Bwlch Siwncwl

Oddi ar Cof y Cwmwd
Jump to navigation Jump to search

Bwlch Siwncwl yw enw'r bwlch rhwng Mynydd Ceiri a Mynydd Carnguwch rhwng pentrefi Llanaelhaearn a Llithfaen. Mae'n un o'r bylchau sy'n arwain o Arfon i gantref Llŷn ac ni ddylid cymysgu rhyngddo â Bwlch yr Eifl, sy'n nes i'r môr a rhwng copa canol yr Eifl (Garn Ganol) a'r copa agosaf i'r môr (sef Garn Fôr neu Mynydd y Gwaith). Yn draddodiadol roedd llwybr y pererinion o Glynnog i Enlli yn mynd dros Fwlch yr Eifl (fel y mae Llwybr Arfordir Cymru heddiw), ond mae'n bosib iawn bod llawer o'r pererinion hefyd yn mynd drwy Fwlch Siwncwl ar ôl ymweld ag Eglwys Aelhaearn a Ffynnon Aelhaearn. Yn un peth mae Bwlch Siwncwl yn llawer is a mwy hygyrch na Bwlch yr Eifl. Erbyn hyn mae ffordd y B4417 o Lanaelhaearn i Lithfaen ac ymlaen i gyfeiriad Nefyn ym mynd drwy Fwlch Siwncwl. Yn syth ar ôl mynd drwy ran uchaf, a chulaf y bwlch, lle mae llechweddau'r Ceiri a Charnguwch yn dod i lawr at y ffordd, gwelir ffordd fach i'r chwith oddi ar y B4417. Mae'n werth troi i mewn i'r fan honno ac aros am ychydig (mae mainc yno i eistedd arni hefyd) oherwydd ceir golygfa ysblennydd o wlad Llŷn yn ei chyfanrwydd bron o'r fan honno.


Cyfeiriadau[golygu]