Canolfan Felinwnda

Oddi ar Cof y Cwmwd
Jump to navigation Jump to search

Mae Canolfan Felinwnda yn adeilad newydd ym mhentrefan Felinwnda a agorwyd yn 2006 ar ôl ymgyrch codi arian gan y bobl leol. Cymerodd le hen gwt a ddefnyddiwyd ar gyfer y Ffermwyr Ifainc lleol a mudiadau eraill ond oedd wedi cyrraedd pen ei oes. Sam Davies, Morogoro, oedd un o'r prif symbylwyr.

Fe'i defnyddir yn helaeth ar gyfer ysgol feithrin, Cymdeithas Hanes y Tair Llan, cangen leol Merched y Wawr, Clwb Garddio Felinwnda a nifer o gyrff eraill. Ers ei agor, mae wedi gwasanaethu fel gorsaf bleidleisio mewn etholiadau o bob math - cyn hynny, Ystafell yr Eglwys ym mhentref Dinas oedd lleoliad yr orsaf bleidleisio, a llawer o weithgareddau eraill gwaelodion plwyf Llanwnda.

Eginyn.png Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau