Brwydr Brynderwin

Oddi ar Cof y Cwmwd
(Ailgyfeiriad oddi wrth Brwydr Bryn Derwin)
Jump to navigation Jump to search

Brwydr rhwng Llywelyn ap Gruffydd, sef Llywelyn ein Llyw Olaf a'i frodyr Owain Goch a Dafydd tua chanol mis Mehefin 1255 oedd Brwydr Bryn Derwin nid nepell o le a elwid yn Fwlch Dau Fynydd.[1] Roedd anghytuno wedi bod rhwng Llywelyn a'i frodyr Owain a Dafydd ynglŷn â phwy ddylai fod yn olynydd i Dafydd ap Llywelyn Fawr.

Mae Bryn Derwin yn ucheldir plwyf Clynnog Fawr, mae'n debyg (ond gweler isod) er y gallai fod ym mhlwyf Llanaelhaearn. Yn sicr, mae yng nghantref Arfon ond heb fod ymhell o'r ffin rhwng y cantref hwnnw ac Eifionydd. Ar ôl brwydr fer ond caled daliwyd a charcharwyd Owain yng Nghastell Dolbadarn a dichon i Dafydd gael ei ddal hefyd er bod y ffynonellau'n anghytuno ar y pwynt hwn.. O ganlyniad i'r frwydr hon daeth Llywelyn yn Dywysog Gwynedd gyda rheolaeth lwyr dros Wynedd Uwch Conwy, sef Môn, Eryri a Phen Llŷn. Roedd y frwydr felly'n allweddol i ymgyrch Llywelyn i fod yn rheolwr dros Gymru gyfan.[2]

Mae disgrifiad o'r frwydr yn fersiwn Llyfr Coch Hergest o Brut y Tywysogion:

Yn y dyddiau hynny magwyd terfysg mawr a anogwyd gan y Diafol rhwng meibion Gruffudd ap Llywelyn, sef, Owain Goch a Dafydd, ar un ochr, a Llywelyn, ar yr ochr arall. Ac yna arhosodd Llywelyn a’i wyr, gan ymddiried yn Nuw, yn ddiofn ar Fryn Derwin am ddyfodiad ei frodyr, a llu mawr iawn gyda hwy. A chyn pen awr, cipiwyd Owain Goch [Owain ap Gruffudd] a ffodd Dafydd, wedi i lawer o’i lu gael eu lladd, i eraill gael eu cipio a’r gweddill ffoi. Ac yna carcharwyd Owain, a chafodd Llywelyn feddiant ar diriogaeth Owain a Dafydd heb wrthwynebiad iddo. [3]

Cyfeirir at y frwydr mewn cerdd i Lywelyn gan y bardd Llygad Gŵr:

   Gwelai wawr ar wŷr lliosydd,
   Fal gŵr yn gwrthladd cywilydd,
   A welai Lywelyn, lewenydd - dragon,
   Yng nghymysg Arfon ac Eifionydd.
   Nid oedd hawdd, llew aerflawdd lluydd,
   Ei dreisiaw ger drws Deufynydd.[4]

Mae'r disgrifiad o leoliad y frwydr yn y gerdd uchod yn creu peth dryswch. Honnir gan rai, yn cynnwys neb llai nag Eben Fardd mai Bwlch Mawr yw enw'r bwlch rhwng y ddwy Gurn a'r mynydd a elwir yn Fwlch Mawr ar un ochr a mynyddoedd Crib Nantlle ar y llall, sef y bwlch eang y rhed y ffordd Caernarfon i Borthmadog trwyddo yn ardal Pant-glas. Noda ef, ac eraill megis y Parch. Peter Bayley Williams, mai'r bwlch rhwng yr Eifl a Moel Penllechog ger pentref Llanaelhaearn yw Bwlch Dau Fynydd. Rhaid felly amau ai yn ardal Pant-glas a safle Brwydr Bron-yr-erw oedd y man lle ymladdodd Llywelyn yn erbyn ei frodyr.[5]


Llyfryddiaeth[golygu]

J. Beverley Smith, Llywelyn ap Gruffudd: Tywysog Cymru (Caerdydd, 1986). Pennod II: 'Bryn Derwin'. Ymdriniaeth fanwl ar gefndir y frwydr a'i chanlyniadau.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Bu'r hanesydd John Davies yn darlithio ar frwydr Bryn Derwin yn Neuadd Bentref Clynnog yn y 1970au ac aeth pawb wedyn i weld y safle. Mae olion y frwydr i'w gweld yn dwmpath mawr ar fferm Terfynau, Bwlchderwin. Hyd y gwyddys nid oes cloddio wedi bod yma.
  2. J.E. Lloyd, A History of Wales, Cyf. II, (Llundain, 1939), tt.714-5
  3. Gwefan Meysydd brwydro Comisiwn Henebion Cymru http://meysyddbrwydro.cbhc.gov.uk/collections/getrecord/402322] Adalwyd 29.03.2018
  4. Wicipedia [1] adalwyd 29.03.2018
  5. Eben Fardd, Cyff Beuno (Tremadog, 1864), t.31; P.B. Williams, A Tourist's Guide through the County of Caernarvon", (Caernarfon, 1821), t.159