Betty Williams, AS

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i: llywio, chwilio

Gwleidydd Plaid Lafur yw Betty Helena Williams (ganwyd 31 Gorffennaf 1944 ym Mangor). Hi oedd Aelod Senedd y Deyrnas Unedig dros etholaeth Conwy o 1997 hyd 2010. Cyn cael ei hethol i'r senedd dros Gonwy, bu'n wleidydd gweithgar yn ei bro enedigol.

Bywyd Cynnar[golygu]

Roedd hi'n ddisgybl yn Ysgol Dyffryn Nantlle ym Mhenygroes, gan symud ymlaen i'r Coleg Normal, Bangor. Mae hi wedi derbyn y radd BA o Brifysgol Cymru, ac erbyn hyn mae hi'n cymrodwraig anrhydeddus Prifysgol Cymru, Bangor. Gwraig i Evan Williams yw hi, ac mae ganddynt dau fab.

Gyrfa Gwleidyddol[golygu]

Ym 1967 cafodd Williams ei ethol i fod yn gadeirydd Cyngor Plwyf Llanllyfni. Aeth ymlaen i fod yn Cynghorydd Ardal a Chynghorydd Sir dros Dal-y-sarn, ac yna yn Faer Arfon yn [1990. Bu hi'n aflwyddiannus yn cystadlu etholaethau Caernarfon ym 1983, a Chonwy ym 1987 a 1992. Dewisiwyd hi eto gan y Blaid Lafur i gystadlu etholaeth Conwy ym 1995. Yn etholiad cyffredinol 1997 cafodd hi ei hethol gyda mwyafrif o 1,596.

Cydnabyddid fod Betty Williams fel aelod seneddol Llafur teyrngar ac yn gefnogwr Prif Weinidog y DU, Gordon Brown.

Ym Medi 2008, datganodd Williams na fyddai'n sefyll yn yr etholiad nesaf.

Eginyn.png Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau[golygu]