Atgofion am Rhos-isaf

Oddi ar Cof y Cwmwd
Jump to navigation Jump to search

Isod ceir atgofion o adeg ei febyd tua 1890-1900 gan Owen Ll. Williams, brodor o'r Rhos-isaf a ymfudodd i Vermont, U.D.A. pan yn ŵr ifanc. Fe ysgrifennodd yr atgofion hyn ym 1961-2, ac maent yn rhoi darlun difyr o fywyd y pentref, ac yn arbennig cymdeithas ac arferion yr ardal dros ganrif yn ôl.

Gan fod y gwaith isod yn waith gorffenedig mae wedi cael ei gloi rhag cael ei newid. Os oes gan unrhyw ddefnyddiwr awydd ychwanegu at, neu gywiro'r traethawd, anfoned neges e-bost at wiciuwchgwyrfai@talktalk.net gyda sylwadau priodol. Mae'r ysgrif wedi ei sganio o deipysgrif y gwaith, ac mae gwallau teipio ynghyd ag ambell i gywiriad bach arall wedi'i wneud er mwyn hwyluso eglurder y testun, ond fel arall, gadawyd arddull a sillafiad yr awdur i dystio i'w afael ar ei famiaith wedi hanner canrif a mwy yn America.

”Atgofion am Rhos Isaf”, gan Owen Ll. Williams, Wells, Vermont, U.D.A.

Gan fy mod wedi fy ngeni yn y flwyddyn 1880 y mae yr atgofion hyn yn cychwyn oddeutu 1886 hyd y flwyddyn 1901 pryd yr ymadawais â’r ardal i fynd i'r Taleithiau Unedig, lle yr ydwyf wedi byw dros drigain mlynedd bellach.

Gan nas gellir cyfeirio at Rhos Isa fel pentref, gan nad yw yn bentref ond ardal neu gymdogaeth, ac felly cyfeiriaf ati yn ar atgofion hyn.

Ei lleoliad ydyw i'r de-orllewin i bentref Rhostryfan ac mewn rhan o ddau blwyf, sef Llanwnda a Llandwrog.

Disgrifiad o'r ardal

Y mae yn dechrau yn y ffordd sydd yn arwain o'r ffordd Bost o Gaernarfon i Bwllheli. Dechreua’r ffordd rhwng yr hen ‘’inn’’ a'r ‘’inn’’ newydd, Yr hen ‘’inn’’ yn bersondy Llanwnda, a'r ‘’inn’’ newydd ydyw y tafarndy presennol. Y mae y ffordd droellog a chul yn mynd heibio'r ffermydd canlynol: Caermoel, a thros bont y rheilffordd gul heibio Dolellog a'r Gadlys, Bodaden ar y chwith a’r Talwrn a chaeau bach y Dinas hyd Benisa’rhos, a dyma ddechrau ardal Rhos Isa.

Y lle cyntaf i gyfeirio ato ar fin y ffordd yw addoldy Bethel perthynol i'r Wesleaid, am yr hwn y caf gyfeirio ato eto ymlaen. Yn ymyl yr addoldy y mae ffordd yn rhannu ar y chwith y mae un yn mynd i gyfeiriad Rhos Ucha heibio amryw fân dyddynnod hyd at Benyceunant lle mae yn cysylltu â ffordd arall. Ar y dde y mae ffordd yn arwain at Gaegarw a gelwid hi wrth yr enw hwn. Y mae y briffordd yn arwain ymlaen ar i fyny ac yn rhannu eto ar y chwith yn ffordd gul iawn at Tynyclwt a Brynmelyn ac yn cysylltu â ffordd arall i gyfeiriad Rhos Uchaf, yn nes ymlaen eto y mae yn rhannu ar y dde yn ffordd y Pwrws, ar bwys yr hon y gosodwyd y pilar post cyntaf yn yr ardal. Gan nad oes gennyf wybodaeth pa bryd y caed hwn ond rhyw dro yn niwedd y degawd diwethaf ond un o'r ganrif o'r blaen. Y mae y ffordd yn arwain o Frynglas a Pencaenewydd ac yn cysylltu â ffordd Gaegarw.

Yn uwch i fyny eto y mae yn rhannu ar y chwith: ym Mhenygroeslon ac yn cysylltu ym Mrynmelyn â lôn Tŷ’n Clwt, ac yn rhannu yn ymyl Tanycelyn yn ffordd at y Tryfan Bach a'r Caeau Cochion.

Nis oes yna ond ffyrdd cyfyng neu breifat hyd nes y deuir i Groeslon y Tryfan, lle y mae y ffordd yn rhannu, un ar y dde yn mynd i gyfeiriad y Ffactri a'r Felin Forgan ac ymlaen i Fryn’rodyn lle mae yn cysylltu â'r ffordd fawr o Gaernarfon i Benygroes. Y mae y rhan arall ar y chwith yn mynd ymlaen heibio Plas y Tryfan ac ymlaen at y Bryngwyn at ben uchaf y rheilffordd gul. Y mae yr ardal yr un fath heddiw yn cael ei gwneud i fyny o fân dyddynnod o ddwy acer i fyny i ddeg neu bymtheg acer, ond y rhan fwyaf o bump i chwech, neu lai. Yr oedd yma y pryd hynny un fferm o faintioli yn cadw 12-15 o wartheg godro sef Coed y Brain, a William Owen oedd y perchennog. Yr oedd William Owen yn gwerthu llefrith i’r ardal ac hefyd i Ros Uchaf, yn cael ei gludo ar gefn mulod bychain, a gwas bach yn ei ddilyn, ac yn rhannu y llefrith o ganiau oedd wedi eu gwneud i orwedd yn hwylus ar gefn ac ochrau y mul. Yr oedd gan y gwas gwpan â choes hir wrthi i godi y llefrith o’r can ai dywallt i unrhyw lestr a feddai y cwsmer i’w dderbyn, dull blêr a budr a hynod afiach wrth edrych yn ôl arno heddiw, faint o afiechydon a wasgarwyd trwy'r dull hwn o ddosbarthu llefrith, byddai'r llefrith yn agos i suro cyn cyrraedd y cwsmeriaid diwethaf. Chwarelwyr oedd moddion cynhaliaeth y rhan fwyaf o'r dynion yn yr ardal yn gweithio ar ochr y Foel a Mynydd y Cilgwyn a Glanrafon ar ochr yr Wyddfa.

