Cae Morfydd, Rhos-isaf

Oddi ar Cof y Cwmwd
Jump to navigation Jump to search
Cae Morfydd ym 1972 (Llun trwy garedigrwydd Mrs Miriam Jones)

Saif Cae Morfydd yn rhan isaf, ddeheuol, y ‘rhos’ ger Moel Tryfan, yn y gymdogaeth a elwir yn Rhos-isaf erbyn heddiw. Mae cofnod o fodolaeth Cae Morfydd yn mynd ôl i’r ail ganrif ar bymtheg gyda thyddyn a nodir fel ’Kay Morvydd’ ym 1625 ym mhapurau Ystâd Mostyn.[1] Mae’n un o’r ychydig anheddau yn y plwyf sydd wedi cadw enw merch ond nid oes cofnod ohoni - er bod sôn am Morfydd yn Y Mabinogi nid yw’n gysylltiedig â’r fro hon.[2]

O gofnodion plwyf Llandwrog mae’r cyntaf i nodi Cae Morfydd yn cofnodi bedydd Owen yn fab i Solomon a Mary Jones ym mis Ebrill,1761.[3] Nodir y tad fel llafurwr, oedd fel arfer yn cyfeirio at weithiwr fferm ond bosib ei fod yn chwarelwr hefyd. Yn y plwyf hwn dechreuwyd nodi rhai o’r tadau fel chwarelwyr o 1765 ymlaen. Yn y flwyddyn honno nodir bod chwarter y tadau yn chwarelwyr – tyst i effaith cynnar chwarelydda ar yr ardal.

Mae’n debygol mai Chwarel Cilgwyn oedd cyflogwr trigolion y tyddyn pryd hynny – hwn oedd y chwarel hynaf yn y fro a thrigolion plwyf Llandwrog oedd mwyafrif y gweithwyr. Mae teulu arall yn cael ei nodi fel preswylwyr yr anheddle mewn cofnod bedydd ym 1772, pan nodir bedydd Jane fel merch i David ac Ellen Williams ei wraig. Dyma’r cofnod cyntaf o chwarelwr yn byw yng Nghae Morfydd – cysylltiad fydd yn parhau hyd o leiaf yr Ail Ryfel Byd.[4]

Roedd byd gwaith chwarelwyr yn beryg gyda’r nifer o ddamweiniau yn uchel ac mae hyn yn rhan o brofiad trigolion Cae Morfydd. Nodir marwolaeth Thomas Owen, Cae Morfydd ym mis Medi 1833 yn chwarel Cae Braich-y-cafn (Chwarel y Penrhyn).[5] Rhaid nodi yma'r arfer i bobl y cyfnod arddel enw eu tad fel ‘cyfenw’ - bedyddiwyd ‘Thomas Owen’ yn fab i Owen Jones yn 1791. Hefyd yr arferiad i chwarelwyr llechi i chwilio am waith mewn chwarel arall pan oedd trafferthion yn yr un cyfagos – nid oedd sicrwydd cyflogaeth.

Map Degwm (1838-42) yn dangos tir Cae Morfydd. O wefan LLGC

Bu farw gwraig Thomas Owen, Jane, chwe mis cyn ei gŵr yn 39 mlwydd oed - roedd hi yn enedigol o Erw Ystyfflau, plwyf Llanwnda, ac yn nith i’r bardd Richard Jones (Gwyndaf Eryri).[6] Mewn llythyr ysgrifennwyd gan fardd amlwg arall yn ei ddydd, sef Griffith Williams (Gutyn Peris), oedd hefyd yn chwarelwr ym Methesda, nodir bod “Thomas Owen, Cae Morfydd” yn barod i gludo llythyrau at ei frawd i Waunfawr ac i’w ffrindiau barddol lleol.[7]

Mab hynaf Thomas Owen a Jane Jones oedd Owen Jones (1816-1896) ac ym 1842 mae cofnod ohono yn y rhestri Treth Degwm. Nodir ef fel ‘Preswyliwr’ Cae Morfydd gydag ychydig dros bedair erw yn gysylltiedig â’r tyddyn. Y tirfeddiannwr nodir yw Dorothea Garnons, perchennog Ystadau Pant Du ger Pen-y-groes a Phlas Llanwnda.

