Bwlchderwin

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i: llywio, chwilio

Ardal wasgaredig yw Bwlchderwin ar ffordd Clynnog Fawr wedi dringo Allt y Pant [1] o Bant-glas. Nid oes yma'r fath beth â chlwstwr o dai ond bu yma gapel yn un pen, ysgol Eglwysig sef Ysgol Ynys-yr-arch[2] yn y pen arall a siop mewn gwahanol dai ar wahanol adegau.

Rhai murddunod yn yr ardal ym 1870

Felog Bach, Yr Ochr, Tanychwarel, Y Foel, Cae'r Bwlch, Foel Fechan, Murforwyn Bach (dau dŷ), Pen Isa'r Mynydd, Cefn White, Maes Du, Stabl Goch, Cae Hir (tri thŷ), Cae Mwynan, Cae Crin, Cors-y-wlad (dau dŷ).[3]

Tai/Tyddynnod/Ffermydd yr ardal o tua 1870-1981

Braich-y-foel; (Cofiai R. Gordon Williams wyth o ddynion yn torri'r ffridd wrth y ffordd gyda phladuriau, y naill yn dilyn y llall gyda'r un rhythm yn eu pladurio, ac yn aros weithiau i roi min ar eu pladuriau gyda'r pren stric a'r saim a'r graean.[4] Tanychwarel; Terfynau; Derwyn Uchaf (Deuai Griffith Powell â'i gi gydag ef i'r Capel bob amser.); Tan'rallt; Plas Du; Ty'n-y-coed; Rhwngyddwyffordd; Muryforwyn; Gyfelog Ucha (ger Capel Bwlchderwin (MC)); Baron Hill; Ty'n-Gors; Ty Newydd; Garreg Wen; Pen Isa'r Mynydd; Ynys-yr-Arch; Llwyngwanadl Ucha; Llwyngwanadl Isa; Ty Glas; Y Gors; Cors-y-wlad. Nid yw Gyfelog (ger yr ysgol) ar y rhestr hon. Yma y cartrefai J.R. Owen. Meddai R. Gordon Williams amdano: ...Ato fo yr âi pawb am gyngor neu i lenwi ffurflen ac roedd yn englynwr da iawn. Y fo luniodd yr englyn a gyfrifid yn un o'r englynion cofffa gorau. Englyn ydyw i dri o blant Nant Cwmbran a fu farw yn agos at ei gilydd:

                                     Marwolaeth Mair a Willie, - a Rhisiart
                                          Wna i reswm dewi,
                                        Ond ffydd ddichon fodloni,
                                        A gweld trefn mewn galw tri.

Bu'n ddiacon ffyddlon ym Mwlchderwin am 67 mlynedd, ac yn gynghorydd gweithgar tros ei ardal am flynyddoedd ar Gyngor Gwyrfai..."

Yr enw

Ar rai mapiau Ordnans ac mewn ambell i le arall, ceir yr enw "Bwlch Derwydd" ond mae hyn yn anghywir.

i'w barhau

Cyfeiriadau

  1. Fe'i henwir gan R. Gordon Williams yn ei Atgofion Plentyndod, Darlith Flynyddol Llyfrgell Pen-y-groes, 1983-84.
  2. Atgofion Plentyndod tud.8-16 ac 19-22.
  3. Enwir y rhain (o gofnodion ei dad) yn llyfr O. Roger Owen,O Ben Moel Derwin, Cyhoeddiadau Mei, 1981.
  4. tud.29 O Ben Moel Derwin