Bachwen

Oddi ar Cof y Cwmwd
Jump to navigation Jump to search
Bachwen.jpg

Mae Bachwen yn fferm fawr rhwng pentref Clynnog Fawr a'r traeth.

Mae'n enwog yn benodol am bresenoldeb hen gromlech neu simbr gladdiu ar y tir. Mae'r heneb yn sefyll ar godiad bach o dir allai fod yn olion pentwr o bridd a arferai orchuddio'r siambr gladdu. Mae'n weddol agos at y môr sydd i'w weld yn glir o'r heneb; gall safle arfordirol fel hyn adlewyrchu pwysigrwydd y môr mewn rhyw ffordd neu'i gilydd i'r rhai a'i gododd. Dyddia'r heneb yn ôl i'r oes gynnar Neolithig, 4200-3500CC.[1]

Mae'r olion sydd yno bellach yn cynnwys maen capan, sef slab mawr o garreg, gyda phedwar maen sylweddol yn ei gynnal; yr oedd un wedi diflannu, ond fe wnaeth sgweier Glynllifon, F.G. Wynn tua diwedd y 19g. osod un newydd yn lle'r un oedd ar goll. Wrth i'r gwaith gael ei wneud, cafwyd hyd i olion palmant o gerrig mân ac olion llwch du.

Mae dwsinau o bantau cwpan (cup-holes) ar y maen capan nad oes eglurhad ar eu cyfer, er eu bod yn artiffisial.[2]


Cyfeiriadau[golygu]

  1. Gwefan Ancient Monuments, [1], cyrchwyts 22.8.2019
  2. Comisiwn Henebion Cymru, ‘’Caernarvonshire’’ Cyf II (Llundain, 1960), t.55