Yn Hydref 1847 mae digwyddiad oedd yn cyffroi'r fro wedi ei gofnodi yn rhan o atgofion Kate Roberts –‘’Y Lôn Wen’’ – pan mae’n sôn am briodas ei nain, Catherine Hughes (Cadi Robins) merch Hugh Robins, a chwaer i Mary Jones (née Hughes) Cae Morfydd:-

“Yr oedd brecwast priodas fy Nain mewn temparans ym Mhen Deitsh, Caernarfon. Ar y pryd oedd Owen Jones, Cae Morfydd, gŵr i’w chwaer yn y carchar…am nad oedd(ei) drosedd o’r math cyffredin, cafodd fy Nain caniatâd i anfon peth o’r brecwast i’r carchar i’w brawd yng-nghyfraith”.[8] 

Achos yr helynt oedd bod cwmni chwarel y Cilgwyn heb dalu eu gweithwyr ers wythnosau oherwydd anawsterau ariannol. Aeth rhai o’r chwarelwyr i’r chwarel a gweithio ar liwt eu hunain, a gwerthu llechi i gynnal eu teuluoedd ond dalwyd rhai ohonynt wrth y gwaith a dedfrydwyd wyth ohonynt i garchar. Adeg yr anghydfod, roedd gan Owen a Mary dri o blant dan saith oed – yr ieuengaf ond ychydig fisoedd oed.[9] Dim syndod felly iddo weithredu fel ag y gwnaeth i sicrhau cynhaliaeth i’w deulu.

Yn ystod yr 1860au a’r 1870au gwelodd y diwydiant llechi dwf sylweddol ac yn arbennig yn ardal Dyffryn Nantlle. Fel chwarelwr profiadol a thyddynwr mae’n ymddangos bod Owen wedi ennill bywoliaeth gymharol dda. Gyda marwolaeth ‘sgweier olaf’ Plas Tryfan, Owen Griffith, yn Ionawr 1865 mae Owen Jones yn cymryd y cyfle i brynu tir y tyddyn cyfagos sef Tŷ Hen (Tŷ ’n Rhos a Tair Onnen erbyn hyn)[10].

Thomas Jones, Bryn Peris a Chae Morfydd, tua 1910 (Llun trwy garedigrwydd Mrs Miriam Jones)

Ar ran o’r tir a brynwyd (Cae Rhif 1148 ar y Map Degwm) aeth y teulu ymlaen i adeiladu pâr o dai Bryn Peris 1 a 2, un i’r mab hynaf Thomas, a’r llall mae’n debygol i’r mab ieuengaf Owen Owen. Mae’r ddau frawd “Owen Jones, Bryn Peris a Thomas Cae Morfydd”, yn dod i sylw'r Ynadon Lleol ym 1879 am dresmasu ar dir a’r defnydd o ddryll heb drwydded.[11] Yn anffodus ym 1884 bu ddamwain angheuol arall daro’r teulu. Bu rhaid i Owen Owen deithio i chwarel Dinorwig i weithio ac ym 1884 mae adroddiad yn y wasg yn nodi iddo farw yn sgil damwain erchyll.[12]

Mae tystiolaeth o weithredoedd teuluol yn dangos bod Owen Jones, Cae Morfydd wedi prynu tir o ‘stad Tryfan Mawr hefyd pan fu farw Ann Price Griffith, yr olaf o’r teulu i fyw yn y ‘plas’, ym 1892.[13] Mae’r tir yn cynnwys Coed Tryfan a Chae Pwllgro - y cae rhwng Bryn Peris,2 (Bryn Awel heddiw) a ‘groeslon Tryfan’. Aeth aelodau’r teulu ymlaen i adeiladu pâr arall o dai, sef Gwynfa a Llys Arfon ( A a B ar y plan), ar ran o dir Cae Pwllgro (rhif 4 ar y Plan) ym 1906 ac hefyd hwyrach ymlaen, Tryfan Byngalo a Llwyn ger Coed Tryfan (rhif 2 ar y Plan) sydd bellach yn cael ei alw yn Goed Cae Morfydd.

