Cangen Nantlle

Oddi ar Cof y Cwmwd
(Ailgyfeiriad oddi wrth Cangen reilffordd Nantlle)
Neidio i: llywio, chwilio

Adeiladwyd Cangen reilffordd Nantlle ym1872, gan gwmni Rheilffordd Sir Gaernarfon, i gysylltu Tal-y-sarn â'r rhwydwaith rheilffyrdd lled safonol cenedlaethol a oedd wedi cyrraedd Pen-y-groes ym 1867. O'r dechrau bron, cwmni Rheilffordd Llundain a'r Gogledd Orllewin (LNWR) oedd yn gyfrifol am rhedeg y gwasanaethau.

O'r gyffordd yng ngorsaf Pen-y-groes, codwyd lein newydd ar arglawdd, gyda phont ar draws y briffordd sy'n arwain at Lanllyfni. Ar ôl ryw hanner milltir, adeiladwyd y trac ar ben hen wely Rheilffordd Nantlle belled â Thal-y-sarn, lle codwyd gorsaf a enwyd yn orsaf Nantlle (waeth bod yr orsaf filltir a mwy o'r pentref hwnnw). Dyna oedd yn achosi rhoi'r gorau i drenau a dynnid gan geffylau rhwng Seidins Tyddyn Bengam a'r chwareli. O hynny allan, byddai'r "rýn" ond yn cludo llechi o'r chwareli eu hunain hyd yr orsaf newydd, lle adeiladwyd iard nwyddau sylweddol a seidins ar ddwy lefel, er mwyn hwyluso trawslwytho llechi. Defnyddid yr iard ar gyfer nwyddau cyffredinol a glo, ac roedd seidin yn arwain at waith nwy hefyd. Ger Pant Du roedd seidin arall lle trawslwythid llechi o'r chwareli ar ochr ddeuheuol y dyffryn hyd tua 1915 wedi iddynt gyrraedd yno ar hyd lein a elwid yn fawreddog Rheilffordd Chwareli Llechi Sir Gaernarfon.[1] Daeth y gwasanaeth nwyddau i ben pan gaewyd y brif lein rhwng Caernarfon ac Afon Wen ddiwedd 1963.

Nid oedd y gangen yn llewyrchus o ran cludo teithwyr unwaith y daeth bysiau i'r ardal. Bu nifer o ymdrechion i leihau costau, megis defnyddio rail motors, sef cerbydau gydag injan stêm a seddau ar yr un chassis. Fe'i chaewyd ym 1932, er i'r orsaf aros mewn cyflwr go lew gan fod trenau arbennig yn ei defnyddio ar achlysuron fel tripiau blynyddol yr ysgolion Sul. Heddiw defnyddir adeilad yr orsaf fel canolfan gymdeithasol.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Alun John Richards, The Slate Railways of Wales, (Llanrwst, 2001), t.177