Yr oedd y dynion a weithiai yng Nglan’rafon yn mynd gyda'r trên bach o'r Dinas i Salem, Betws Garmon a dyfod yn ôl yn yr hwyr, ond y rhai oedd yn gweithio ar y Foel a'r Cilgwyn yn cerdded bob bore a nos, yn cychwyn oddeutu hanner awr wedi pump yn y bore hyd hanner awr wedi chwech yn yr hwyr, yn gweithio deng awr, ac awr i ginio, y corn yn canu hanner awr wedi chwech yn y bore, a hanner awr wedi pump yn yr hwyr, cwtogwyd y diwrnod i naw awr rhyw dro yn y cyfnod hwn. Byd caled oedd byd y chwarelwr bryd hynny, a’r cyflog yn fychan ac yn byw mewn ofn a gwg yr oruchwyliaeth yn aml.

Yr oedd yma rai yn yr ardal yn byw heb fynd i'r chwarelau yn gallu gwneud eu bywoliaeth ar ychydig o wartheg a mochyn neu ddau a thipyn o ieir. Yr oedd yma hefyd rai crefftwyr, John Parry, Minffordd, a Thomas Humphreys, Tremarfon. yn seiri meini, Hugh Jones, Bryn Glas a Sam Hughes, Tanycelyn yn gryddion, John Roberts Bryn Melyn yn of, Edward Williams, Penlan yn gigydd. Yr oedd hefyd un efrydydd colegol Richard W.Hughes, Coedbrain Isaf, Morris H. Edwards, Tŷ’nyclwt yn athro yn yr ysgol ddyddiol.

Nid oedd ond un siop yn nechrau'r cyfnod, sef Siop Newydd fel ei gelwid y pryd hynny, yn cael ei chadw gan Robert Hughes Glyndŵr, tad a mam Mrs. Parry sydd yno yn bresennol. Yn fwy diweddar agorwyd siop arall yn y Wernas gan Mary Williams oedd yn wraig weddw, ac a briododd wedi i mi ymadael â John Cadwaladr, bu Mrs Williams yn llwyddiannus am lawer o flynyddoedd. Byddai Edward Williams yn dod gyda car unwaith yn yr wythnos , ac hefyd Richard Williams, Bronmeillion o'r Rhos Uchaf yr un modd, dyna'r cyfle gaem i gael cig ffres yn yr ardal. Byddai rhai yn dod o Gaernarfon i werthu penwaig, rhai fyddai wedi eu dal yn ystod y nos a byddem yn eu cael cyn hanner dydd, a beth oedd well na phennog wedi biclo yn y popty mawr gartref wedi gorffen pobi. Ar wahân i hynny cig mochyn wedi ei halltu gartref neu eidion ieuanc wedi ei halltu oedd y 'bill of fare' y rhan amlaf, a thatws newydd a llaeth enwyn ffres.

Yr oedd yn yr ardal un goruchwyliwr chwarel, sef Hugh Roberts Cae Cipris, yr oedd yn chwarel y Braich pan gofiaf ef gyntaf ac aeth wedi hynny i Gors y Bryniau neu Alexandria oedd yr enw swyddogol, bu yno am flynyddoedd lawer. Yn gymydog i Hugh Roberts yr oedd Robert Roberts Caegarw, byddai yn mynd heibio fy nghartref i'r Tryfan i ofalu am feddiannau Jane Griffith, hon oedd mewn oed lled fawr y pryd hwn, byddai Robert Roberts yn gofalu am yr adeiladau, yr ardd ac un ceffyl, yn dreifio mewn cerbyd pedair olwyn i’r eglwys i Lanwnda ac i'r dref i wneud negesau.

Un arall a daeth i fyw i’r ardal yn olynydd i Robert Roberts i Gaegarw oedd Owen Thomas y Giard. Yr oedd yn giard ar y lein bach. Ef oedd y cyntaf i mi i wybod amdano yn deori wyau gyda moddion mecanyddol (incubator), ef hefyd a wnaeth beiriant i'r ci gorddi (yr hyn a ddeallaf a greodd drwbwl i olynydd Owen Thomas a'i ddwyn o flaen ei well am greulondeb at anifeiliaid) yr hyn a glywais ac a ddarllenais amdano yw hyn.

Y mae hanes yr ardal yn gymhlethedig â dyfodiad y meddyg G.E. Williams i fyw i'r ardal, yr hwn a fu yn gaffaeliad mawr i'r ardaloedd cylchynol, cyn hynny yr oedd yn ofynnol mynd i Ben-y-groes i mofyn meddyg ac i gael cyffuriau.

