Atgofion y Groeslon gan Eluned Jones

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i: llywio, chwilio
Mae'r dudalen hon wedi ei diogelu gan ei bod yn drawsysgrif (wedi'i golygu) o waith gwreiddiol. Os byddwch am ychwanegu ffeithiau, neu gywiro unrhyw camsyniad, anfonwch e-bost at wiciuwchgwyrfai@talktalk.net neu nodwch eich sylwadau ar y dudalen sgwrs, ar gyfer sylw gan y Gweinyddwyr. Gellwch hefyd nodi gwybodaeth ychwanegol ar dudalen briodol cyffredinol, megis Y Groeslon.

Mae dolennau at dudalennau eraill yn gweithio yn yr un modd ag ar dudalennau eraill.

Atgofion Eluned Jones ( gynt Williams), Chwilog (ganed 1916). Ganed 1916 a magwyd hi yn Nhyddyn Meinsier Y Groeslon. Cofnododd y nodiadau hyn ar gyfer Llyfr Y Groeslon, a gyhoeddwyd i ddathlu'r Mileniwm .

Capel Brynrhos

Cof bach sydd gennyf am y Parch Arfon Jones yn weinidog ym Mrynrhos, aeth i'r America. Roedd ganddo dri o blant, Dilys Megan (‘run oed â fi) a Gwilym. Parch D.O. Tudwal Davies ddaeth yn olynydd iddo, ac amser hynny fe unwyd gyda Bryn'rodyn. Dyn tal, hamddenol, rhadlon braf. Y Blaenoriaid oedd Griffith Jones Angorfa, John Owen Bala Villa, R.E. Owen Arwelfa, G. T. Williams Tyddyn Meinsier, R. W. Williams Bryn Gwenallt (y ddau olaf oedd arweinydd y gan) William Jones Isallt, John Hobley Griffith Llain Gro, J. T. Jones Meirionfa, Wm. Pritchard Pen Gamfa, cof bach am Robert Thomas Hafod Boeth, a'i dad Daniel Thomas Hafod Boeth a fyddai bob amser yn eistedd mewn cadair freichiau ar bwys y pulpud.

Tudur Jones Bryn Gwenallt a J. R. Williams Bryn Refail fyddai yn cyfeilio a John Gwilym Jones weithiau.

Byddai'r capel yn llawn ar nos Sul a chynulliad da yn y bore, Ysgol Sul yn y pnawn, pregeth bore a nos. Yn y Festri fyddai Ysgol Sul y plant, 5-6 dosbarth nes ein bod yn 14 oed a chael ein derbyn yn Aelodau, a chael mynd i'r Capel. Jane Williams Bryngorwel fyddai hefo plant bach dosbarth A. B. C. ar gadeiriau wrth y tân, May Williams (Jones), Llys Gwynedd, oedd un athrawes, a mam, a William Williams, Tan llyn, Ceri Rees Bryngwenallt, Maggie Tanllyn Bach, Jennie Eames Belan View, John Williams Cae Cregin. Megan (Arfon Jones, cyn iddi fynd i America) a finnau oedd yn un dosbarth. Roedd 6 neu 7 dosbarth yn y Capel. John Owen Bala Villa oedd athro fy mam. Roedd gan fy Nhad ddosbarth o ddynion, Hugh Williams Tanbryn, Dafydd Bryngorwel a rhyw 3 neu 4 arall a Robat Thomas (R.T.) pan fyddai yn bwrw. Yn Bwlan oedd o yn aelod ond deuai i Frynrhos os byddai y tywydd yn rhy arw i fynd i Bwlan. Dosbarth gan Robert Roberts Tŷ Helyg. Griffith Jones Angorfa, oedd athro fy nau frawd. Dosbarth arall gan J.T. Jones. Richard Jones Awelfor oedd athro dosbarth fy chwaer. Yn fy arddegau bu Ifor Hughes yn athro. Os byddai athro yn absen nol byddai rhywun arall yn dod atom.

Ar ôl bob Gwasanaeth byddai'r dynion yn un criw, yn pwyso ar wal y Festri i gael sgwrs a smoc.

Nos Lun byddai'r Gymdeithas Lenyddol, difyr iawn, papur gan rywun neu’i gilydd, ar hwn a llall. 'Toedd quiz ddim mewn bod amser hynny; swper yn y Festri ar ddiwedd tymor.

