth enwyn am ddiwrnod o waith, ac weithiau ychydig o fenyn.  Erbyn bob Diolchgarwch, fel mae'n arferiad, gwneud casgliad. Roeddynt wedi hel pob tair ceiniog wen drwy'r flwyddyn, ac wedi gwnïo bag bach iddynt i'w roi yn y casgliad. Aberth mawr iddynt mae'n siŵr. Byddai fy mrawd yn mynd â thatws a moron a rwdan iddynt dros y gaeaf. Byddai Mam yn cael basgedaid o gwsberis ganddynt, a finnau druan bach yn gorfod eu pigo. Rydwyf yn gweld y fasged rwan, un wellt hir, pigo rhai, a rhoi y rhai heb eu pigo yn y gwaelod a rhoi y rhai wedi eu pigo ar y top, ond bu raid i mi ail eu gwneud i gyd, toedd Mam ddim yn wirion. Byddai'r ddwy yn dod i'r cyfarfodydd yn y gaeaf yn eu clocsiau, ac wedi rhoi sanau gwlan drostynt rhag gwneud twrw.

"Ar ôl i Arfon Jones fynd i ffwrdd byddai William Evans Ty'n Rhos yn trefnu te yn y Tŷ Capel unwaith y mis, a'r elw yn mynd at yr achos. Bu'r Tŷ Capel yn wag am dipyn, nes daeth Robert Owen (Blaenor) yno i fyw o Dyffryn Terrace, a symud ymhen blynyddoedd i Bryn Gwenallt.

"Byddai Cymanfa Ganu dosbarth Bryn’rodyn yn cael ei chynnal yn Bwlan, Rhostryfan, neu Bryn’rodyn. Cerdded fyddem ni, ac yr oedd yn dipyn o daith ar bob tywydd. Byddai cael mynd i Bwlan neu Rhostryfan, er yn bell, yn plesio'n iawn. Caem fynd i'r siop yn Llandwrog neu Rhostryfan i wario ar ôl cyfarfod y pnawn, a chael te yn y festri. Ddim balchach o fynd i Bryn’rodyn, dim siop yno. 

"Fel y dywedais, byddai Robat Thomas yn aelod yn Bwlan. Roedd yn werth ei glywed yn cymeryd rhan yn y Capel. Byddai wedi codi ar ei draed cyn y byddai'r blaenor wedi darfod galw ei enw. 'Run emyn fyddai yn ei ledio bron bob amser, nis cofiaf p'run erbyn hyn, a gweddïo o'r frest. Plês mwyaf fyddai gofyn iddo fod yn ŵr gwadd yn y Gymdeithas, pan fyddai Cyfarfod Amrywieithol yno. Dechreuai ei sgwrs bob amser, “glad to see you all looking so well”  Now fy mrawd a Robat yn canu deuawd, “Owen a'r mul”, Now yn canu mewn tiwn, R.T.? Gwell peidio dweud dim, a phawb yn glana chwerthin. Cael gwadd i ganu i Gymdeithas Carmel a Bwlan, R.T. Yn blês iawn.                                                   

"Yn y festri noson olaf y flwyddyn, byddai swper am 7, a chyngerdd yn y capel tan hanner nos i ddisgwyl y flwyddyn newydd i fewn. Pawb a'i swydd, Catrin Williams, Tanbryn, Kate Jones, Glanrafon, Ann Roberts, Tŷ Helyg a rhywun arall yn torri bara menyn gwyn, a bara cyrens. Jane Jones Minffordd yn gofalu am lefrith a siwgr, a rhywun arall yn gofalu am fara brith a seed cake. Berwi dŵr yn y Tŷ Capel. Roedd Now fy mrawd wedi deall fod y Parchedig Tudwal Davies yn hoff o bennog coch. Gwneud un iddo, a'i roi ar blât iddo ar y bwrdd, Tudwal Davies yn mwynhau ei hun yn fawr, a hwyl fawr. Ar ôl i bawb ddarfod a chlirio dipyn, pawb i'r capel i'r cyngerdd tan hanner nos. Mynd i'r festri bore wedyn i ddarfod clirio a glanhau, a chael dipyn o'r sbarion. Ann Jane Penbryn oedd yn gofalu am lanhau y capel a'r festri, a hithau yn ddigon gwael ei hiechyd. Tân glo fyddai yn cynhesu'r festri . Grât o bobtu'r sêt fawr. Nid oedd dim yn cynhesu'r capel. Byddai yn ofnadwy o oer yno.                                           

"Chwith meddwl fod y capel yn wag, ac wedi ei werthu. Roedd fy nhaid, Thomas Williams Tŷ'n Rhos, yn un o'r rhai oedd ynglŷn a'r datgysylltu oddi wrth Bryn’rodyn, ac o Dyddyn Meinsier y cariwyd rhai o'r cerrig at ei adeiladu. Mae cae yno yn dwyn yr enw ‘cae capel’."[4]

Eginyn.png Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ei datblygu.


Cyfeiriadau[golygu]

  1. W. Hobley, Hanes Methodistiaeth Arfon, (Caernarfon, 1910), Cyf. 1, tt.334-6.
  2. Archifdy Gwynedd, XM/6665/74
  3. Gwybodaeth bersonol a lleol
  4. Atgofion a ysgrifennwyd tua 1999 er mwyn cyfrannu at Llyfr y Groeslon, (Caernarfon, 2000). Mae adysgrif o'r holl ddogfen i'w gweld yma