Gan fy mod wedi cyfeirio at Jane Griffith, y Tryfan ac mai y lle hwn oedd y lle hynaf yn yr ardal ac yn dal cysylltiad agos â'r lle yn yr amser o fy mlaen, a chan nad wyf yn hynafieithydd, nag mewn cyfle i wneud ymchwiliad chwaith, nid wyf am gofnodi ond yr hyn a ddigwyddodd yn fy nghof i. Ymddengys fod yna ystâd fechan ar un adeg ac mae un o dai Tŷ’nrhos yn cael ei alw yn Tryfan Gate, ond yn fy amser i nid oedd ond y tir oedd yn gysylltiol âr Plas yn perthyn i'r lle. Cyn marw Jane Griffith yr oedd yno ddwy goedwig fechan, un yn union o flaen y Plas, lle mae Clos y Graig yn awr a'r tir a elwid yn Llwynsych, neu Coed Uchaf ac sydd yn bresennol yn rhan o'r Wern Olau, a'r goedwig arall ar y ffordd sydd yn arwain at y Ffactri ar yr ochr dde lle mae dau dŷ'n bresennol, a'r tir a brynwyd gan Thomas Jones, Bryn Peris ac sydd ym meddiant Mrs. Parry, Gwynfa yn awr. Torrwyd y coed derw yn y ddwy goedwig yn ystod bywyd Miss. Griffith, tynnwyd y rhisgl oddi arnynt a'i arfer i dannu lledr yn Lloegr, a'r boncyffion a yrrwyd i'r glofeydd i ddal y nenfwd yn ddiogel. Yr oedd yn aros ar ôl y derw y coed gwern, y rhai a dorrwyd ac a weithiwyd ar y lle i wneud gwadnau clocsiau, daeth yno nifer o grefftwyr cynefin â'r gwaith i wneud y gwadnau. Torrwyd y coed er mwyn y boncyff ag oedd yn ddigon o gwmpas i’w hollti yn bedwar darn a phob darn wedi ei lifio at fesur hyd y wadn, wedi I'r darnau gael eu torri i'r maint priodol i wneud gwadnau yr oedd y dynion yn eu llunio i ffurf y wadn. Yr arfau oedd ganddynt yn ôl y cof sydd gennyf oedd mainc oddeutu dwy droedfedd o uchder, pedair coed dani, oddeutu tair troedfedd o hyd wrth bymtheng modfedd o led. Ar un pen i'r fainc yr oedd dolen haearn, yr oedd cyllell fawr megis tair neu bedair modfedd o led ac ychydig yn llai na hyd y fainc. Ar un pen i'r gyllell yr oedd dolen i gydio yn y ddolen ar y fainc, ar y pen arall i'r gyllell yr oedd dwrn pwrpasol i law y gweithiwr fedru ei chodi i fyny a’i gollwng i lawr ar y fainc. Yr oedd yr erfyn hwn o angenrheidrwydd yn finiog iawn. Daliai y dyn y darn pren yn ei law chwith a gweithiai y gyllell â'r llaw dde i lunio'r gwadnau. Nid oeddynt yn ei hollol orffen, ond lled agos. Byddent yn eu rhoi ar eu gilydd yn ddestlus megis brics i’w sychu. Yr oedd gan bob dyn dent yn gysgod i weithio ynddi pan y glawiai ormod i fod allan. Yr oedd llawer o sglodion a darnau rhy geinciog i’w gweithio a gwerthid y rhai hyn i'r cymdogion at gynnau tân yn eu tai. Credaf iddynt fod yno am chwech wythnos neu fwy. Saeson oedd rhai o'r gweithwyr.

Yn lled fuan ar ôl torri'r coed bu Jane Griffith farw ac aeth y Tryfan o dan forthwyl yr arwerthwr, yn gyntaf gwerthwyd dodrefn y tŷ, a phob celfi oedd yn y tai allan, yr oedd yno dyrfa fawr wedi ymgynnull, a rhai o bobl fawr yr ardaloedd. Yn eu mysg yr oedd Frederick Wynn o Lynllifon. Yr oedd yr arwerthiant yn dynfa i lawer oherwydd henaint y dodrefn, yr oeddynt yn werthfawr iawn. Cofiaf un peth yn arbennig sef 'cruet stand' fel ei gelwid, ei ddefnydd o arian pur, gwerthwyd am £4, yr hyn oedd yn gyflog mis i lawer o'r chwarelwyr y pryd hynny. Wedi gwerthu'r eiddo symudol gwerthwyd y tir a'r adeiladau ac fe'i prynwyd gan Edward Williams, Penlan, y cigydd y cyfeiriais ato o'r blaen. Wedi iddo gael meddiant ohoni gwnaeth atgyweiriadau ar dŷ y Plas a chafodd denant yno, un o'r enw Mayhall, Sais y mae yn bosibl, ac hefyd dyma'r Sais unieithog cyntaf a ddaeth i'r ardal. Twrnai oedd ef wrth ei alwedigaeth ni fu fawr gyfathrach rhyngddo â'r ardalwyr tra y bu yno. Yr oedd o'r tu ôl I'r Plas adeilad lled fawr a arferid fel gweithdy i wneud gwregysau gan yr hen ysgweiar sef tad y Jane Griffith. Ymddengys fod rhai o’r teulu wedi cael 'patent' gan y llywodraeth i wneud y gwregysau, "hearsay" ydyw hyn. Gwnaeth Edward Williams atgyweirio y gweithdy a'i wneud yn dy annedd, a chafodd deulu o'r enw Pritchard yno i fyw, ac ychydig o aceri o dir gydag ef, ni fuont yno'n hir, a daeth Edward Williams ei hun yno i fyw a'i deulu.

Nid yw hanes y Tryfan yn gyflawn y blynyddoedd heb ddod â hanes y meddyg Dr. G.E. Williams y cyfeiriais ato o'r blaen. Daeth yno o'r coleg yn 1893 neu 1894 a sefydlodd yn yr ardal am flynyddoedd lawer hyd ei farwolaeth. Gwerthwyd rhan o'r tir i Thomas Jones, Bryn Peris, sef cae ar gongl groeslon y Tryfan ar ochr orllewinol i'r ffordd, a hefyd y coed isaf fei eu gelwid. Gwnaeth Thomas Jones waith mawr yma codi gwreiddiau yr hen goed a chodi cerrig ac adeiladu mur ar ochr y ffordd, hefyd adeiladodd feudai ar hen furiau oedd yno, rhelyw o hen dŷ mae’n debyg. Cododd Thomas Jones garreg fawr ar ei phen yng nghanol y mur ac y mae ei enw wedi dorri arni a'r flwyddyn y codwyd hi.

Tra yn gwneud atgyweiriadau yn y Tryfan o flaen y Plas ar y llidiart oedd yn arwain at y tŷ wrth dorri sylfaen yn y graean darfu i rywun feddwl fod yno aur ynddo, a bu'r lle yn agored am ysbaid ond gwelwyd nad oedd dim gwerth ynddo.

Yr oedd gan Miss Jane Griffiths "ladies maid" fel ei gelwid ym mherson Miss Roberts, dynes tal pryd tywyll yn gwisgo'n dda, a 'veil' ganddi bob amser ar ei hwyneb, byddai yn cerdded trwy'r ardal weithiau â chi bychan yn ei dilyn yn aml. Nid wyf yn cofio fod ganddi fawr o gyfathrach â neb yn yr ardal, a byddai yn mynychu eglwys Llanwnda ar y Sul, a chofiaf weld y Person Bach (fei y’i gelwid ef) D. L. Williams a oedd yn ficer Llanwnda ar y pryd, yn mynd i'r Tryfan i weld y teulu, a chofiaf y byddem yn blant yn ymgrymu iddo pan welem ef. Cai personiaid yr Eglwys Wladol fwy o barch ymddangosiadol nag a ddangosid i'r gweinidogion ymneilltuol, paham nid wyf yn gwybod. Cai y ciwrad oedd yn Rhos Uchaf yr un ymddangosiad o barch, yr hwn a gyfarfyddem yn aml wrth a dod i’r ysgol ddyddiol.