Nos Fawrth, Band of Hope, cystadlaethau, spelling bee, darllen darn heb ei atalnodi, codi seiniau ar y glust o'r Modulator. Wiliam Owen Brynteg, a ddaeth yn flaenor yn ddiweddarach, ac amryw eraill a J. R. Williams Brynrefail. Ef hefyd oedd yn arwain y Côr Plant, a'r practis ar nos Iau. Marciau fyddem yn ei gael am ennill a gwobr ar ddiwedd y tymor.

Byddai Eisteddfod Brynrhos Mawrth 24 a 25 bob blwyddyn. Y plant ar y 24 ac yn agored i'r byd ar y 25. Amser prysur iawn yn ymarfer parti cyd adrodd, canu, côr a chydstadlu unigol.

Nos Fercher, seiat, a gorfod dysgu testun pregeth a phennau bore a nos y Sul cynt, a byddai’r Gweinidog neu un o'r Blaenoriaid yn dod i wrando arnom fesul un. Os na fyddai pregeth wedi bod y Sul, byddai raid dysgu adnod newydd p'run bynnag. Byddai wedyn yn mynd i'r llawr a gofyn i'r gynulleidfa am eu profiad (sych iawn), neu rywbeth o'r Cyfarfod Misol.

Roedd dwy chwaer, Jane a Mary Jones Minffordd, yn selog iawn. Y ddwy yn cymeryd rhan yn gyhoeddus. Jane yn fain ac yn dal , a Mary yn lwmpan gron. Roedd Jane Jones yn drwm ei chlyw, a phan fyddai rhywun yn cyhoeddi, byddai Jane yn gofyn I Mary Jones “be mae o'n ddeud”, a fyddai neb yn clywed dim. Fe wylltiodd Mary un tro a dweud “Pam na roi di Oliver oil yn dy glustia” Roeddynt yn selog iawn ymhob Oedfa, Gymdeithas, Seiat a Chyfarfod Gweddi. Byddai Jane yn gwneud hetiau iddi hi a Mary, fyddai Ascot ddim ynddi!! Roeddent yn wirioneddol dlawd. Dim ond y [taliadau gan awdurdodau’r] plwyf oedd i'w gael amser hynny, gwerth rhyw 5 swllt o neges oeddent yn ei gael. Roedd ganddynt ardd reit fawr a rhyw ychydig o ieir. Byddai Jane Jones yn gwnïo hefo llaw, crysau gwlanen gartref, a throedio a gwau sanau i ddynion i ymestyn dipyn ar yr arian. Hi hefyd fyddai yn mynd allan i weithio pan gai waith, i gorddi neu olchi, neu hyd yn oed gweithio allan yn y caeau. Cai biseraid o laeth enwyn am ddiwrnod o waith, ac weithiau ychydig o fenyn. Erbyn bob Diolchgarwch, fel mae'n arferiad, gwneud casgliad. Roeddynt wedi hel pob tair ceiniog wen drwy'r flwyddyn, ac wedi gwnïo bag bach iddynt i'w roi yn y casgliad. Aberth mawr iddynt mae'n siŵr. Byddai fy mrawd yn mynd â thatws a moron a rwdan iddynt dros y gaeaf. Byddai Mam yn cael basgedaid o gwsberis ganddynt, a finnau druan bach yn gorfod eu pigo. Rydwyf yn gweld y fasged rwan, un wellt hir, pigo rhai, a rhoi y rhai heb eu pigo yn y gwaelod a rhoi y rhai wedi eu pigo ar y top, ond bu raid i mi ail eu gwneud i gyd, toedd Mam ddim yn wirion. Byddai'r ddwy yn dod i'r cyfarfodydd yn y gaeaf yn eu clocsiau, ac wedi rhoi sanau gwlan drostynt rhag gwneud twrw.

Ar ôl i Arfon Jones fynd i ffwrdd byddai William Evans Ty'n Rhos yn trefnu te yn y Tŷ Capel unwaith y mis, a'r elw yn mynd at yr achos. Bu'r Tŷ Capel yn wag am dipyn, nes daeth Robert Owen (Blaenor) yno i fyw o Dyffryn Terrace, a symud ymhen blynyddoedd i Bryn Gwenallt.

