Bodellog (trefgordd)

Oddi ar Cof y Cwmwd
(Ailgyfeiriad oddi wrth Bodellog)
Jump to navigation Jump to search

Cyfeirir at Bodellog fel trefgordd a phentrefan a leolir yn ardal Dinas, Llanwnda. Roedd y ffin i'r gogledd yn cael ei ffurfio gan Afon Gwyrfai tra bod trefgorddi Dinlle, Llanwnda a Rhedynogfelen yn ffinio â Bodellog tua'r de. Fe gynhwysai dir gwyllt i gyfeiriad y mynydd hefyd.

Disgrifiad o'r drefgordd yn y Record of Caernarvon[golygu]

Rhestrwyd y gwelyau, tenantiaid a'r rhenti neu'r nwyddau a gwasanaethau y disgwylid iddynt gyflwyno i'r Tywysog neu arglwydd y cwmwd mewn dogfen a luniwyd ym 1352 ac a elwir bellach yn Record of Caernarvon. Mae copi o fersiwn brintiedig y ddogfen hon i'w chael yn Archifdy Caernarfon. Erbyn 1352, Brenin Lloegr (neu ei fab hynaf, Tywysog Cymru) oedd yn derbyn y rhenti a'r rhoddion hyn, ond roedd y ddaliadaeth o dir yn dal i gydymffurfio a'r hen drefn o "wely" a rannwyd rhwng perthnasau. Isod ceir cyfieithiad o'r manylion am drefgordd Bodellog. Dan Stent Uwchgwyrfai 1352 ceir cyfieithiad o holl fanylion y cwmwd.

Nodir yn y Cofnod dan sylw fod pedwar gwely o dir rhydd ym Mhennarth tua 1352: Gwely Wyrion Roppert, Gwely Wyrion Dafydd, Gwely Wyrion Carwir a Gwely Wyrion Itgwil. Yr oedd yna hefyd un gwely o dir caeth, sef Gwely Cradog.[1]

Cyfieithiad[golygu]

D.S. Cyfieithiad rhydd sydd ar gael isod. Dylai'r sawl sydd yn deall Lladin droi at y fersiwn wreiddiol ar gyfer gwaith academaidd.

BODELLOG
Mae’r drefgordd hon yn “dref gyfrif” o ran ei natur, hynny yw os nad oes ond un tenant yn y drefgordd hon, mae hwnnw’n gorfod bod yn gyfrifol am holl daliadau’r drefgordd. Ac Adda Moel, Heilin ap Madog ac eraill, taeogion yr Arglwydd Dywysog, yw’r tenantiaid. Ac maent yn talu ym mhob tymor, 19s.11½c.
Cyfanswm blynyddol: 79s.10c.
yn lle’r holl wasanaethau [sy’n ddyledus] heblaw am ddyletswydd mynychu melin yr arglwydd a elwir Melin y Groes ac heblaw am dalu hanner marc  o ran unrhyw ebediw ac amobr pan fo’n ofynnol. Ac hefyd y maen nhw’n talu eu cyfran o ‘’staurum’’  yr arglwydd Dywysog adeg Gŵyl Sant Martin bob blwyddyn, hynny yw eu bod nhw a’r holl daeogion eraill a’r rhai y rhoddwyd tenantiaeth iddynt  yn y cwmwd hwn yn cyflwyno tri ych neu dair buwch yn unol â dewis yr arglwydd a thri chrannog  o borthiant gwartheg fel ‘’staurum’’ yr arglwydd hwnnw a gymerwyd fel 5s. yr ych, 40c. y fuwch a 6c. y crannog. Ac maent yn cludo [nwyddau] ar ran yr arglwydd gyda dyn a cheffyl a logir am 2c. y dydd mewn cymydau [eraill] ac am 1c. y dydd o fewn eu cwmwd eu hunain. Ac maent yn talu Cylch Rhaglaw. Ac maent yn talu bob blwyddyn ar adeg y Pasg 18c. tuag at waith y rhai a elwir yn Gymraeg yn “greorion” sydd yn gofalu am anifeiliaid gweithio’r arglwydd.
Cyfanswm blynyddol: 18c.

Hanes diweddarach[golygu]

Maes o law, fe rannwyd y rhan fwyaf o'r drefgordd yn dair ystad fechan yn cynnwys Plas-y-bont a elwid gynt, fel y trefgordd, yn Bodellog.Yn y man cafodd ystad y Faenol ddylanwad yn yr ardal, ac ym 1584, ceir teulu'r Faenol yn rhoi prydles 21 mlynedd i Lewis ap William, mab a brawd y tenantiaid gynt. Taid Lewis, a enwyd fel William o Fodellog yn y dogfennau, yw tenant cyntaf Bodellog y ceir sôn amdano, a hynny ar ddechrau'r 16g. O gyfnod Lewis ap William, mabwysiadwyd y cyfenw Lewis, ac roedd yr ysgolhaig ac awdur Huw Lewis yn fab iddo.[2]

Roedd hefyd achos o gwmpas yr unfed ganrif ar bymtheg, pan ddaru William Glynn (Y Sarsiant) geisio meddiannu’r lle hwn, a chafodd wrthwynebiad ffyrnig oddi wrth William ap Madog o’r Pengwern, Llanwnda.[3]

Gweler hefyd o dan Plas-y-bont am fanylion diweddarach am yr adeilad a'r teulu.

Cymysgedd yr enw[golygu]

Mae cyfeiriad cynnar iawn at Bodellog yn y ‘Record of Carnarvon’ o 1470 fel ‘Botelok’. Yr oedd y tref hwn yn cynnwys y tir rhwng Afon Gochoer ac Afon Faig, yn ôl Eben Fardd. Yr oedd Bodychain, Caer Du a Nantcall oll o fewn cyffiniau’r tref hwn, yn ogystal â Melin Bryn y Gro – a wasanaethodd fel eu melin.

Dadleuai W. Gilbert Williams fod camddealltwriaeth ynglŷn â’r datganiad uchod, gan fod ‘Bodellog’ yn hen enw ar Plas-y-bont hefyd, ac fod Melin y Bont Newydd yn cael eu chymysgu â Melin Bryn y Gro, gan mai enwau hŷn am felin y Bontnewydd, sef yr enw ar dafod-leferydd yn y 17g, oedd Melin Bodellog a enwid hefyd yn Felin-y-groes. Hawdd gweld sut y gellir cymysgu enwau melin y gro a melin y groes.[4]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Record of Carnarvon, tt.24.
  2. W Gilbert Williams, Hen Deuluoedd Llanwnda - II. Lewisiad Plas-y-bont, Cylchgrawn Hanes Sir Gaernarfon, Cyf.5 (1944), tt.41-3.
  3. W. Gilbert Williams, Bodellog Cymru, 1915 (Cyf. 48)
  4. Glenda Carr, Hen Enwau o Arfon, Llyn ac Eifionydd (Gwasg y Bwthyn, 2011)