Yr addysg a gaem yn yr ardal oedd ysgol y Bwrdd yn Rhos Uchaf, a chofiaf dalu dwy geiniog yn yr wythnos am hynny. Byddai y prifathro yn treulio ychydig o amser ar fore Llun i gasglu y 'school fees' fel byddai ef yn eu galw. John E Williams oedd y prifathro y blynyddoedd hynny ac yr oedd ganddo amryw o athrawon ac athrawesau o dano. Y rhai cyntaf a gofiaf oedd Jane Hughes Cae Rhug yn ein dysgu i ẅnio, i beth oedd dysgu hogiau i hynny, os nad am wneud hen lanciau ohonom i gyd. Un arall oedd Margaret E Owen, Bryn Afon, Margiad Ellen fel y'i gelwid gennym, athrawes dda iawn, yr oeddwn yn ei hoffi y pryd hwnnw ac mae gennyf gofion cu am dani hyd heddiw, ers tri chwarter canrif. Rhai eraill a fu'n athrawon arnaf oedd Morris H Edwards, Tyn y Clwt, William Gilbert Williams, John O. Jones, Hafodtalog, Jane Roberts, Pantiau, Kate Jones, Bryneithin a'r Prifathro. Yr oedd yno rai eraill yn y cyfnod hwn yn athrawesau, sef Elizabeth Griffith, Tyddyn Gŵydd, Gwen Ellen Pritchard, Caecoch, ac Annie Hughes, Tŷ'n Ceunant, Catherine Roberts, Bryn Gwyrfai. Hyd ag yr wyf yn gwybod y mae yn aros o'r dosbarth diwethaf y bum ynddo, Ellen Griffith, Tŷ'n Llwyn, James Bracegirdle, Mary Jones, Garreg Diamond, Annie Roberts, Bryn Gwyrfai, a Maggie Pritchard, Glanllyn Cynlas. Yr wyf wedi rhoi eu henwau yma yn ôl eu cartrefi'r pryd hynny. Cawsom lawer o bleser yn yr ysgol a llawer o ddyddiau blin, ond nid ydym ddim gwaeth er hynny gan fod disgyblaeth yn anhebgorol angenrheidiol y pryd hwnnw fei ag y mae heddiw. Dydd mawr yn hanes yr ysgol y pryd hynny oedd ymweliad yr 'Inspectors’, un waith yn y flwyddyn, ac yn rhoi prawf arnom, ac ar eu barn hwy y byddem yn cael ein pasio neu ein symud i ddosbarth uwch. Y ddau arolygydd y pryd hyn oedd Mr Watts a Mr Roberts, a phob peth yn cael ei gario ymlaen yn Saesneg; Sais oedd Mr Watts, ond yr oedd Mr Roberts yn Gymro. Credaf mai anfantais i'r plant oedd dau ddyn dieithr yn arhoIi.

Yn gymdeithasol yr oeddem yn mynd i'r Rhos Uchaf i bopeth o Gymdeithas, y Band of Hope, y Gymdeithas Lenyddol, y Cyfarfod Llenyddol, cyfarfodydd darllen a'r St.John’s Ambulance. Yr oedd y pryd hwn glwb cleifion neu Glwb Capel Wesla, ond ei enw swyddogol oedd Cymdeithas Gynorthwyol Uwchgwyrfai, cymdeithas er cynorthwyo yr aelodau pan mewn gwaeledd neu wedi cyfarfod â damwain. Telid swm yn fisol gan yr aelodau i drysorfa arbennig o ba un pan mewn gwaeledd neu ddamwain nas gallai i rywun ddilyn ei alwedigaeth ceid swm wythnosol o'r drysorfa, yr hyn a ddosberthid yn fisol gan bwyllgor wedi ei benodi i'r pwrpas. Ar ddydd Llun y Sulgwyn byddai yr holl aelodau yn cyfarfod yng nghapel Bethel, Rhos Isaf ac yn trafod materion a fyddai o fudd i'r gymdeithas eu trafod a derbyn adroddiad y gwahanol swyddogion am y flwyddyn, gorymdeithid i rywle i gael cinio gyda seindorf o Ben-y-groes neu Dal-y-sarn ar y blaen. I Gaernarfon y bum i yn mynd gyda hwy a chael cinio yno mewn rhyw ystafell oedd ddigon mawr i eistedd dau neu dri chant ar unwaith.

Bu yma glybiau arian hefyd, ddau ohonynt, un gan Edward Williams, Penlan a'r llall gan Sam Hughes, Tanycelyn. Moddion i gynilo arian ar un llaw, a chyfle ar y llaw arall i rai gael benthyg arian dros dro. Tymor y clybiau hyn oedd ugain mis, telid iddynt swm neilltuol yn fisol. Yr oedd y swm a delid at ddewis yr unigolyn, ond faint bynnag y swm, yr oedd yn ofynnol i'w dalu yn fisol am ugain mis. Benthycid gan rai o'r clwb am yr ugain mis, ac er mwyn sicrhau y telid yr arian byddai yn ofynnol i'r benthyciwr gael dau yn feichiau. Buont yn cario ymlaen am amryw o flynyddoedd, ac ni chlywais am neb wedi colli arian ynddynt, yr oedd yn ffordd dda i gynilo.

Yr unig addoldy yn yr ardal oedd capel Bethel y Wesleaid, nid oedd nifer yr aelodau yn fawr ond yr oedd yno ffyddloniaid. Mae’n debyg mai Owen Jones, Bryn Gwyn Bach, oedd y mwyaf blaenllaw ohonynt, ni welais yno weinidog sefydlog ond cael pregethwyr o'r dref. Cofiaf yn arbennig un, sef Hugh Hughes y Braich, clywais ef ym Methel, a daeth i’r wlad hon am dro, yr ail waith iddo, yn gynnar yn y ganrif a chafodd dderbyniad calonnog gan y Cymru Americanaidd, gan ei fod yn bregethwr huawdl yn y ddwy iaith.