Byddai Cymanfa Ganu dosbarth Bryn’rodyn yn cael ei chynnal yn Bwlan, Rhostryfan, neu Bryn’rodyn. Cerdded fyddem ni, ac yr oedd yn dipyn o daith ar bob tywydd. Byddai cael mynd i Bwlan neu Rhostryfan, er yn bell, yn plesio'n iawn. Caem fynd i'r siop yn Llandwrog neu Rhostryfan i wario ar ôl cyfarfod y pnawn, a chael te yn y festri. Ddim balchach o fynd i Bryn’rodyn, dim siop yno.

Fel y dywedais , byddai Robat Thomas yn aelod yn Bwlan. Roedd yn werth ei glywed yn cymeryd rhan yn y Capel. Byddai wedi codi ar ei draed cyn y byddai'r blaenor wedi darfod galw ei enw. 'Run emyn fyddai yn ei ledio bron bob amser, nis cofiaf p'run erbyn hyn, a gweddïo o'r frest. Plês mwyaf fyddai gofyn iddo fod yn ŵr gwadd yn y Gymdeithas, pan fyddai Cyfarfod Amrywieithol yno. Dechreuai ei sgwrs bob amser, “glad to see you all looking so well” Now fy mrawd a Robat yn canu deuawd, “Owen a'r mul”, Now yn canu mewn tiwn, R.T.? Gwell peidio dweud dim, a phawb yn glana chwerthin. Cael gwadd i ganu i Gymdeithas Carmel a Bwlan, R.T. Yn blês iawn.

Yn y festri noson olaf y flwyddyn, byddai swper am 7, a chyngerdd yn y capel tan hanner nos i ddisgwyl y flwyddyn newydd i fewn. Pawb a'i swydd , Catrin Williams ,Tanbryn , Kate Jones, Glanrafon, Ann Roberts, Tŷ Helyg a rhywun arall yn torri bara menyn gwyn, a bara cyrens. Jane Jones Minffordd yn gofalu am lefrith a siwgr, a rhywun arall yn gofalu am fara brith a seed cake. Berwi dŵr yn y Tŷ Capel. Roedd Now fy mrawd wedi deall fod y Parchedig Tudwal Davies yn hoff o bennog coch. Gwneud un iddo, a'i roi ar blât iddo ar y bwrdd, Tudwal Davies yn mwynhau ei hun yn fawr, a hwyl fawr. Ar ôl i bawb ddarfod a chlirio dipyn, pawb i'r capel i'r cyngerdd tan hanner nos. Mynd i'r festri bore wedyn i ddarfod clirio a glanhau, a chael dipyn o'r sbarion. Ann Jane Penbryn oedd yn gofalu am lanhau y capel a'r festri, a hithau yn ddigon gwael ei hiechyd. Tân glo fyddai yn cynhesu'r festri . Grât o bobtu'r sêt fawr. Nid oedd dim yn cynhesu'r capel. Byddai yn ofnadwy o oer yno.

Chwith meddwl fod y capel yn wag, ac wedi ei werthu. Roedd fy nhaid, Thomas Williams Tŷ'n Rhos, yn un o'r rhai oedd ynglŷn a'r datgysylltu oddi wrth Bryn’rodyn, ac o Dyddyn Meinsier y cariwyd rhai o'r cerrig at ei adeiladu. Mae cae yno yn dwyn yr enw ‘cae capel’.

Roedd dau gapel arall yn y pentref, Gosen, Annibynwyr, a Ramoth, Bedyddwyr. Credaf mai un waith y bum i yn Ramoth, mewn practis côr, ac un waith yn Gosen. Tenau oedd y gynulleidfa amser hynny, ond yn selog iawn. Clywais sôn adref am Mr. Walter yn weinidog yn Gosen.

