Capel Beuno

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i: llywio, chwilio

Capel Beuno yw enw'r capel bach ar ochr Eglwys Sant Beuno, Clynnog Fawr. Enw arall ar yr adeilad yw Eglwys y Bedd, gan mai yno y tybir oedd bedd Beuno. Eir at y capel o'r prif adeilad trwy glwystyr neu goridor sydd yn ymddangosiadol bur hynafol oherwydd y gwaith corbelu yn y to (sef to wedi ei wneud o gerrig hirsgwar, pob un ychydig yn nes at y canol na'r un o dani). Gwelir gwaith cyffelyb mewn hen gelloedd y saint. Dichon, fodd bynnag, fod y cyswllt hwn rhwng y ddau adeilad wedi ei adeiladu ar ôl codi'r prif adeiladau, yn ystod y 17g.[1] Enw'r adeilad hynod hwn erbyn hyn yw'r Rheinws - sef man i gloi troseddwyr i mewn - ac fe'i defnyddid fel hyn yn y 18g.

I droi at y capel ei hun, mae'n sefyll uwchben seiliau cell neu gapel lle (yn ôl traddodiad) y claddwyd Beuno Sant Sant Beuno, a gwelir amlinelliad o'r hen gell dybiedig yn y llawr modern (1913), wedi ei farcio gan slabiau tywyllwch eu lliw. Roedd yr hen gapel yn sefyll, yn ôl John Leland, mor ddiweddar â 1536.

Yng nghanol y capel, hyd ddiwedd y 18g, yr oedd yr hyn a gyfrifid yn fedd Beuno, tua 3' o uchder, yng nghanol y llawr. Dyma, heb os, oedd y prif atyniad a ddenai bererinion i'r llecyn dros y canrifoedd. Credid y gellid gwella o nifer o afiechydon wrth ymdrochi yn Ffynnon Beuno gerllaw cyn gorwedd dros nos ar ben y bedd.

Tua 1793 trefnodd Arglwydd Newborough i'r bedd gael ei agor i chwilio am arch Beuno, ond ni chafwyd hyd i ddim byd.

Roedd ysgol yng Nghapel Beuno yn 1811. Erbyn 1814 roedd yn cael ei chynnal yn yr Eglwys gan fod Capel Beuno wedi dadfeilio.[2]

Hugh Owen o Sir Fôn oedd yr athro ychydig cyn cyfnod Eben Fardd yno. Ysgol ddyddiol ydoedd o hyd dan nawdd yr eglwys, ond un bell o fod yn effeithiol. [3] Nifer y plant oedd 24 pan gychwynnodd Eben Fardd ar ei waith ar Fedi 10, 1827. Yr oedd yn athro egwyddorol, fel y tystir yn y dyfyniad hwn o'i ddyddiadur (y fersiwn Cymraeg ohono a gyhoeddwyd yn Y Traethodydd :

1838 Mai 31 ... Galwodd y Parch. Mr Williams, Fron-deg i fy ngweled yn yr ysgol, a Mr. Hughes a boneddwr ieuanc gydag ef. Ar ôl te daeth Miss Marrow a’i newyddiadur i mi i’w weled, a dywedai ei bod yn gweled bai arnaf am nad ydwyf yn dysgu y plant yn yr ysgol i siarad Saesoneg. Mae hyn yn nesaf i amhosibl mewn ysgol bentrefol wledig, lle nad ydyw y plant yn dilyn hanner eu hamser, a phan wedi myned allan o’r ysgol, na chlywant byth sill o Saesoneg yn un man.”

Yn ystod y gaeaf 1842 a’r un flaenorol bu ei ysgol yn y bwthyn a gododd yng nghefn ei dŷ yn 1841. (Credir mai Cefn oedd y tŷ hwn).** (xix Rhagymadrodd). Yn 1843 dywedir yn fersiwn Cymraeg ei ddyddiadur: Tori yr ysgol i fyny am byth yn Eglwys y Bedd, y cyflog gan yr offeiriad a roddid i mi yn St. Beuno yn cael ei dynu yn ôl. Cadw ysgol yn fy nhŷ fy hun ran o’r flwyddyn hon.

Yr oedd Eben Fardd erbyn hynny wedi ymaelodi â’r Methodistiaid ac yn ystod y flwyddyn cafodd ei ethol yn flaenor yng Seion, Gurn Goch. Symudodd yr ysgol hon i Gapel Ebenezer, ‘Y Capel Newydd’ ar 26 Mai 1845.

Wedi hynny, roedd y capel yn cael ei ddefnyddio gan Eben Fardd ar gyfer yr ysgol eglwysig a gadwai ar gyfer y pentref, rhwng 1827 a 1849.[4]


Cyfeiriadau[golygu]

  1. Comisiwn Henebion Cymru, Caernarvonshire, Cyf.II, (Llundain, 1960), tt.37, 39
  2. tud. 194 Detholion o Ddyddiadur Eben Fardd, Gwasg Prifysgol Cymru, 1968. Golygwyd gan E.G. Millward.
  3. William Hobley, Hanes Methodistiaeth Arfon. Dosbarth Clynnog, t. 75.
  4. R.D. Roberts, Clynnog: Its Saint and Church (taflen a werthwyd yn yr Eglwys yn y 1950au-60au)