Cefn Buarthau, Trefor

Oddi ar Cof y Cwmwd
(Ailgyfeiriad oddi wrth Buarthau)
Jump to navigation Jump to search

Tyddyn ar gyrion pentref Trefor yw Cefn Buarthau - neu Cefn Berdda fel y caiff ei alw'n lleol. Mae ar fin y briffordd o Gaernarfon i Bwllheli, ychydig gannoedd o lathenni cyn y troad i lawr i Drefor. Yng nghanol y ddeunawfed ganrif cynhaliwyd un o ysgolion cylchynol Gruffydd Jones, Llanddowror yno. Sefydlwyd yr ysgolion hynny yn gynnar yn y ddeunawfed ganrif a chynhaliwyd rhai ar hyd a lled Cymru. Yr arfer oedd eu cynnal am rai wythnosau yn ystod y gaeaf pan nad oedd gwaith ar y ffermydd mor drwm. Ynddynt dysgid y disgyblion (a gynhwysai blant a phobl o bob oed) i ddarllen i safon fel y gallent ddarllen y Beibl a llyfrau defosiynol eraill. Roedd trefn dda i'r ysgolion hyn ac roedd angen i bob ysgol lunio adroddiad blynyddol ar ei gweithgareddau a'u hanfon at Gruffydd Jones a'i noddwraig gyfoethog, Madam Bridget Bevan o Dalacharn. Enwau'r casgliadau hyn o adroddiadau oedd "Welch Piety". Ynddynt ceir adroddiad am ysgol a gynhaliwyd yng Nghefn Berdda yn ystod gaeaf 1755-56. Nodir ynddo fod 34 o ddisgyblion wedi dod i'r ysgol, gyda'r mwyafrif ohonynt mae'n sicr yn dod o ardaloedd Tyddyn Hywel gerllaw, a'r Hendre (sef yr hen enw ar ardal Trefor). Mae bylchau yn adroddiadau'r Welch Piety sydd wedi goroesi ac mae'n bosib i'r ysgol gael ei chynnal yng Nghefn Berdda yn ystod gaeafau eraill ond i'r cofnodion hynny gael eu colli. Hefyd bu ysgolion cylchynol yn eglwys y plwyf yn Llanaelhaearn rhwng 1749 a 1773, ac addysgwyd oddeutu 380 o ddisgyblion ynddynt dros y cyfnod hwnnw.[1] Mae hen dŷ Cefn Berdda (sy'n enghraifft o dŷ hir Cymreig gyda'r tŷ annedd a'r beudai dan yr unto) ar ei draed o hyd ac mewn cyflwr gweddol er bod ffermdy diweddarach wedi'i adeiladu gerllaw tua diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg neu ddechrau'r ugeinfed ganrif.


Eginyn.png Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau[golygu]

{{cyfeiriadau

  1. Geraint Jones, 'Rhen Sgŵl, (Llyfrau Bro'r Eifl, Trefor, 1978), t.7