Yr oedd mwyafrif mawr yr ardal yn mynd i Horeb yn y Rhos Uchaf. Byddem yn cerdded yno dair gwaith ar y Sul, ac unwaith neu ddwy yn ystod yr wythnos, cyfarfodydd gweddi a seiat nos Fercher, ac nid ychydig o aberth oedd dod o'r chwarel am hanner awr wedi chwech a mynd i'r seiat erbyn chwarter wedi saith. Bwyta swper, ymolchi a newid dillad y chwarel am rai eraill gweddus i fynd i'r capel. Cefais i a llawer eraill, pryd hynny, ein hyfforddi yn yr Hen Destament a Hanes Iesu Grist dan arweiniad y Parch Thomas Gwynedd Roberts, a fu yn weinidog yn Horeb am bum mlynedd ar hugain. Cyfarfodydd egwyddori a chyfarfodydd i'n paratoi at yr arholiad sirol. Credaf fod llawer ohonom wedi cael cychwyn da dan ei arweiniad. Cyn mynd heibio i'r hyn a groniclais, carwn alw sylw i'r athrawon a gefais pan yn yr Ysgol Sul yn Horeb. Hugh Hughes, Tanywaen yn ein dysgu i ddarllen, a William Williams, Tan’rallt a Daniel Hughes, Caehen a Thomas Evans, Wernlaswen ac yn ddiwethaf oll Hugh J. Pritchard, Hugh Tan y Coed fel y’i gelwid.

Yn niwedd y ganrif gwnaed cais at Eglwys Horeb i gael adeilad i gynnal Ysgol Sul ynddo yn Rhos Isaf, ac wedi tipyn o ymdrech adeiladwyd Ysgoldy Libanus, a dechreuwyd cadw ysgol yno Tachwedd 26ain 1899. Daeth Robert O. Roberts, Glanaber yno yn swyddog i gychwyn gan nad oedd blaenor yn yr ardal y pryd hyn. Yr oedd Griffith Williams y Terfyn wedi marw ers tro, felly agorwyd gwaith yr ysgol gyda gwasanaeth arweiniol gan Robert O. Roberts, ar ôl hynny aed ati i godi arolygwr ac ysgrifennydd.

Codwyd Owen Jones, Hafodtalog, yn arolygwr ac Evan Williams, Tanyffynnon yn ysgrifennydd. Rhof enwau yma y rhai a fu yn gweithio yn galed i gael yr ysgol, sef y ddau a nodwyd a Henry Jones, Pant Golau ac Edward Williams, y Tryfan, Owen Thomas, Cae Garw, William Williams, Tanyffynnon, John Jones, Penrhosgwta, Sam Hughes, Tan y Celyn, Thomas Humphreys, Tremarfon, William Lloyd Jones, Graianfa, ac amryw eraill. Bu yma ysgol lewyrchus am lawer flwyddi hyd nes i'r Cymry fynd yn llai yn yr ardal. Y mae rhai yn aros a fu'n ffyddlon o'r dechrau sef Miss Jennie Roberts, Tanydderwen, a John Hughes, Llwynbrain. Cefais innau ran fechan yn nechreuad yr Ysgol Sul yn Libanus.

Gan mai chwarelwyr oedd mwyafrif y trigolion gellid disgwyl damweiniau, oherwydd natur beryglus yr alwedigaeth honno. Ni bu ond un ddamwain angheuol yn y cyfnod hwn, sef John Roberts, Tanlôn a gollodd ei fraich yn Chwarel Moel Tryfan a bu farw o ganlyniad i waedwenwyniad. Yr oedd y chwarelwyr yn bobl gymdogol a gwelid hynny yn amser y cynhaeaf gwair. Gan mai gwaith llaw oedd cael y gwair i ddiddosrwydd, yr oedd yn angenrheidiol cael cymorth llawer o ddwylo yn y tyddynnod bychain. Nid oedd y peiriant torri gwair ond dechrau y pryd hyn ac yr oedd y caeau yn aml yn fychan ac yn anodd i hyrwyddo y peiriant a dau geffyl ynddynt, ac heblaw hynny, yr oedd mesur o ragfarn yn ei erbyn, gan fod llawer yn credu nas gallent gael cymaint o wair gyda'r peiriant ag a geid gyda phladuriau. Yr oedd y rhan fwyaf o'r dynion yn gallu gwneud gwaith da o dorri gwair gyda phladur, a phan fyddai cymydog yn dechrau torri gwair ar ei le ei hun byddai yno o wyth i ddeuddeg yn ei gynorthwyo o fewn ychydig os mai pnawn Sadwrn neu fin yr hwyr y byddai, a'r un modd gyda'i gario i mewn i'r das neu y tŷ gwair. Byddai'r merched yn dod i helpu yn ystod y dydd i droi y gwair i'r haul neu ei gribinio at ei gilydd yn rhenciau i fod yn barod i'r dynion ei gario ar eu pennau wedi ei rwymo mewn rhaff bwrpasol i hynny, gwaith llaw i gyd. Byddai gwraig y tŷ yn paratoi pwdin reis i bawb ar yr achlysur. Deallaf fod yr arferion hyn wedi mynd heibio a llawer o'r lleoedd bychain wedi eu cysylltu â'i gilydd i wneud tipyn o fferm ohonynt; y mae oes y tair acer a buwch wedi mynd ers amser. Ai tybed fod bywyd cymdeithasol yr ardaloedd wedi colli rhywbeth oherwydd y cyfnewidiadau hyn. Cyn gadael hanes y cynhaeaf gwair, cofiaf y peiriant torri gwair cyntaf yn yr ardal i fynd o gwmpas yr ardal, oedd gan David Williams yr ail o'r Gadlys, ond yr oedd y bladur yn cael y lle blaenaf yn y cyfnod, a charwn gyfeirio at ddau oedd yn gampwyr yn hyn o beth, un oedd Wil Simon, dyna'r unig enw oedd gennyf arno, byddai yn galw mawr arno trwy dymor y gwair i fynd i ffermydd i waelod plwyfi Llandwrog a Llanwnda, yr oedd yn byw yn y tŷ a elwir yn Ferndale yn bresennol. Un arall oedd Richard Pritchard, Tyddyn Madyn, ni byddai ef yn mynd allan i weithio ond yr oedd ei waith gartref yn tynnu sylw am fod ei holl waith mor ddestlus. Ni byddai gwrychyn ar ei ôl yn y gweirgloddiau, ac yr oedd y teisi gwair yn y gadlas yn batrwm o ddestlusrwydd; yr oedd yn arferiad y pryd hynny o doi teisi gwair â llafrwyn oedd yn tyfu mewn lleoedd tipyn yn wlyb, ac yn ei doi a rhaffau wedi eu gwneud â gwair, bum yn troi y rhai hyn pan yn hogyn lawer i gwaith, gydag arf neilltuol o goed ac un dyn yn rhoi gwair am [ei] ben ac un arall yn troi y darn hwyaf.