Dyddiau ysgol

Byddai plant yr ysgol yn cynnal cyngerdd yn y Neuadd unwaith y flwyddyn. “Dwy foch goch a dau lygad du” fyddai ffefryn Miss Grey. Roedd Now, fy mrawd wedi torri fy ngwallt fel hogyn a chauwn â thynnu fy het yn yr ysgol. Het sailor cream a ruban navy arni (smart). Miss Grey yn gofyn i fy nghyfnither ofyn i Mam, a oeddwn yn fod i adael fy het am fy mhen. Toes gen i ddim cof i neb chwerthin am fy mhen chwaith. Mary Elin Tŷ Popty yn taro fy mhen yn y wal, rhwng Tŷ Coch a Fron Heulog, am fy mod wedi mynd i'r ysgol o'i blaen. Bu'r graith yno am flynyddoedd. Y diwrnod hwnnw cefais fynd i'r hammock, oedd wrth wal bellaf yr ystafell, ar ôl i Miss Grey ei lanhau ac i'r gwaed arafu. Roedd Miss Penny yn athrawes yno hefyd, clên a ffeind iawn. Tri dosbarth oedd yn yr Infants.

Mynd i ddosbarth ar ben ei hun, Standard 1. Nid wyf yn cofio pwy oedd yn ein dysgu, ond cofiaf John Gwilym Jones yn dod yno am gyfnod, a'n dysgu ni i ganu “Pop goes the weasel”; whistle oeddem ni yn ei ganu. Tebyg mai yn y coleg oedd o ar y pryd. Yn 8 oed byddai plant Carmel yn dod i'r Ysgol. Roedd gan rai daith fawr, o Penfuches, a Trallwyn Terrace, sydd wrth ymyl tomen lechi Cilgwyn. Roeddynt yn dod a the mewn piser, a'i roi wrth y tan, tan amser cinio (nid oedd sôn am ginio ysgol); ysgŵn i sut flas oedd arno.

Ar ddiwrnod braf yn yr haf (ac roedd llawer ohonynt amser hynny) cawsem fynd am “country walk”, a hel blodau. Pawb yn mwynhau.

Yr Athrawon

Roedd Standard 2,3 a 4 yn yr ystafell fawr. May Owen Penisa’r rhos, oedd yn ein dysgu yn Std.2, ffeind iawn. Nid oes gennyf gof am William Ellis, y Prifathro, ond cofiaf fynd i'w angladd yn Eglwys Sant Thomas, tua 1922-23. Y plant hynaf yn yr Eglwys yn canu, “Ar ôl gofidiau dyrus daith” a ninnau yn y fynwent. Mae ei fedd wrth dalcen pellaf yr Eglwys yn y fynwent.

G. R. Evans ddaeth yn Brifathro wedyn. Roedd yn hoff iawn o ganu, a byddai yn mynd i drafferth i ysgrifennu sol-ffa ar y bwrdd du i ni ddysgu y caneuon , fel “Migl di magl di” ac eraill.

Yn dosbarth 3, Miss Williams o Bontnewydd, oedd yn ein dysgu. Roedd wedi bod yn dysgu fy chwaer hefyd. Roedd yn aros ar hyd yr wythnos yn Glanrafon.(Bryn Afon rwan). “Miss Williams pinsh” oeddynt yn ei galw. 'Dwn i ddim oedd hi yn pinshio, chefais i mo’r profiad. Roedd tân mawr yn y pen hwnnw, a guard rownd y tan, a fan honno fyddai'r piseri te, a Miss Williams, a'i chefn at y tân, a chodi ei sgert i fyny y tu ôl.

Byddai nyrs yn dod bob hyn a hyn, i edrych ar ein pennau, a'r meddyg ysgol, Dr. Parry Edwards. Dyn mawr, tew yn dweud fy mod yn rhy denau, ac eisiau i mi fwyta pwdin siwat, a bara llefrith, (a finna’n rhoi hwnnw i'r gath, pan fyddai mam yn nôl rhywbeth o'r tŷ llaeth, amser brecwast).

Dosbarth 4 a 5 yn y room zinc. Ystafell fawr hir, stove yn twymo, a guard o'i gwmpas. Mr. Williams o Ben-y-groes, oedd yr Athro ar un cyfnod. Byddai yn dod heibio fy nghartref a byddwn yn cael ”step” ganddo i'r ysgol.

