Capel Bethania (B), Trefor

Oddi ar Cof y Cwmwd
Jump to navigation Jump to search

Mae Bethania yn addoldy y Bedyddwyr ym mhentref Trefor a agorwyd ym 1901.

Am flynyddoedd ar ôl sefydlu pentref Trefor ym 1856 arferai nifer o'r Bedyddwyr a drigai yn y pentref fynd i addoli i gapel Saron yn Llanaelhaearn ac roedd rhai ohonynt yn aelodau yno. Erbyn blynyddoedd olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd awydd cynyddol am gael capel i'r Bedyddwyr yn Nhrefor ac ymhlith y prif ysgogwyr roedd y Parch. William Davies, Fron Goch a William a Mary Jones, Bwlcyn - yr oedd mab iddynt, William Trevor Jones, yn weinidog yn Llanelli.

Yn nechrau 1890 gwelodd y Parch. Hugh Hughes, gweinidog Saron, adeilad pren ym Mhorthmadog a fuasai'n gwneud cartref i'r eglwys newydd yn Nhrefor a llwyddwyd i'w symud a'i ail-godi yng ngwaelod cae tyddyn y Bwlcyn, ar lan Afon Tâl. Yn yr afon y bedyddiwyd nifer ar y dechrau, yn dilyn agor y capel ym Medi 1890.

Ymhen pedair blynedd sefydlwyd cronfa i gael adeilad mwy parhaol. Cafwyd tir ar gyfer y capel newydd gan gwmni'r gwaith, y Cwmni Ithfaen Cymreig, bron gyferbyn ag ysgol y pentref. Sicrhawyd cyflenwad o gerrig o'r chwarel hefyd i'w adeiladu ac, fel yn achos capeli eraill Trefor, bu'r chwarelwyr yn brysur yn eu hamser hamdden yn cludo'r defnyddiau i'r safle a thrin y cerrig. Union ar droad y ganrif newydd, sef 15 Mai 1900, agorwyd capel Bethania, yn adeilad unllawr sylweddol, a chafwyd festri y tu ôl i'r capel yn ogystal.

Gwelwyd cynnydd yn yr achos yn ystod diwygiad 1904 gydag wyth o bobl ifanc yn cael eu bedyddio. Darparwyd seston o dan y sêt fawr ar gyfer bedyddio, yn hytrach na dibynnu ar ddyfroedd oerion afon Tâl, ond yn y 1930au ceir cofnod o fedyddio dau ddyn ifanc yn y môr ar draeth Trefor. O eglwys fechan, collodd Bethania ddau o'i haelodau ifanc yn y Rhyfel Mawr - un wedi'i gladdu ym Mesopotamia a'r llall yn marw o'i glwyfau mewn ysbyty ym Mhrydain.

Er na fu Bethania mor niferus o ran aelodau â Gosen a Maesyneuadd bu'n eglwys fywiog a phrysur am ddegawdau, gyda mwyafrif yr aelodau'n ymroi o ddifrif i'w gweithgareddau. Bu yno Ysgol Sul dda a chymdeithasau chwiorydd a phobl ifanc. Un o uchafbwyntiau pob blwyddyn oedd yr wylnos (neu "watchnight") a gynhelid yno bob nos Galan. Am rai blynyddoedd yn y 1980au bu ei festri hefyd yn gartref i Seiat Feiblaidd gyd-enwadol a gynhaliwyd yn Nhrefor. Llwyddwyd yn ogystal i sicrhau gwasanaeth gweinidogion am gyfnodau sylweddol o'i hanes gan fod yn rhan o ofalaethau, ar wahanol adegau, gydag achosion y Bedyddwyr yn Llanaelhaearn, Llithfaen, Nefyn, Tyddyn Siôn a Phwllheli. Gyda'r gynulleidfa'n prinhau a heneiddio, daeth yr achos ym Methania i ben tua 2008 gyda rhai o'r aelodau'n ymuno ag eglwys Maesyneuadd. Prynwyd yr adeilad gan deulu lleol ac mae'n wag ar hyn o bryd (2021).[1]

Eginyn.png Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau[golygu]

  1. Seiliwyd llawer o'r uchod ar ysgrif ar Hanes Eglwys Bethania o'i dechreuad hyd Ionawr 1934 a luniwyd gan Daniel E. Williams, New Street, Trefor. Fe'i hatgynhyrchwyd yn: Gwilym Owen, Pentref Trefor a Chwarel yr Eifl, (Penrhyndeudraeth, 1972), tt. 103-08. Hefyd gwybodaeth bersonol.