Bwlchderwin
Ardal wasgaredig yw Bwlchderwin ar ffordd Clynnog Fawr wedi dringo Allt y Pant [1] o Bant-glas. Nid oes yma'r fath beth â chlwstwr o dai ond bu yma gapel yn un pen, ysgol Eglwysig sef Ysgol Ynys-yr-arch[2] yn y pen arall a siop mewn gwahanol dai ar wahanol adegau.
Cynnwys
Rhai murddunod yn yr ardal ym 1870[golygu]
Felog Bach, Yr Ochr, Tanychwarel, Y Foel, Cae'r Bwlch, Foel Fechan, Murforwyn Bach (dau dŷ), Pen Isa'r Mynydd, Cefn White, Maes Du, Stabl Goch, Cae Hir (tri thŷ), Cae Mwynan, Cae Crin, Cors-y-wlad (dau dŷ).[3]
Tai/Tyddynnod/Ffermydd yr ardal o tua 1870-1981[golygu]
Braich-y-foel; (Cofiai R. Gordon Williams "wyth o ddynion yn torri'r ffridd wrth y ffordd gyda phladuriau, y naill yn dilyn y llall gyda'r un rhythm yn eu pladurio, ac yn aros weithiau i roi min ar eu pladuriau gyda'r pren stric a'r saim a'r graean."[4]
- Tanychwarel;
- Terfynau;
- Derwyn Uchaf (Deuai Griffith Powell â'i gi gydag ef i'r Capel bob amser.);
- Tan'rallt; (roedd siop yn y tŷ hwn, pan oedd Sion Owen a Gwen ei wraig yno tua throad y ganrif ddiwethaf)[5]
- Plas Du;
- Ty'n-y-coed;
- Rhwngyddwyffordd;
- Muryforwyn;
- Gyfelog Ucha (ger Capel Bwlchderwin (MC));
- Baron Hill;
- Ty'n-Gors;
- Ty Newydd;
- Garreg Wen;
- Pen Isa'r Mynydd;
- Ynys-yr-Arch;
- Llwyngwanadl Ucha;
- Llwyngwanadl Isa;
- Ty Glas;
- Y Gors;
- Cors-y-wlad (pedwar tŷ ar un adeg).
Nid yw Gyfelog (ger yr ysgol) ar y rhestr hon. Yma y cartrefai J.R. Owen. Meddai R. Gordon Williams amdano: ...Ato fo yr âi pawb am gyngor neu i lenwi ffurflen ac roedd yn englynwr da iawn. Y fo luniodd yr englyn a gyfrifid yn un o'r englynion cofffa gorau. Englyn ydyw i dri o blant Nant Cwmbran a fu farw yn agos at ei gilydd:
Marwolaeth Mair a Willie, - a Rhisiart Wna i reswm dewi, Ond ffydd ddichon fodloni, A gweld trefn mewn galw tri.
Bu'n ddiacon ffyddlon ym Mwlchderwin am 67 mlynedd, ac yn gynghorydd gweithgar tros ei ardal am flynyddoedd ar Gyngor Gwyrfai..."
Yr enw[golygu]
Ar rai mapiau Ordnans ac mewn ambell i le arall, ceir yr enw "Bwlch Derwydd" ond mae hyn yn anghywir.
i'w barhau