Daeth Lily Jones o Dal-y-sarn a Griff Jones o Waunfawr yno yn athrawon. Athrawon ffeind, clên iawn. Bu i Lily Jones a Griff Jones briodi ar ôl i mi fynd o'r ysgol, a byw mewn byngalo yn Ffrwd Cae Du. Bu Griff Jones yn wael yn hir iawn. Griff Jones ddaru gychwyn y carnifal a Rose Queen. Julia oedd y gyntaf, geneth ddel iawn. Roedd yn byw yn Gladstone Terrace, drws nesaf i siop J. T. Jones. Y flwyddyn wedyn Esther Evans, Angorfa. Roedd cysylltiad rhyngddynt â Llanllyfni. Cofiaf hwy yn dod o'r America i Angorfa, Mrs Evans, Esther a Sera. Byddai Mrs Evans yn dod yn achlysurol o'r America . Aethant i fyw, ac adeiladu byngalo, “Hafan”, yn Llanllyfni, ond yn ôl i America yr aethant tua 1929-30.

Mynd i’r “ysgol fawr”

Yn 1927 euthum i'r Ysgol Ramadeg ym Mhen-y-groes. Cerdded yno . Roedd tua 3 milltir i gyd reit siwr, os nad yn fwy. Roedd yn daith i gychwyn i giat Wern, heibio Court a Garth. Byddwn yn cael mynd efo bus Jim Barlow o giat Wern os byddai yn law mawr. Ceiniog oedd y fare. Amser hynny dechreuodd motor Mrs Evans, Seiont Motors a chario dynion i'w gwaith. Cerdded adref hefo'n gilydd fyddai plant Groeslon, a dwyn rwdins bach o gae Garthdorwen, a digon adra. Tracsion Morris and Jones, oedd hefo warws fawr yn cei Caernarfon, yn rhoi pas i ni. Roed hi mor uchel, byddai'r dynion yn gorfod ein codi iddi. Corn mawr arni a glo yn ei gyrru. 1928-29 lluwch eira mawr ar ddydd Llun. Gorfod aros ym Mhen-y-groes dros nos. Ffyrdd wedi cau am tua wythnos, a dim ysgol.

Bywyd y pentref

Roedd yr athrawon yn weithgar iawn hefo'r Carnifal a bu yn llwyddiant mawr. Ar gyfer coroni'r Frenhines byddai “stage” a “full trimmings” wedi eu gosod yn y cae o flaen Tŷ'n Rhos. Cofiaf hefyd “tennis court” yno ar un cyfnod, ond fu hwnnw fawr o lwyddiant.

Roedd yn aeaf caled iawn, y fawnog wedi rhewi'n galed drosti. Dwsinau o oedolion a phlant yn dod yno i sglefrio bob nos. Sglefr fawr o Fryn rhos i 'r Church Room, ond erbyn rhyw fore yr oedd Sally Ifans, Casgin (Tai Newyddion), wedi torri ar y sbort ac wedi rhoi halen arni, wrth fynd i lanhau Ysgol Penfforddelen. Nid oes rhaid dweud nad oedd yn boblogaidd iawn! Wrth gwrs nid oedd bysus yn rhedeg o Garmel amser hynny. Gyda thrên yr ai pawb , trip ysgol ag ati.

Nid oedd radio gan fawr neb, ac efo corn chwarel fyddai pawb yn gwybod faint oedd hi o'r gloch. Canu 7 pawb yn dechrau gweithio, a cherdded i'r gwaith. Pen-yr-orsedd, Cilgwyn, Y Foel a Dorothea. Corn saethu 11 a thri, 12 amser cinio a 5 amser darfod gweithio. Roedd llawer yn mynd a dod ar hyd y llwybrau a sŵn eu hesgidiau hoelion mawr i'w glywed.

Roedd cymeriad arall yn y pentref, Bobby. Roedd yn byw ar allt Grugan. Nid wyf yn siŵr o'r berthynas. Nid oeddwn yn rhy hoff o Bobby ac roedd gennyf braidd ei ofn. Byddai ganddo gansen bach, a ddim yn fyr o'i defnyddio, ac iaith oedd ddim bob amser yn lân iawn, ond dim ei fai o oedd hynny, ond y rhai oedd yn dweud wrtho am ddweud pethau na ddyliai.

Ambell nos Sadwrn braf yn yr haf, byddai mam a nhad, fy chwaer a finna yn mynd i Ddinas Dinlle efo car a cheffyl, ac i Parciau Llanfair, lle roedd cyfnither i ni yn byw. Bum yn Dinas Dinlle yr haf diwethaf (sef tua 1999), ac roedd yn resyn gennyf weld y tŷ wedi dadfeilio. Dim tebyg i'r Dinas Dinlle oeddwn i yn ei gofio pan fyddem yn dringo i ben y boncen a cherdded yn ôl a blaen.

