Caer Belan

Oddi ar Cof y Cwmwd
(Ailgyfeiriad oddi wrth Belan)
Jump to navigation Jump to search

Amddiffynfa filwrol oedd Caer Belan, a adeiladwyd gan Arglwydd Newborough ym 1775. Lleolir hi ger Abermenai ar lan y Fenai, yn y fan lle mae’r afon ar ei chulaf cyn agor allan i Fae Caernarfon.

Fe'i hdeiladwyd yng nghyfnod yr gwrthryfel am annibyniaeth yn America, a thybir i Thomas Wynn gymryd ei ddyletswydd fel aelod seneddol o ddifri drwy adeiladu caer filwrol ar ei dir i amddiffyn y fynedfa i’r Fenai. Cafodd ei ymdrech ei gwobrwyo, oherwydd ym 1776 fe'i hurddwyd â’r teitl ‘Arglwydd Newborough’. Bu'n ariannu'r amddiffynfa hon o’i boced ei hyn hyd at 1782, pryd y trechwyd y Deyrnas Unedig yn yr ymdrech gydag America. Mae’r Gaer yn unigryw gan mai hi yw’r unig un a adeiladwyd yr ochr yma i'r Iwerydd yn uniongyrchol o ganlyniad i'r chwyldro Americanaidd.

Gelwid hi ar un adeg yn ‘Abermenai Barracks’, ac yna ‘Fort St. David’ ac, o tua 1840 ymlaen, Caer Belan a ddefnyddiwyd yn swyddogol. Roedd hefyd o dan ofal y ‘Loyal Newborough Volunteers’, a oedd â dyletswyddau tebyg iawn i fyddin breifat Glynllifon.

Adeiladwyd doc ar y safle o gwmpas 1824-1826, gan ddechrau traddodiad morwrol y teulu. Roedd Frederick Wynn, mab Spencer Wynn (y 3ydd Arglwydd Newborough) yn defnyddio’r lle hwn yn aml ac yn ymddiddori’n llwyr mewn cychod.

Cafodd y lle ei feddiannu’n orfodol gan y Llynges ym 1940 i gadw'r cychod hwylio ‘St. Joan’ a ‘Whim’, a chadwyd nifer o fadau/llongau achub yno hyd 1941. Wedi'r rhyfel, ac ar ôl i deulu Newborough werthu Plas Glynllifon, fe gadwyd Belan ganddynt fel eu cartref ar yr ystad nes iddynt ei gwerthu yn y 1990au. Erbyn heddiw mae modd aros a phriodi yn y Gaer, ac mae modd gweld yr hen ganonau a’r tyredi saethu fel yr oeddent yn y 1770au. Weithiau cynhelir cyngherddau yn adeiladau'r Caer.

Ffynonellau[golygu]

Jones, Ivor Wynne Fort Belan (1979)

Stammers, Michael A Maritime Fortress; The collections of the Wynne Family at Belan Fort (Caerdydd, 2001).