Bwlch-y-llyn

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i: llywio, chwilio

Mae Bwlch-y-llyn yn gasgliad o dai, neu bentrefan, ar y ffordd rhwng Rhosgadfan a'r Fron, tua ¼ milltir neu lai cyn cyrraedd pentref Y Fron. Mae Capel Bwlch-y-llyn (A) yn dal i sefyll yno, er nad yw ar agor bellach. Yno hefyd oedd swyddfa bost yr ardal.[1] Arferai Tramffordd y Fron redeg trwy ganol y dreflan.

Eginyn.png Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ei datblygu.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Map Ordnans 25" i'r filltir, Caernarvonshire XXI.5