Byddwn yn mynd hefo mam i Rostryfan. Roedd ffrind ysgol iddi yn byw yno. Cerdded yn ôl a blaen, 3-4 milltir un ffordd, trwy “pant y cythraul”, ac ofn!

Mynd i Felin Forgan hefo nhad. Roedd Maud yn yr un dosbarth â fi yn yr Ysgol. Fe gafodd ei lladd efo car wrth Llanfair Arms. Roedd hi a'i mam wedi dod i fyw i dŷ dan lein ar ôl claddu ei thad.

Byddai gan Rolant Thomas, Y Llythyrdy, gôr yn y Neuadd bob nos Sul a nos Iau i ddysgu y Messiah, Judas Maccabeus etc. at fynd i Ŵyl Harlech, ac roedd bri mawr arno yn y 20au. Roedd fy chwaer a fy mrawd yn aelodau o'r Côr.

Nid oedd dŵr na thrydan. Cofiaf osod pibelli dŵr, a llanast! Cario dŵr fyddai tai Dyffryn o Cae Sarn. Dwn i ddim lle byddai gweddill y pentref yn cael dŵr. Yn Nhyddyn Meinsier byddai yn rhaid croesi un cae a chors, i derfyn Cefnen, i'r pistyll, a dŵr glan gloyw yno. Yno, hefyd y byddai tai Frondeg yn cael dŵr. Roedd ffynnon yn y gadlas yn Nhyddyn Meinsier, ond byddai yn sychu yn yr haf, ac angen llawer o ddŵr amser corddi. Y menyn fel oel, a'i adael mewn lle oer tan gyda'r nos i drio cael rhyw drefn arno. Nid wyf yn cofio pryd daeth trydan. Lamp oel oedd gan bawb, ac eisiau glanhau y gwydr bob bore. Lampau fyddai yn y Capel a'r Festri hefyd. Roedd fy nhad wedi gwneud lantern i mi fynd i'r Capel (Band of Hope). Pot jam dau bwys, llinyn am y gwddw, a llinyn hirach fel handlen, a channwyll y tu mewn iddi. Roedd yn gwmpeini. Roedd y ffordd yn reit unig nes dod i Fron Deg.

Siopau parlwr

Roedd amryw o “siopau bach yn y parlwr” yn gwerthu siwgr, te, bara a rhyw fanion. Belan View, Bryn Gwenallt, lle roedd Tudur Jones a Mrs. Jones yn byw. Roedd gan Tudur Jones fusnes becws yn Nhal-y-sarn, ac aethant yno i fyw yn niwedd 1920's. Ar ôl ymddeol fe gafodd Robert Williams Llys Gwynedd adeiladu sied o fewn i'r giat ac agor siop cyffelyb i Glanrafon yn gwerthu'r Herald, Y Genedl, Papur Pawb, Y Werin a'r Eco.

Yn Glanrafon, hefo'i gefnder, roedd Robat Thomas yn byw. Ef fyddai yn dod â'r Herald neu'r Genedl, a te, siwgr, bara a melysion. Crasu bara adra fyddai mam a fy chwaer, a byddwn yn gorfod dod â burum, gwerth grôt, wrth ddod o'r ysgol, a thorth wen fflat, a da fyddai hi, yn newid oddi wrth fara cartra. Grôt a dimai fyddai torth. Roedd Hannah Tŷ Coch , fy nghyfnither, wedi anfon ei brawd yng nghyfraith, oedd yn Albanwr, i Glanrafon i nôl burum. Posib i fod o wedi gofyn am 'yeast'. Fe dynodd Kate Jones bob dim oedd yn y siop. Tasa fo wedi dweud 'barm' efallai y byddai Kate Jones wedi deall, ond mynd oddi yno heb ddim fu raid iddo.

Tanllyn. Bob Jones yno hefo'i nain. Yno y byddem yn mynd â menyn yn gyfnewid am neges. Siop lawn ac yn gwerthu blawd, a becws mawr. Amser streic fawr 1926, byddai fy mrawd yn mynd a'r toes i Tanllyn i'r becws i'w grasu. Rhoi pisin o bapur ar waelod y tun cyn rhoi y toes i mewn, er mwyn cael gwybod pwy oedd ei piau. Dimai y dorth oedd am eu crasu.