I fferm weithredol roedd mynediad at ddŵr yn holl bwysig ac yn 1900 mae adroddiad ar achos llys yn nodi brwydr rhwng Cae Morfydd a’r fferm drws nesaf, Coed-y-Brain. Creodd hyn gryn stŵr yn yr ardal a bu angen dyfarniad llys sirol ar yr anghydfod oedd wedi parhau ers deunaw mlynedd.[14] Wedi llwyddo amddiffyn hawliau dŵr ei thyddyn ym Mehefin 1900 bu farw Mary Jones ym 1901 ac mae teyrnged deimladwy iddi yn y papur newydd lleol.[15]

Erbyn Cyfrifiad 1911 mae Thomas Jones wedi symud o ‘Bryn Peris 1’ i Gae Morfydd gan ddychwelyd i’w gartref enedigol wedi iddo ymddeol o’r chwarel ond mae'n parhau i ffermio. Mae ei fab hynaf Hugh, oedd hefyd yn chwarelwr, yn etifeddu'r tyddyn yn dilyn marwolaeth ei dad ym 1922 a’i fam Catherine ym 1934. Ym 1949 pan fu farw Hugh mae ei wyres Miriam Jones yn etifeddu Cae Morfydd ac yn symud yno ym 1971 gyda’r gŵr a’u merch – ac felly gor-gor-gor-gor-gor-wyres Solomon Jones sydd yn parhau i fyw yno yn 2020.[16]

Plan o'r tir a brynwyd oddi wrth Ystad Tryfan at dir Cae Morfydd



















Cyfeiriadau[golygu]

  1. Glenda Carr, ‘’Enwau Pentrefi, Prif Anheddau a Chaeau Pum Plwyf yn Arfon: Llanbeblig, Llandwrog, Llanfaglan, Llanrug a Llanwnda, traethawd PhD’’. (Prifysgol Cymru Mai 2007) t.284.
  2. Erthygl Wicipedia ar Morfydd ferch Urien [1]
  3. Saif Cae Morfydd yn agos at y ffin rhwng plwyfi Llandwrog a Llanwnda ac felly mae cofnodion y teulu i’w gweld yng nghofrestri y ddau blwyf.
  4. Nodir Hugh Jones fel Chwarelwr yn byw yng Nghae Morfydd yn y Gofrestr 1939 (Medi).
  5. Yr Herald Gymraeg, 28/6/1910. [2]
  6. Y Bywgraffiadur Ar-lein, Richard Jones (1785- 1848) [3]
  7. Hydref 11, 1829. Myrddin Fardd, Adgof Uwch Anghof:Llythyrau Lluaws o Brif Enwogion Cymru…. 1883.
  8. Kate Roberts (1891-1985), Y Lôn Wen: darn o hunangofiant (Dinbych, 1960). Argraffiad 2010, t.89.
  9. Cofnodion Cyfrifiad 1841 ac 1851 ar gyfer Cae Morfydd.
  10. Hysbyseb Ocsiwn – Tryfan Estate, Caernarvon & Denbigh Herald, 7 Hydref 1865.
  11. Caernarvon & Denbigh Herald, 11 Ionawr, 1879.
  12. Y Genedl Gymreig, 22 Hydref,1884. Roedd Owen Owen Jones yn 32 oed (bedydd 18/4/1852; marw 16/10/1884).
  13. "Tryfan Fawr" : North Wales Observer and Express’, 16 Medi 1892.
  14. "A Local Water Right Dispute", - ’North Wales Observer’, Mehefin 1900.
  15. Yr Herald Gymraeg, 3 Medi 1901.
  16. Mae awdur gwreiddiol yr erthygl hon am nodi ei ddiolch diffuant i Mrs Miriam Jones am lawer o'r wybodaeth a gynhwysir ynddi.