Yr oedd yna gymeriad a ddeuai trwy'r ardal rhyw unwaith yn y mis, ei enw oedd Hugh Ffatri, dyna'r unig enw ag sydd gennyf arno, cerddai o Lanrwst meddir i Ffatri'r Tryfan, y rhai oedd yn byw yno y pryd hwn oedd Robert ac Evan Jones, y diwethaf oedd yn rhedeg y ffatri wlân pryd hwn, nis gwn a oedd Hugh yn frawd i'r ddau hyn ai peidio. Yr hyn oedd yn neilltuol ynddo oedd ei fod wedi gwneud ffigwr wyth ar lannerch las yng nghoedwig isaf y Tryfan, lle mae tŷ annedd yn bresennol. Cerddai y ffigwr bob tro y deuai heibio fel nas byddai glaswellt yn cael cyfle i dyfu arno, a byddem ninnau yn blant yn ei helpu trwy gerdded bob tro y deuem heibio a hynny yn ddyddiol, gan y byddai gennym wartheg yn pori mewn cae cyfagos am rai blynyddoedd, a byddwn yn eu cyrchu i'w godro fore a hwyr.

Cymeriad arall a ddeuai drwy'r ardal yn achlysurol oedd dyn y siop wen, o ba ran neu sir yr oedd nid wyf yn gwybod ond fod ei siarad yn wahanol i ni yn sir Gaernarfon; posibl ei fod o Ddinbych neu Fflint. Yr oedd golwg lân a thrwsiadus arno bob amser, ac wedi colli ei goes o'i ben glin i lawr, coes bren cyffelyb i goes rhaw oedd ganddo yn ei lle, nid oedd yr 'artificial limbs’ sydd ar gael heddiw wedi cyrraedd y perffeithrwydd y maent heddiw. Cariai ei siop mewn basged hirsgwar yn crogi wrth strap ar ei gefn, pethau ysgafn a werthid ganddo, rhag iddynt fod yn ormod o faich iddo eu cludo.

Cymeriad arall a ddaeth i'r ardal unwaith oedd un o'r enw Robert Travis, gan nad oes neb sydd fyw heddiw a'i gwelodd ac a'i clywodd ceisiaf gadw at yr hanes fel ac y cofiaf. Yr oedd y gŵr hwn wedi ei ollwng yn rhydd o benydfa yn rhywle yn Lloegr ddiwrnod neu ddau cyn ei ymweliad a'm cartref. Nid oeddwn fwy na saith neu wyth oed ar y pryd, ond mae'r amgylchiad yn fyw yn fy nghof heddiw. Y rheswm iddo ddod yno oedd ei fod wedi byw am ryw amser yn ymyl fy nain ym Mhenchwintan, Bangor, cyn i dad a mam fy nain a'r teulu symud i Rosgadfan, a chael caniatâd i gau darn o'r comin, ac adeiladu tŷ arno yr hwn a elwir yn Bryn Bach heddiw. Yr oedd Robert Travis yn Sais o waed ond wedi ei fagu mewn ardal Gymreig, yr oedd yn Gymro da a hwylus ei barabl. Cyhuddwyd ef o lofruddio ei ddarpar-wraig, yn ninas Lerpwl y digwyddodd hyn, mewn lle yr oedd nifer wedi ymgasglu i gael noson lawen cyn y briodas, yn ystod y loddest saethwyd y ddarpar-wraig yn farw. Cyn yr ergyd aeth y goleuadau allan, ac felly nis gallai neb fod yn llygad-dyst ond yr un a gyflawnodd y weithred. Cafwyd Robert Travis wedi neidio drwy ffenestr o'r ail lawr, wedi anafu ei droed, a dalwyd ef yno gan gwnstabliaid, fel yr oedd euogrwydd yn nodi ato yn union a chymerwyd ef i'r ddalfa, a bu'r achos yn y llysoedd am amser. Gan fod gan y cyhuddedig dipyn go lew o eiddo cafwyd ef yn euog, a dedfrydwyd ef i'r crocbren, ond ymhen rhyw gymaint o amser newidiwyd y ddedfryd i benyd-wasanaeth am ei oes, ond ymhen dwy flynedd a hanner cafodd ei ryddid, nis gwyddai pa fodd y pryd hwnnw, ac ni chlywais air byth beth a ddigwyddodd iddo. Y mae'n bosibl y gellid cael manylion am yr achos hwn pe gellid cael gafael ar y newyddiaduron a groniclodd yr achos hwn. Yr oedd, meddai ef, yn hollol ddieuog o' r anfadwaith ac os cofiaf yn iawn yr oedd yn tueddu i gredu mai chwaer a gyflawnodd y weithred oherwydd eiddigedd.

Byddai'r hyn a alwem yn garafán yn dod drwy'r ardal ar dro, dau o geffylau yn ei thynnu, wedi llwytho'n drwm â phob math o fasgedi a llestri tin, gan mai tin oedd defnydd ysgafn y pryd hynny, nid oedd enamel a 'granite ware' mewn arfer. Mae'n wir fod llestri haearn yn boblogaidd y blynyddoedd hyn ac hefyd rai pres, ac yr oedd hefyd lestri pridd a china.