Siop yn sownd wrth Meirionfa. Cofiaf feics yno. Daeth Ellis Williams, Rathbone (Terrace) yno i gadw siop grocer lawn iawn. Roedd ef a Debora, ei wraig, yn byw yn Rathbone Terrace, nis cofiaf ei rif. Roedd Debora yn ferch Cefnen, ond bu hi farw yn ieuanc. Ymhen amser fe ailbriododd Ellis Williams hefo Judith Murray o Bwllheli, oedd yn athrawes yn yr Ysgol. Roedd ganddynt dri o blant. Bu yntau farw, ac aeth ei wraig yn athrawes i Ynys Enlli.

Gladstone House. Siop ddillad dynion un ochr a manion a phethau tŷ yr ochr arall. I fyny'r grisiau ystafell hetiau ac un arall i esgidiau. Bu J.T. Jones (brodor o Lanuwchllyn) a Mrs. Jones (merch Llys Elen) yn ei chadw am flynyddoedd. Dechreuodd J.T. (fel y’i gelwid) trwy fynd o amgylch ar ei feic yn casglu “clwb”, fel y gallai pobl gael nwyddau o'r siop. Entri i fynd i'r cefn. Tommy crydd a'i frawd yno. Yn Carmel oeddent yn byw, ac yn dod hefo moto beic bob bore.

Rhianfa. Mrs Owen. Siop fferins. Mynd dros y wal i weld beth oedd yn y ffenast am geiniog.

Yn is i lawr, becws William Jones, yn Flaenor ym Mrynrhos, ond ei fab Robert Alun ydwyf fi yn ei gofio yno. Siop lawn iawn eto a becws yn y talcen.

Siop Phoebe Jones. Gwerthu pob peth a Tommy Williams, papur newydd yn Grugan Terrace. Roedd siop drws nesaf ond nid wyf yn ei chofio ar agor, ac yn is i lawr lle mae “bay window “ yno.

Siop Johnny Post. Gwerthu pethau tŷ, a'r Swyddfa Bost, hwythau yn gwerthu dillad merched. I fyny'r ffordd am Ben-y-groes roedd Hen Bost, cof bach sydd gen i ohoni yn agored.

Dros y ffordd i'r Swyddfa Bost roedd Siop John Eames. Gwerthu pob peth, a hufen ia, oedd yn beth reit newydd. Byddai'r mab, Dan Eames, yn gwerthu glo. Mynd o gwmpas hefo lori geffyl, ond boddodd yn cei Caernarfon ar nos Sadwrn, yn y 20au.

Roedd John Owen Bala Villa yn gwerthu glo nes ei farw, pan ddaeth Robert Williams Rhiwlas i gymeryd drosodd. 2/2c y cant fyddai y glo gorau, yn cyfateb i 11c heddiw.

Amaethyddiaeth

Diwrnod prysur fyddai diwrnod cneifio defaid. Byddai raid eu hel at eu gilydd. Byddai fy mrawd yn mynd cyn belled â Mynydd Grug i chwilio amdanynt. Ni fyddai byth yn cyfri'r defaid. Roedd yn eu hadnabod bob un, tua 70 ohonynt. Lawer gwaith fe'i clywais yn dweud wrth fy nhad, “mae dafad hon a hon ar goll”. Byddai yn rhaid eu cael yn sych cyn cneifio. Rhoi meinciau allan, a'r dynion yn dod. Dau o Uwchlaw'r Rhos, John Evans, Cae Forgan, Llwyd, Grafog ac un neu ddau arall. Byddai yn rhaid rowlio'r gwlan yn daclus a'i roi mewn sachau, a mynd â fo yn y drol i Ffatri Pen-y-groes, oedd amser hynny yn ymyl Lleuar Fawr, ar ffordd Rallt Goch. Wrth y stesion ym Mhen-y-groes oedd y siop, ac i fanno y byddai fy nhad yn mynd i gael ei arian, a sanau neu wlannen.

