Betws Gwernrhiw

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i: llywio, chwilio

Lleolir safle Betws Gwernrhiw ger porthdy Glynllifon, ger Llandwrog. Mae awgrym fod y lle hwn yn dyddio o gwmpas adeg Rhyfeloedd y Groes, gan fod tueddiad i’r gair ‘Betws’ gael ei chysylltu ag ‘Ysbyty’ (yn yr hen ystyr o Lety neu Breswylfod fel y ceir yn Ysbyty Ifan). Credir i’r lle yma ar un adeg fod yn Eglwys deuluol i deulu’r Glyn (Glynllifon). Gelwir y lle ar rhai adegau yn ‘Ysbyty y Plas Newydd’.[1] Dywedai’r hanesydd W. Gilbert Williams fod y lle hwn yn westy ar un adeg, oherwydd ei leoliad cyfleus ar y ffordd rhwng Caernarfon a Phwllheli. Honnir ef hefyd fod dirprwywr wedi cynnal achos llys ym Metws Gwernrhiw o gwmpas 1616, ac ei fod yn amlwg fod y lle hwn wedi bod yn hynod o arwyddocaol yn ei ddydd.

Erbyn tua 1660, fe ddefnyddid y lle fel tafarn ac mae sôn bod Edmund Glynn wedi mynychu cyfarfod yno ar y noson y cafodd ymosod arno ger Glan-rhyd.[2] Erbyn 1821, roedd y betws ynb furddun, ac fe'i ddisgrifir fel capel teuluol teulu Glynllifon.[3]

Mae'r coed o bobtu'r lôn sy'n arwain o Borth Mawr Glynllifon a'r plas yn dal i gael ei galw'n Goed y Betws.

Y mae ffynnon, sef Ffynnon Edliw neu Ffynnon Odliw, gerllaw'r man lle saif y porthdy heddiw. Dichon mai ffynnon sanctaidd yn gysylltiedig â'r Betws oedd hon, ac mae'n demtasiwn i amau ai edliw a gwernrhiw oedd yr un gair ar un adeg.

Eginyn.png Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ei datblygu.


Cyfeiriadau[golygu]

  1. Ambrose, W. R. Hynafiaethau, Cofiannau a Hanes Presennol Nant Nantlle (Penygroes, 1872)
  2. Williams, W. Gilbert Moel Tryfan i'r Traeth. Erthyglau ar hanes plwyfi Llanwnda a Llandwrog (Cyhoeddiadau Mei, Penygroes 1983)
  3. P.B. Williams, The Tourist's Guide through the county of Caernarvon,(Caernarfon, 1821), [1]