Cae'r Pwsan

Oddi ar Cof y Cwmwd
Jump to navigation Jump to search

Fferm fechan ar gyrion pentref Clynnog Fawr yw Cae'r Pwsan. Yno y daeth Ebenezer Thomas (Eben Fardd) i letya pan ddaeth i Glynnog fel athro ysgol ym 1827. Un o ferched Cae'r Pwsan ar y pryd oedd Mary Williams. Yn fuan daeth hi yn new amor i Eben, fel y dywed yn ei ddyddiadur, a phriododd y ddau ym mis Tachwedd 1830.

Mae'r enw Cae'r Pwsan wedi achosi cryn benbleth a hyd yma ni lwyddwyd i egluro tarddiad yr enw'n foddhaol. Yn ei chyfrol bwysig a difyr, Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd, mae Dr Glenda Carr, wrth ymdrin ag enw Cae'r Pwsan yn nodi fel a ganlyn - "Hoffwn pe gallai rhywun daflu goleuni ar darddiad enw Cae'r Pwsan." Mae'n mynd ymlaen yn ei hymdriniaeth â'r enw i nodi'r gwahanol ffurfiau arno y mae wedi dod ar eu traws mewn gwahanol ffynonellau, gan nodi mai'r ffurf gynharaf iddi hi ei weld oedd Tyddyn Pisset alias Cae Swssan, a hynny wedi'i gofnodi ym 1768 yn Mhapurau Kinmel, a gedwir yn Archifau Prifysgol Bangor. Fodd bynnag, ar ôl nodi sawl amrywiad ar yr enw mewn gwahanol ddogfennau o'r ddeunawfed ganrif a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, mae Dr Carr yn nodi ar ddiwedd ei hymdriniaeth fod tarddiad yr enw'n dal yn ddirgelwch llwyr.[1] (Mae'r gyfrol hon hefyd yn cynnwys ymdriniaethau diddorol a dadlennol ar enwau llawer o fannau eraill yng nghwmwd Uwchgwyrfai.)</ref>Tybed a all unrhyw rai o ddarllenwyr Cof y Cwmwd daflu goleuni ar y dirgelwch?

Erbyn hyn mae ffermdy Cae'r Pwsan wedi ei foderneiddio'n sylweddol ac mae busnes trin ac ailgylchu metel sgrap wedi ei sefydlu yno ers peth amser bellach.

Cyfeiriadau

  1. Am yr ymdriniaeth lawn ar enw Cae'r Pwsan, gweler Glenda Carr,Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd, (Gwasg y Bwthyn, 2011), tt.93-4.