Diwrnod dyrnu oedd yn bwysig hefyd. Roedd yn rhaid cael diwrnod sych. Roedd y dyrnwr yn fawr a thrwm iawn, a thracsion â chorn arni yn gweithio'r dyrnwr. Roedd yn rhaid cael 4 neu 5 o geffylau i dynnu'r tracsion a'r dyrnwr, ar wahân, yn enwedig os byddai rhywfaint o allt. Byddai perchennog y dyrnwr yn aros ar y fferm dros nos, a chodi tua 5 i danio'r tracsion. Byddai eisiau rhagor o lo amser hynny i danio'r tracsion. Roedd yn cymeryd amser i godi stêm. Pan oedd wedi twymo digon, byddent yn chwibanu pib, oedd yn gweithio hefo stêm y tracsion, i'r ffermwyr wybod ei bod yn amser dechrau dyrnu. Byddai tua 10 -12 o ddynion, ac wedi iddynt gael bwyd a darfod dyrnu, aent i fferm arall. Roedd gwaith cario dŵr i'r tracsion a Robat Thomas fyddai yn gwneud hynny. Gwaith un arall oedd cario peiswyn, un arall yn mynd â'r yd mewn bagiau i lofft yr yd , rhai ar ben y das yn bwydo'r dyrnwr ac eraill yn gwneud tas wellt yn y gadlas i'w defnyddio o dan yr anifeiliaid yn y gaeaf. Amser caled, ond o edrych yn ôl, difyr iawn a chymdeithasol iawn, Ofnaf ei bod wedi mynd heddiw yn “come in, sit down a shut up” hefo'r pethau newydd yma. Diwrnod dyrnu byddai cinio i'r criw, gyda tatws popty, moron etc, fel cinio Nadolig. Fyddai ambell fferm ddim ond yn gwneud cig oer , a the a bara menyn. Fyddai hynny yn plesio dim, a diwrnod cneifio yr un fath.

Diwrnod crasu bara; ar ôl eu tynnu i gyd o'r popty, a'r tan oddi tano wedi diffodd, byddai fy mam neu fy chwaer yn rhoi dysglaid o bwdin reis yn y popty. Erbyn y bore byddai wedi gwneud a'r llefrith yn hufennog, binc, ac yn hyfryd.

Roedd pawb bron yn gweithio yn y gwahanol chwareli, ac yn cadw buwch neu ddwy at eu pwrpas eu hunain. Cofiaf weld , wrth fynd i'r ysgol, 6-7 o ferched yn troi gwair yn weirglodd Tŷ Coch a chaeau Glanrafon. Now, fy mrawd, fyddai wedi torri'r gwair, ac yn ei gario gyda'r nos. Os byddai golwg glaw arni byddai yn rhaid ei fydylu ( ei wneud yn docyn go lew) a'i chwalu wedyn, os byddai wedi bwrw yn y nos. Os byddai yn damp byddai yn siŵr o lwydo, a'r anifeiliaid yn gwrthod ei fwyta. Tyddynod bach oeddent i gyd, ychydig o aceri, 3-4 acer o dir oedd gan bawb. Nid oedd neb yn aredig, roedd y caeau yn rhy fach. Gan fod eisiau porthiant i'r fuwch, amser cynhaeaf gwair, byddai John Williams Tŷ Coch, a rhai eraill, yn mynd â'r fuwch ar hyd y lôn, yn yr haf , am rhyw awr neu ddwy, i fwyta'r gwellt glas ar ymyl y ffordd. Ni fuasai yn saff i fynd ag un heddiw.

Cowrt oedd ar derfyn fy nghartref i, ac Ann Thomas yn byw yno ar ei phen ei hun. Byddai Robert Thomas (oedd yn berthynas iddi) yn mynd yno i gorddi i helpu Ann. Ci fyddai yn corddi. Roedd olwyn yn y cwt wth dalcen y tŷ, wedi ei gosod yn gam yn fwriadol, ac yno y byddai y ci yn cerdded, a'r olwyn yn troi, wedi ei chysylltu rhywfodd â'r corddwr. Roedd un Glanrafon yr un fath. Roedd Robert yn siarad hefo'i hun ac yn ateb ei hun yn ôl. Lawer gwaith bu fy chwaer a finna yn waelod yr ardd yn gwrando arno wrth iddo ddod o Cowrt, “Rhaid i ti gofio am ffesant i Ann achan, y rhaid i ti gofio am ffesant Ann”. Margarine oedd y ffesant.