Rhai eraill a ymwelent â'r ardal weithiau oedd sipsiwn, yr oeddynt yn cael lle i aros yn gyffredin yn y Tryfan ar ôl i Edward Williams gael meddiant o'r lle.

Amgylchiad arall o nod oedd ymweliad Mr. Gladstone â'r Wyddfa yn y flwyddyn 1892. Yr oedd yn ofynnol iddo ddod i stesion y Dinas a chymryd y trên bach oddi yno i Ryd-ddu. Yr oedd Mr Gladstone yn Brif Weinidog ei Mawrhydi Victoria ar y pryd, rhoddwyd cyfle i ni blant yr ysgol i fynd i'r Dinas i’w weld. Dyn byr o gorff a phen lled fawr, dyna’r argraff sydd gennyf amdano, ni ddywedodd ddim wrth neb hyd y gwn i. Yr oedd coaches y trên bach wedi eu prydferthu â rhubanau gwahanol liwiau. Yr oedd ef dros ei bedwar ugain oed ar y pryd ac yn nesu at ddiwedd oes faith fel gweinidog y goron.

Dyddiau mawr eraill yn ein hanes fel plant oedd y te partis, a chofiaf ddau yn arbennig, sef dathliad hanner can mlynedd o deyrnasiad Victoria, a phriodas Miss Annie Roberts, Bodaden â'r Dr Lloyd Williams o Lanberis, ynglŷn â'r hyn yr oedd bwa o flodau a changhennau bythol wyrdd wedi ei godi dros y ffordd sydd yn arwain at y fynedfa i gapel Horeb, dyddiau bara brith a the ac ni bu ei debyg byth wedyn.

Amgylchiad arall y gallaf ei groniclo yma gan ei fod yn rhan o hanes yr ardal oedd cyfraith y dŵr rhwng Coed y Brain a Chae Morfudd. Yr oedd ffrwd fechan o ddŵr yn dod o'r bryniau uwchlaw Coed y Brain, a byddai Coed y Brain yn ei arfer trwy gronfa i gorddi, a malu bwyd i'r anifeiliaid. Ai gwely'r ffrwd ddŵr yn ei chwrs heibio Cae Morfudd, ac yno hefyd yn cael ei gronni yn llyn i gorddi, ond os na throid y dŵr yn ôl yn Coed y Brain i’w redfa naturiol ni chai Cae Morfudd ddŵr at ei gwasanaeth. Aed ar achos i'r llys i’w benderfynu a dyfarnwyd yn ffafr Cae Morfudd. Creodd hyn gryn gynnwrf yn yr ardal am ysbaid a drwg deimlad rhwng yr ardalwyr.

Ni wnaed ond ychydig o gyfnewidiadau yn yr ardal yn ystod y cyfnod hwn, ond hwyrach mai nid allan o le fyddai cyfeirio at hen furddunnod oedd yma. Y cyntaf oedd tŷ Beti Wil Dafydd, fel ag y byddem yn ei galw, yr oedd yn sefyll lle a gelwir yn Dolwar yn awr, ac adeiladwyd mae'n debyg gan Edward Williams y Tryfan, ond bu hyn wedi i mi ymadael o'r ardal, paham y gelwid yr hen furddun wrth yr enw hwn nis gwn, gan fod enw ar bob tŷ a fferm y pryd hynny, ac yr oedd Tryfan Bach yn ei ymyl ac yn cael ei anheddu ar y pryd. O bosibl mai enw'r teulu diwethaf fu'n byw ynddo oedd y Beti Wil Dafydd.

Un arall o hen furddunnod oedd ar dir Tŷ Rhos, lle y mae tŷ newydd wedi ei adeiladu, byddai un rhan o'r hen dŷ yn cael ei arfer fel beudy a thŷ gwair. Y nesaf oedd yn ddôl fawr y Tryfan ar yr ochr bellaf o'r ffordd, ac nid oedd yma pan gofiaf ond ychydig o'r muriau yn aros. Yr hyn sydd yn gwneud i mi gofio am hwn oedd mynd yno i weld dwy ddafad wedi eu lladd gan gŵn neu gi, a rhoddwyd y bai ar gi bychan Miss Roberts oedd yn 'ladies maid' yn y Tryfan ar y pryd.

Hen furddun arall oedd ar gongl y coed isaf ar y ffordd sydd yn arwain at y ffactri, nid oedd yma ond ychydig o'r muriau yn aros, ac adeiladwyd beudy yno gan Thomas Jones, Bryn Peris.

Fe adeiladwyd chwech o dai newydd yn yr ardal yn ystod y cyfnod hwn, nis gallaf eu rhoi yn ôl y drefn o ran dyddiad eu hadeiladu, ond dechreuaf gyda Isfryn a adeiladwyd gan Robert Roberts, Cae Cipris, a bu ef a'i briod a'i blant yn byw ynddo am lawer o flwyddi. Y nesaf yw Tremarfon a adeiladwyd gan Thomas Humphreys yn lle yr hen dŷ. Coedybrain Isaf oedd hen gartref Margaret Humphreys. Adeiladodd Thomas Humphreys y ddau dŷ dros y ffordd i Tremarfon, a elwir Graianfa a Corwnda, ar ddau deulu cyntaf i fyw ynddynt oedd William Lloyd Jones ac Owen Owens, Cae Gwyn. Fe adeiladodd William Owen, Coed y Brain y ddau dŷ a elwir yn bresennol yn Min Eifion a Glasfryn, ond enw cyntaf Glasfryn oedd Coetmor, ac mae yna ddigwyddiad ynglŷn â Coetmor nas gallaf fynd heibio heb ei groniclo yma. Yr oedd pâr ifanc wedi ei rentu yn barod i fynd iddo wedi eu priodas, yr oedd y tŷ wedi ei ddodrefnu'n barod a dodrefn newydd hollol, ond fe dorrodd y ferch yr amod priodas mae'n ymddangos a gwerthwyd y dodrefn mewn arwerthiant cyhoeddus un pnawn Sadwrn, a chofiaf ddywediad yr arwerthwr cyn dechrau gwerthu, pe buasai'r gwr ifanc cystal carwr ag ef na fuasai raid iddo ddim gwerthu, (ond hen lanc oedd yntau). Credaf mai John Williams, tad a mam Mrs Williams sydd yn byw yn Min Eifion oedd y rhai cyntaf i fyw yno.

