Bryn Gwydion

Oddi ar Cof y Cwmwd
Jump to navigation Jump to search

Mae fferm Bryn Gwydion ger Pontlyfni ac ym mhen mwyaf gogledd-orllewin plwyf Llanllyfni. Roedd Bryn Gwydion a nifer o diroedd gerllaw yn wreiddiol yn rhan o ystâd Plas Newydd. Safle hen annedd sydd yno, ac yn yr 17g., bu cangen o deulu Glynniaid Glynllifon a ddisgynnai o gangen Plas Newydd (Llandwrog) yn byw yma. Roedd Edmund Glynn (Bryn Gwydion) yn ynad heddwch adeg y Piwritaniaid, er nad oedd mor weithgar ar y fainc â'i gefnder o bell, Edmund Glynn o'r Hendre, Llanwnda. Tueddai Edmund Glynn y lle sillafu enw ei gartef fel "Brynygwdion".[1]

Aeres olaf hen deulu Bryn Gwydion oedd Ellen Glynn, Bryngwydion. Gwerthodd hi lawer o ystâd Bryn Gwydion, sef Eithinog Wen er mwyn codi arian i sefydlu elusen i godi elusendai i hen bobl plwyf Llandwrog. Mae Tai Elen Glynn yn sefyll hyd heddiw ger Cefn Hengwrt, Llandwrog.

Dichon bod yr enw'n hen iawn iawn, gan fod son am Fryn Gwydion ym Mhedwaredd Gainc y Mabinogi.

Eginyn.png Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Archifdy Caernarfon, XQS/1649-1660/amryw