Brwydr Abermenai 1098

Oddi ar Cof y Cwmwd
Jump to navigation Jump to search

Roedd Brwydr Abermenai yn frwydr bwysig a ymladdwyd yn haf 1098 oddi ar arfordir Uwchgwyrfai.

Yr haf hwnnw ymosododd byddin fawr o Normaniaid, dan arweiniad Hugh Fras, Iarll Caer, a Hugh Falch, Iarll Amwythig, ar Wynedd a Môn. Yn amddiffyn y tiriogaethau Cymreig roedd y ddau dywysog Gruffydd ap Cynan a Cadwgan ap Bleddyn. Wrth weld fod byddin y Normaniaid mor gryf fe wnaeth Gruffydd a Cadwgan gyflogi llynges o filwyr cyflog Danaidd o Ddulyn i'w cynorthwyo. Ond cynigiodd y Normaniaid bris uwch i'r Daniaid am eu gwasanaeth a throdd y rheini yn erbyn y Cymry gan beri i Gruffydd a Cadwgan ffoi i Iwerddon. Ond fel roedd y Normaniaid yn credu iddynt gael buddugoliaeth ac yn achosi dinistr ar ddwy lan y Fenai, ymddangosodd llynges gref arall yn Abermenai dan arweiniad Magnus Droednoeth, brenin Norwy. Roedd hwnnw wedi hwylio i lawr arfordir Yr Alban a gogledd Lloegr gan ysbeilio Ynysoedd Heledd a Manaw ac yna cyrraedd glannau Môn. Heb betruso o gwbl ymosododd y Norwyaid, a oedd yn eu llongau, ar y Normaniaid, a oedd ar y lan, gan danio cawodydd o saethau atynt. Yn y frwydr lladdwyd Hugh Iarll Amwythig. Roedd yn gwisgo arfwisg dros ei gorff a helmed gref ar ei ben, ond roedd hollt yn yr helmed iddo weld drwyddi. Dywedir i saeth a saethwyd gan Magnus ei hun fynd drwy'r hollt ac i'w lygad a'i ladd.[1]

Ceir hanes y frwydr yn ddramatig hefyd yn yr Orkneyinga Saga, cyfrol a ysgrifennwyd yn Ynys yr Iâ oddeutu'r flwyddyn 1200 ac sy'n adrodd hanes gorchestion rheolwyr ac ieirll Llychlynaidd Ynysoedd Erch. Gyda'r brenin Magnus ar ei ymgyrch ysbeilio roedd dyn ifanc o'r enw Magnus Erlendsson, a ddaeth yn ddiweddarach yn Iarll Ynysoedd Erch ac a lofruddiwyd gan rai o'i elynion yno. Fodd bynnag, nid oedd Magnus Erlendsson yn ymladdwr Llychlynaidd nodweddiadol, a dywedir yn y Saga iddo wrthod ag ymladd ym Mrwydr Abermenai gan nad oedd ganddo unrhyw gweryl â'r Normaniaid ac iddo lafarganu Salmau tra oedd y frwydr yn cael ei hymladd o'i gwmpas. Gwylltiodd hynny'r brenin Magnus Droednoeth yn enbyd a dywedodd wrtho am fynd dan ddec y llong a pheidio â bod dan draed y rhyfelwyr![2]

Ar ôl iddynt gael curfa gan y Norwyaid yn Abermenai a cholli un o'u prif arweinwyr, tynnodd y Normaniaid eu byddin yn ôl o Wynedd a Môn a'r flwyddyn ganlynol (1099) llwyddodd Gruffydd ap Cynan a Cadwgan ap Bleddyn i ddychwelyd o Iwerddon ac adfer eu hawdurdod dros rai o'u tiroedd.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Thomas Jones (gol.), Brut y Tywysogion, (Caerdydd, Gwasg Prifysgol Cymru, 1955), tt.36-8. Gweler hefyd: John Edward Lloyd, A History of Wales, (Longmans, Green and Co., 1948), Cyfrol II, tt.408-11.
  2. Orkneyinga Saga, cyfieithiad Saesneg gan Herman Palsson a Paul Edwards, (Penguin Books, 1981), "The battle of the Menai Strait", tt.83-5.