Moddion trafnidiaeth yn yr ardal oedd cerdded i'r capelau i'r chwarelau, at y trên i fynd i rhywle oddi allan i'r ardal, ond ar ddydd Sadwrn byddai ceir yn rhedeg i Caernarfon dair gwaith yn ystod y dydd, sef naw yn y bore a dau y pnawn a chwech yr hwyr. Y rhai cyntaf a gofiaf oedd Mary Jones Caehaidd Mawr a Harry Parry, Capel Wesla, byddant yn cychwyn o Groeslon y Tryfan i fynd i'r dref ac yn dod yn ôl oddeutu hanner dydd. Merched yn mynd i'r farchnad fyddai y rhan fwyaf ar y daith hon, rhai ohonynt yn mynd â ieir ac wyau a menyn i’w gwerthu'n y farchnad yn neuadd gyhoeddus y dref. Yn y daith y pnawn byddai y bobl ifanc yn gyffredin yn mynd i gael amser iddynt eu hunain ,i'r dref lle byddai yn gyrchfan meibion a merched o'r ardaloedd chwarelyddol. Bu eraill yn rhedeg ceir i'r dref heblaw y ddau a nodwyd, sef Richard Pritchard, Tyddyn Madyn a Thomas Williams, y Gerlan, y rhai hyn hefyd fel y lleill yn mynd ar y Sadwrn. Byddai Harry Parry yn mynd a llwyth i Ddinas Dinlle weithiau yn ystod yr wythnos, ac hefyd byddent oll yn mynd i'r dref ar ddiwrnod gwyl gyda llwyth. Yr oedd glo a blawd a bwyd i anifeiliaid yn cael eu cludo o Siop Laura Thomas (Siop Isa) gyda trol a cheffyl, hefyd o siop y Post neu Minafon gan rai yn gweithio i Thomas Griffith, hefyd byddai mulod yn dod â blawd i anifeiliaid o Felin Forgan. Yn y cysylltiad hwn cofiaf fynd i Felin Forgan i arwerthiant atafaelu ar rhyw gymaint o eiddo Daniel Eames am na thalai'r degwm i'r Eglwys sefydledig. Nid anallu i’w thalu oedd y rheswm am yr arwerthiant ond ei wrthwynebiad i'r ddeddf. Yr oedd Daniel Eames yn ymneilltuwr selog ac yn flaenor ym Mryn’rodyn. Yr oedd yr hyn a elwid yn rhyfel degwm yn lled boeth yng Ngogledd Cymru ar y pryd.

Cofiaf pan fu fy nhaid farw iddynt gadw gwylnos un noswaith tra'r oedd y corff yn y tŷ, cyfarfod gweddi oedd ffurf yr wylnos a Griffith William Williams, y Terfyn oedd â gofal y cyfarfod ganddo; yr oedd ef yn flaenor yn Horeb ar y pryd. Ai tybed mai rhywbeth wedi adael ar ôl gan y Babaeth oedd yr arferiad, ni chlywais ddim amdano ar ôl hynny? Arferiad arall a gofiaf gyda marwolaeth, oedd danfon, mynd â rhywbeth i’w fwyta ar gyfer y teulu a ddeuai i'r gladdedigaeth, byddai pawb o'r bron yn mynd i mewn i'r tŷ a rhoi darn o arian yn llaw y berthynas agosaf i'r ymadawedig, byddai hynny'n gymorth mawr i'r teulu yn enwedig pan fyddai pen teulu wedi gymryd.

Yr oedd yna amryw o amgylchiadau eraill a adawodd argraff ar fy nghof, yn eu mysg claddedigaeth Griffith Jones, Tyddyn Heilyn, yn cael ei gludo ar ysgwyddau ei gymdogion i gladdfa Rhostryfan. Un arall oedd 'close carriage' a dau geffyl yn ei thynnu yn dod i gyrchu un o'r cymdogion i weithdy'r Sir [sef wyrcws], yn ymyl Bont Saint y pryd hynny. Nid oedd gan y cymydog deulu mewn digon o oed i ofalu amdano, gallwn roi ei enw yma ond nis gwnaf hynny er nad oes neb o'i deulu ar gael heddiw.

Cofiaf hefyd ddathliad dyfodiad y Dug York i oed, sef un-ar-hugain, daeth ef ar ôl hynny yn Frenin Sior 5ed. Dull y dathliad oedd coelcerthi yma ac acw trwy'r wlad. Gwnaed un gan William Owen ar dir Coed y Brain, yr oedd wedi casglu ynghyd domen fawr o goed o bob math ac yn eu canol yr oedd baril o dar, fel pan ddechreuodd losgi yn lled dda gwnaeth goelcerth lled fawr, hyn oedd yn olygfa ryfeddol i hogyn saith neu wyth oed.

Ac yn ddiwethaf oli gweld amryw o gywion ffwlbart (meddant hwy) gan Jane Jones, Tyddyn Madyn oedd wedi eu dal mewn clawdd terfyn rhwng Tyddyn Madyn a Llainfadyn, lladdwyd y famog wrth geisio eu dal, ond yr oedd eu cywion yn ddigon ifanc i allu eu dal. Yr oeddynt yn dweud eu bod yn arogli yn drwm iawn, nid wyf yn cofio dim am hynny, ond yr wyf wedi meddwl lawer gwaith pa fath greadur oedd o gan na chlywais am un arall yn cael ei ddal yn unlle yn yr ardal. Y mae gennym yn y wlad hon [sef U.D.A.] anifail a elwir yn 'skunk' ac sydd yn arogli'n drwm iawn a dyma'r unig amddiffyniad sydd ganddo rhag ei elynion cryfach nag ef.

Os bydd i rywun ddarllen yr atgofion hyn gobeithio na bydd yn rhy llawdrwm ar yr awdur am ei flerwch, gan nad wyf yn honni dim yn y cyfeiriad hwn, ond yr wyf wedi cael pleser yn eu hysgrifennu yn ystod misoedd gaeaf 1961 - 1962.