Caer Belan

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i: llywio, chwilio

Amddiffynfa filwrol oedd Caer Belan, a adeiladwyd gan yr Arglwydd Newborough yn 1775. Lleolir hi ger Abermenai ar lan y Fenai, ar bwynt ble mae’r afon ar ei leiaf – h.y. lle mae hi’n agor allan i’r mor Iwerydd.

Adeiladwyd yng nghyfnod yr ymdrech yn America am annibyniaeth, a tybir Thomas Wynn gymryd ei ddyletswydd fel aelod seneddol o ddifri drwy adeiladu caer filwrol ar ei dir i amddiffyn y fynedfa i mewn i’r Fenai. Cafodd ei ymdrech ei wobrwyo, gan yn 1776 derbyniodd ei urddolaeth a’r teitl ‘Arglwydd Newborough’. Buodd yn cadw’r amddiffynfa hwn allan o’i boced ei hyn hyd at 1782, pryd gollodd y DU yn yr ymdrech gyda America. Mae’r Gaer yn unigryw gan mai hi yw’r unig un a adeiladwyd yn uniongyrchol ar gyfer y chwyldro Americanaidd yr ochr yma i’r Atlantig.

Gelwir hi ar un adeg yn ‘Abermenai Barracks’, ac yna fel ‘Fort St. David’ ac o tua 1840 ymlaen, Caer Belan a ddefnyddiwyd yn swyddogol. Roedd hefyd o dan ofal y ‘Loyal Newborough Volunteers’, a oedd gyda dyletswyddau tebyg iawn i fyddin breifat Glynllifon.

Adeiladwyd doc ar y safle o gwmpas 1824-1826, gan ddechrau traddodiad forwrol y teulu. Roedd Frederick Wynn, mab Spencer Wynn (y 3ydd Arglwydd Newborough) yn defnyddio’r lle hwn yn aml ac yn ymddiddori’n llwyr â chychod.

Cafodd y lle hwn ei feddiannu’n orfodol gan y Llynges yn 1940 i gadw y cychod hwylio ‘St. Joan’ a ‘Whim’, a chadwyd nifer o fadau/longau achub yno hyd 1941. Wedi'r rhyfer, ac ar ol i deulu Newborough werthu Plas Glynllifon, fe gadwyd Belan fel eu cartref ar yr ystad nes ei werthu fo yn y 1990au. Erbyn heddiw mae modd aros a phriodi yn y Gaer, ac mae modd gweld yr hen ganonau a’r tyredi saethu fel yr oeddent yn y 1770au. Weithiau cynhelir cyngherddau yn adeiladau'r Caer.

Ffynonellau[golygu]

Jones, Ivor Wynne Fort Belan (1979)

Stammers, Michael A Maritime Fortress; The collections of the Wynne Family at Belan Fort (Caerdydd, 2001).